Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 
English
Yr incléin

Yr Incléin a'r Wagenni: Allforio'r Llechi

Buddsoddodd perchnogion y chwareli'n drwm i adeiladu ffyrdd a rheilffyrdd i wella'r cysylltiadau rhwng eu chwareli a'r porthladdoedd. Fel y mae ei henw Saesneg, Port Dinorwic, yn awgrymu, datblygwyd pentref pysgota bychan Y Felinheli yn borthladd pwysig ar gyfer allforio llechi Chwarel Dinorwig. Ar y dechrau, cludid y llechi mewn cewyll ar gefn ceffylau i'r Cei Llydan ac oddi yno ar gychod i Gwm-y-Glo ac wedyn ar droliau i Gaernarfon a'r Felinheli. (Yn y Cwt Injan cewch weld cwch cludo llechi o'r 18fed ganrif a godwyd o Lyn Padarn yn y 1970au.) Costiai mwy i gludo'r llechen nag i'w chynhyrchu — ym 1778, er enghraifft, costiai'n ddrutach i gludo'r llechi i'r Felinheli nag y gwnâi i'w cludo nhw oddi yno i Lerpwl!

Ym 1824 adeiladwyd tramffordd geffyl i gysylltu'r chwarel a'r porthladd. Ond erbyn 1848-9, datblygwyd ffordd mwy effeithiol fyth o gludo'r llechi, sef rheilffordd trenau stêm Padarn. Byddai Jennie Lind a Fire Queen i’w gweld yn gyson yn stemio’n ôl a blaen i Benscoins, uwchlaw pentref y Felinheli. Ond sut oedd cael y llechi i lawr y mynydd at y trenau?

O ddilyn yr arwyddion at yr incléin mi welwch yr ateb: llwythid y llechi ar wagenni a fyddai’n disgyn i lawr yr incléin ar gledrau hyd y gwaelod, lle caent eu gwagio. Byddai gwrthbwys wedyn yn tynnu’r wagenni gweigion yn ôl i fyny’r incléin a byddai’r broses yn cychwyn drachefn.

Cafodd yr incléin hon, y V2 ei hadfer i’w chyflwr gwreiddiol ym 1998, diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a bellach mae modd i’w gweld hi ar waith yn gyson (gwelir y manylion ar fwrdd du wrth y fynedfa i'r Amgueddfa). Hon yn wir yw'r unig incléin sydd ar waith yng ngwledydd Prydain heddiw.

Dim ond y cam cyntaf, wrth gwrs, oedd cael y llechi i'r porthladd. Oddi yno aent yn eu miloedd ar longau ager a llongau hwylio i arfordir Prydain, gogledd Ewrop, UDA ac Awstralia — pedwar ban byd yng ngwir ystyr yr ymadrodd.