Rydych chi yn:  >   >   > 

Caffi’r Glannau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

[delwedd: ]

[delwedd: ]

Ymlaciwch yng Nghaffi’r Glannau ar ôl crwydro’r orielau.

  • Ar agor bob dydd o 10am i 4.30pm
  • Bwyd poeth ar gael o 10am i 3pm
  • Dewis llysieuol, dietegol a bwydlen blant ar gael
  • Digonedd o seddi bistro cyfforddus mewn gofod agored braf
  • Ardal chwarae i blant a seddi uchel ar gyfer babanod

Gallwch chi hefyd fwynhau golygfeydd gwych o Farina Abertawe o 10am i 4pm yn ein hardal eistedd awyr agored.

Cinio

Dewiswch roliau neu frechdanau ffres, brechdanau wedi tostio neu ddetholiad eang o brydau cartref wedi’u coginio o’r fwydlen.

Caiff ein bwyd ei goginio ar alw a byddwn yn defnyddio cynhwysion o ffynonellau lleol ym mhob achos posibl, gan gynnwys:

  • Cig eidion Celtic Pride, wyau Birchgrove, porc a chig oen Cymreig a danteithion melys o fecws Wendy’s Bakery.
  • Rydyn ni’n defnyddio cwrw SA Brains Bitter yn ein cytew, menyn Shirgar a Hollybush ac amrywiaeth eang o gawsiau Cymreig gan gynnwys Perl Las, Y Fenni a Caerffili.

Blys am rywbeth melys?

Rydyn ni’n gwerthu detholiad o deisennau cartref gan gynnwys bara brith traddodiadol Kay’s, neu beth am fwynhau un o flasau amrywiol hufen iâ Mary’s Farmhouse o Sir Benfro.

Dewis i blant

Gallwch chi lenwi bocs bwyd i blentyn â phum eitem o’ch dewis chi gan gynnwys brechdanau, sudd ffrwythau, danteithion neu iogwrt. Mae bwydlen boeth i blant hefyd ar gael.

Lawrlwythwch bwydlen Caffi’r Glannau

Mae Caffi’r Glannau wedi derbyn gradd pum seren am hylendid bwyd.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.