Yr Ysbyty, Damweiniau ac Afiechyd

Ysbyty

Yn groes i'r Gilfach Ddu, a oedd ar y cyfan yn lle diogel i weithio, medrai’r chwarel fod yn lle hynod o beryglus. Golygai’r holl waith ffrwydro y gallai craig ansad ddisgyn yn ddirybudd, gan gladdu gweithiwr yn fyw neu ei daflu tros ddibyn gannoedd o droedfeddi o uchder. Rhwng 1822 a 1969 lladdwyd 362 i gyd, er na laddwyd erioed mwy na thri ar y tro. Damweiniau claddu gan graig oedd y rhan fwyaf ohonynt.

Wedi adeiladu Ysbyty bwrpasol ar lannau Llyn Padarn ym 1860, byddai dynion a oedd wedi cael damwain yn cael eu cludo yno’n syth i dderbyn sylw meddygol gan ddoctor yr Ysbyty. Bu yno gyfres o feddygon dros y blynyddoedd. Y mwyaf nodedig ohonynt, o bosib, oedd Dr. Mills Roberts – gŷr amryddawn dros ben, yn ôl pob sôn. Yn ogystal â chwarae pêl-droed dros Gymru yr oedd yn llawfeddyg ardderchog a allai ymateb yn chwim i amgylchiadau arbennig gweithle fel y chwarel. Dr. Mills Roberts a gof y Gilfach Ddu a luniodd ddwy fraich fetel i chwarelwr a oedd wedi colli ei freichiau ei hun mewn damwain.

Cyn cyfnod y Wladwriaeth Lês, cedwid swllt (5c heddiw) — ‘swllt hospitol’ — yn ôl o gyflogau’r dynion fel y câi’r chwarelwr neu unrhyw aelod o’i deulu a âi’n sál fynd i’r ysbyty am ddim. Peth arferol iawn fyddai cynnal cyngherddau elusennol, a chyfeillion chwarelwr a oedd wedi colli ei waith oherwydd afiechyd ac aelodau o’r gymdeithas leol, yn rhoi o’u doniau a’u llafur yn rhad i godi arian iddo ef a’i deulu.

‘Odd y'ch cyflog chi'n stopio, y noson o chi'n câl ych brifo.’

‘Os bydda 'na ddamwain, bydda chwarelwrs yn mynd adra 'de. Darfod gweithio’r diwrnod hwnnw. Parch 'de.’

Roedd yno fygythiadau llai amlwg i iechyd y chwarelwyr, hefyd – yn arbennig felly y diciáu a chlefyd y llwch (silicosis). Rhoesai Dr. Mills Roberts awgrymiadau ymarferol a chall ar eu hiechyd i’r chwarelwyr a’u teuluoedd: awyru'r tŵ yn dda, gwisgo gwlanen nesaf at y croen ac ymolchi yn aml. Dylai'r chwarelwr 'fyw am rhywbeth heblaw te a bara menyn, ac amrywio ei ddeiet â bwydydd o bob math, yn arbennig llysiau'r ardd’. Ond dadlennol yw ei argymhelliad i gofio ‘nad oes Dim Maeth mewn Te', oherwydd am flynyddoedd lawer bu meddygon yn rhoi’r bai am glefyd y llwch ar arfer y dynion o yfed te cryf a fyddai’n mwydo ganddynt drwy’r dydd.

Erbyn heddiw, Cyngor Sir Gwynedd sy'n rhedeg Canolfan Ymwelwyr yr Ysbyty. Mae ar agor yn rheolaidd yn ystod misoedd yr haf (gweler y bwrdd du wrth y fynedfa i ganolfan hybysrwydd Parc Padarn).

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.