Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
Llechi

Y Llechi

Beth yw llechi?

Mwd a wasgwyd o sawl cyfeiriad gan rymoedd y ddaear, a hynny dros gyfnod o gannoedd o filiynau o flynyddoedd, yw llechi. Mae llechi chwarel Dinorwig yn perthyn i gyfnod Cambriaidd yr Oes Baleosöig Is-cyfnod pan oedd y ddaear yn crynu gan ffrwydriadau o'r llosgfynyddoedd a ffurfiodd fynyddoedd Cymru yn y pen draw. (Cofiwch, roedd yr Wyddfa yn folcano ar un cyfnod!). Oherwydd eu hoed mae'r llechi hyn o safon uchel iawn.

Mica seristia, cwarts, clorit yw prif ddarnau llechfaen, ynghyd â rhannau bach o’r mwynau gwadfaen a rwtil. Gall amrywiadau bychain iawn yng nghyfrannau'r mwynau hyn olygu bod gwahanol liwiau ar y llechi —yn enfys o wahanol fathau o wyrdd trwy las a llwyd i borffor tywyll, cyfoethog. Mae naw gwythïen o lechfaen yn rhedeg drwy fynydd Elidir, ac maen nhw’n dwyn yr enwau swynol: y werdd, coch y ffridd, y goch galed, y goch grychlyd, maengoch Cilgwyn, y las galed, y las isaf (neu wythïen Glynrhonwy), y las rywiog, a'r hen las.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.