Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 
English

Y Barics

Yn gyferbyniad i dŷ diddos y Peiriannydd ceid y baricsod, ymhell uwchlaw'r Amgueddfa, sef yr adeiladau ger y ponciau lle byddai’r dynion a deithiai o bell yn aros yn ystod yr wythnos. Ers talwm byddai gŵyr o rannau o Sir Fôn — Llangaffo, er enghraifft — yn gadael cartref cyn tri ar fore Llun ac yn cerdded at Fferi Moel y Don. Cerdded o'r Felinheli i Benscoins wedyn i ddal y trên yr ochr draw, ac yna dringo i'r baricsod. A hynny i gyd cyn cychwyn gwaith y dydd! Byddai gan lawer ohonynt dyddynnod draw ym Môn a deuent â'u bwyd — bara a chaws, menyn cartref a chig moch — ganddynt yn eu waledi, sef sgrepanau hir o liain gwyn. Yn wir, 'moch Môn' yr oedd y chwarelwyr eraill yn galw ar y dynion hyn!

Barics

Roedd stafell fyw a stafell wely ym mhob barics, a lle i bedwar dyn. Rhyw fannau digon llwm oeddent mewn gwirionedd – doedd yno ddim trydan, roedd y celfi’n amrwd ac roeddent yn llefydd da dros ben i fagu chwain! Rhaid oedd gosod papur llwyd ar y ffenestri i gadw'r gwynt draw. Gallai hwnnw fod yn ddigon milain — roedd yno res o farics ym Mhonc Aberdaron, dros 600 metr uwch lefel y môr — a fedyddiwyd 'Ireland View'.