Cloddio Llechi

Cloddiwyd chwarel Dinorwig allan o fynydd Elidir, fry uwch ben y Gilfach Ddu. Y cam cyntaf yn y broses o gloddio llechi oedd rhyddhau peth o'r graig —yn gannoedd o dunnelli weithiau —o'r wyneb. Byddai'r chwarelwyr yn tyllu i'r graig a'i lenwi â phowdwr du ('y rhwygwr du' neu'r 'llwch du bach') neu ffrwydron. (Rhoddai powdwr du ffrwydriad 'tynerach', a oedd yn llai tebygol o niweidio craig dda.) Rhoddwyd ffiws yn y powdwr a'i danio gan un dyn a fyddai wedyn yn ymuno'n reit handi â'i gydweithwyr yn y caban 'mochel.

Digwyddai'r ffrwydro ar adegau penodedig pob dydd.

[delwedd: Ffrwydron]

Wedi dychwelyd i wyneb y graig byddai angen clirio'r rwbel ac unrhyw ddarnau simsan, peryglus o'r graig. Byddai dau o'r chwarelwyr wedyn yn mynd ati i droi'r blociau llechi'n 'bileri' o 100kg–200kg yr un gyda chŵn galed a morthwyl. Byddai dau aelod arall o'r un tîm wrthi'n gweithio yn un o'r gwalia agored —cytiau dan do heb flaenau iddynt. Wedi iddo bileru'r crawiau yn ddarnau hirsgwar, byddai un o'r dynion yn eu hollti wedyn yn wahanol drwch, yn ôl safon y graig. Anelai at gael 16 o lechi o un grawen —gan ddibynnu ar yr ansawdd. Defnyddiai gŵn brasollt a gordd o dderw Affrica i hollti'r llechi.

Enwau'r Ponciau

Roedd gan yr holl bonciau —y terasau uchel yn y graig lle cloddid y llechi —eu henwau eu hunain. Yn aml roedd y rhain yn gysylltiedig â digwyddiadau hanesyddol fel rhyfeloedd a brwydrau (e.e. y Crimea a Sebastopol yn chwarel y Penrhyn) —dro arall, gymeriadau lleol. Byddai chwarelwyr Dinorwig, er enghraifft, yn brolio weithiau iddyn nhw ymweld ag Abyssinia a California yr un diwrnod! Roedd yna enwau mwy cartrefol hefyd —fel Alice, Aberdaron a Princess May. Mae nifer o'r wagenni sydd yng nghasgliad yr Amgueddfa yn dal i ddwyn enwau'r bonc lle caent eu defnyddio.

Eisteddai ei bartner yn y cyfamser ar 'drafal', ymyl syth o haearn a dur mewn darn o bren ar ogwydd. Byddai'n naddu'r llechen yn ongl syth gyda thociwr neu gyllell fach, ac yna yn ei naddu eto i faint arbennig. Byddai hyn oll yn digwydd yn gyflym iawn, heb dynnu anadl bron, ond er mor ddiymdrech yr edrychai roedd yn galw am lygad arbennig o graff a dealltwriaeth gadarn o natur y graig.

[delwedd: Crow bar]

Yn ddiweddarach defnyddid peiriannau trydan a fyddai'n llifio'r llechi a'u naddu. Trwy weithio'r offer mewn awyrgylch llaith arbedwyd llawer ar ysgyfaint y chwarelwyr. Ond ni fedrai'r peiriannau wneud holl waith dyn a hyd heddiw holltir llechi â llaw yng Nghymru.

Pwysid y llechi a'u cludo wedyn ar wagenni i lawr yr incléin ac oddi yno i'r Felinheli i'w hallforio —neu i'w storio am dipyn, os oedd hi'n gyfnod tlawd ar y fasnach lechi.

Y Chwarel

Roedd y chwarel yn fyd ar wahân i’r gweithdai. Golygai'r holl waith ffrwydro oedd yn mynd ymlaen yno ail-lunio’r mynydd bob dydd ac yn newid ei ddaearyddiaeth. Codai'r ponciau hyd at 650 medr uwch lefel y môr. Roedd yno walia a chabanau a llwybrau trwy'r ddrysfa o gytiau a lefelau; roedd y dynion yn adnabod yr holl wahanol elfennau hyn yn ôl eu henwau.

Y Fargen

Rhedai chwareli ar system y 'fargen'. Darn o graig tua chwellath o led oedd y fargen, a hyfforddid aelodau tîm y fargen i weithio ar y bonc ac yn y gwalia hefyd. Bob yn bedair wythnos byddai giang o chwarelwyr, tîm y fargen, yn llythrennol fargeinio gyda stiward bargen y chwarel am delerau gweithio'r fargen. Sonid am hyn-a-hyn o arian y dunnell am graig dda a hyn-a-hyn eto am rwbel. Gwaith y stiward wedyn fyddai ceisio gostwng y pris mor isel â phosibl trwy frolio'r graig, a'r dynion wedyn yn ceisio ei godi trwy ddifrïo'r graig a'i galw'n graig sál. Dibynnai cyflog holl aelodau'r tîm ar ganlyniadau'r bargeinio: dim rhyfedd felly bod y system hon yn agored i bob math o annhegwch.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.