Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 
English

Y Chwyldro Diwydiannol a'r Fasnach Lechi

Bu dynion yn cloddio llechi yng ngogledd Cymru ers dros 1,800 o flynddoedd. Defnyddiwyd llechi i adeiladu rhannau o'r gaer Rufeinig yn Segontium yng Nghaernarfon —ac yng nghastell mawreddog Edward 1af yng Nghonwy.

Ond gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol yn y 18fed ganrif y ffrwydrodd y diwydiant llechi go iawn. Wrth i bentrefi bychain fel Manceinion chwyddo'n drefi mawr ac yna'n ddinasoedd yn sgîl dyfodiad ffatrïoedd a gweithfeydd, daeth galw mawr am lechi i doi'r terasau hirion o dai a adeiladwyd yn gartrefi i'r gweithwyr —heb sôn am y ffatrïoedd a'r ffowndris eu hunain.

Ym 1787 agorwyd 'chwarel fawr newydd' Dinorwig gan bartneriaeth o dri gŷr busnes —a Thomas Assheton Smith yn un ohonynt —ar y llethrau rhwng lleoliad presennol pentref Dinorwig a glannau Llyn Peris. Erbyn y 1870au roedd chwarel Dinorwig yn cyflogi dros 3,000 o ddynion.

Erbyn hyn, hefyd, cloddio llechi oedd un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru. Yn wir, Cymru a gynhyrchai dros bedwar rhan o bump o holl lechi Prydain yn y cyfnod hwn, a Sir Gaernarfon oedd ar y brig ymhlith holl siroedd Cymru. Ym 1882 cynhyrchodd chwareli'r sir dros 280,000 o dunnelli o lechi toi gorffenedig; ac ym 1898 cyrhaeddodd y fasnach lechi yng Nghymru'n gyffredinol ei hanterth pan gynhyrchodd 17,000 o ddynion 485,000 tunnel o lechi.

Allforio Llechi o Gymru Ledled y Byd 1882