Cynhadledd 'Carreg yng Nghymru' [2002]

Crynodebau o'r areithiau yng nghynhadledd 'Carreg yng Nghymru' ('Stone in Wales') a gynhaliwyd yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd, ym mis Ebrill 2002. Cyhoeddir papurau o'r gynhadledd hon gan Cadw: Welsh Historic Monuments ym mis Medi 2002. Os am ragor o wybodaeth ynglyn â Fforwm Carreg Cymru, sydd newydd ei sefydlu, cysylltwch â Dr. Jana Horak, Adran Ddaeareg, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Caerdydd CF10 3 NP, jana.horak@amgueddfacymru.ac.uk


Cynnwys:

  1. Waliau llechen ar ganolfan Mileniwm Cymru: crefft hynafol mewn hinsawdd o osgoi risg
  2. Iaith yr adeiladwyr: carreg mewn adeiladau gwerinol yng ngogledd Orllewin Cymru
  3. Defnyddiau adeiladu cynhenid Gogledd Ddwyrain Cymru
  4. Prosiect ar Ddadfeiliad Cerrig Cerfiedig yn yr Alban : cyflwyniad i'r gwaith ymchwil sydd ar y gweill
  5. Carreg mewn diwylliant adeiladu : triniaeth draddodiadol o arwynebedd carreg gyda chyfeiriad penodol at Gymru
  6. Walio carreg sych yng Nghymru
  7. Cerrig Abaty Glyn y Groes - hanes eu bywyd
  8. Cerrig Abaty Cwmhir
  9. Patrymau o'r gorffennol : terfynau caeau mewn tirluniau hanesyddol
  10. Cerrig adeiladu Aberteifi a Llandudoch - cysylltiad Ffrengig?
  11. Hanes adeiladu a cherrig Eglwys Gadeiriol Tyddewi
  12. Marmor Mona: nodweddion a defnydd
  13. Cofnodion mewn Carreg : cerfio'r coeliau
  14. Daeareg Cerrig Adeiladu yng Nghymru
  15. Cynllunio ar gyfer cyflenwad o gerrig adeiladu yn Lloegr
  16. Dyfodol i garreg: Grwp Cyswllt Cerrig yr Alban
  17. O laid i lechi to : sut ffurfiwyd carreg adeiladu mwyaf adnabyddus Cymru
  18. Clom yn lle carreg - yr hyn arferai ddigwydd yn absenoldeb carreg
  19. Pam bod carreg Portland yn arbennig?
  20. Llechen fel deunydd adeiladu cynaladwy
  21. Toeau gwynion penrhyn Tyddewi
  22. Ffynonellau o garreg adeiladu a fewnforiwyd
  23. Adeiladu ac ail-adeiladu - neges cerrig yn eglwysi dwyrain Cymru
  24. Carreg neu bren: hoffter a rhagfarnau yng Nghymru yn y canol oesoedd a'r cyfnod modern cynnar
  25. Y diwydiant carreg yng Nghymru - datblygiad a masnach

ARAITH GYWEIRNOD

Waliau llechen ar ganolfan Mileniwm Cymru: crefft hynafol mewn hinsawdd o osgoi risg
(Slate walling on the Wales Millenium Centre: and ancient craft in a climate of risk-aversion)

Jonathan Adams (Partneriaeth Percy Thomas)

Seiliwyd y cysyniad ar gyfer cynllun muriau allanol Canolfan Mileniwm Cymru ar resymeg a manteisiaeth - mae digonedd o wastraff llechi ar gael, yn bennaf yng ngogledd Cymru, a thybiwyd y byddai hwn yn cynnig modd i greu amlen garreg hirbarhaol o ansawdd uchel a fyddai'n gweddu i adeilad dinesig newydd o bwys, a hynny ar gost isel. Ar yr un pryd byddai'r prosiect yn defnyddio deunydd a sgiliau llafur medrus sy'n nodweddu Cymru.

Mae'r broses o wireddu syniad syml, economaidd wedi bod yn gymhleth. Mae cytundebau adeiladu cyfoes yn gosod y risg i gyd bron ar ysgwyddau'r adeiladwr. O ganlyniad i hyn mae contractwyr mawr yn amharod i wneud defnydd o ddeunyddiau sydd heb gael eu cynhyrchu mewn ffatri, neu i greu sefyllfa lle maent yn ddibynnol ar sgiliau arbenigol, oherwydd yn eu tyb nhw mae'r ddau beth yma yn creu risg uchel. Mae'r tueddiad yma, sydd wedi ei annog ymhellach fyth gan adroddiad Egan, yn tanseilio ymrdrechion i ymestyn y defnydd o dechnegau adeiladu cynhenid.

Cymerodd flynyddoedd i bartneriaeth Percy Thomas 'ennill' y ddadl dros ddefnyddio gwastraff llechi fel defnydd pensaerniol cyfoes. Eglura'r sgwrs sut y llwyddwyd i wneud hyn.

Iaith yr adeiladwyr: carreg mewn adeiladau gwerinol yng ngogledd Orllewin Cymru
(The language of builders: stone in the vernacular of Northwest Wales)

Judith Alfrey (Cadw:Welsh Historic Monuments)

Y defnydd o ddeunyddiau lleol sy'n diffinio cymeriad adeiladau gwerinol. Mae adeiladau traddodiadol yng ngogledd Cymru yn adlewyrchu daearyddiaeth carreg. Ond hyd yn oed mewn tirlun lle'r oedd cerrig yn doreithiog, nid oedd yr un mor hawdd ymhob man i gael gafael ar y deunydd, na chwaith i ganfod y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y gwaith adeiladu. Ar yr olwg gyntaf, roedd digonedd o garreg ar gael, ond fel rheol nid oedd yn rhad ac am ddim ac mae'r defnydd o garreg mewn adeiladau felly yn creu mynegai gwerthfawr i hygyrchedd adnoddau. Trwy'r defnydd o garreg i adeiladau'r anheddau tlotaf yn y 19eg ganrif ac yna, wedyn, ei ddefnydd cyffredin mewn adeiladau o bob math, daeth i gynrychioli ieithwedd gyffredin mewn adeiladau. Ond yn amrywiaeth yr eirfa - y dewis o ddeunyddiau a'r technegau gweithio ac adeiladau - gwelir daearyddiaeth gymdeithasol glir. O edrych ar fanylion yr adeiladu, mae adeiladau gwerinol nid yn unig yn adlewyrchu dosbarthiad deunyddiau adeiladau yng ngogledd Cymru ond hefyd yn taflu goleuni ar hanes gwead cymdeithasol ac economaidd yn yr ardal.


Defnyddiau adeiladu cynhenid Gogledd Ddwyrain Cymru
(The indigenous building materials of Northeast Wales)

Roger Bennion¹, Philip Ebbrell² a Kirsty Martin³ (Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen¹, Cyngor Sir Ddinbych², Cyngor Sir Wrecsam³)

Mae'r astudiaeth yma yn ceisio dosbarthu defnyddiau adeiladu cynhenid Gogledd Ddwyrain Cymru ac adnabod ffynonellau gwreiddiol a newydd o'r deunyddiau hyn er mwyn helpu gwrthdroi diflaniad cymeriad lleol, sy'n digwydd yn sgil y defnydd amhriodol a wneir o ddeunyddiau sy'n cael eu cludo i mewn i'r ardaloedd hyn ar gyfer gwaith adeiladu.


Prosiect ar Ddadfeiliad Cerrig Cerfiedig yn yr Alban : cyflwyniad i'r gwaith ymchwil sydd ar y gweill
(The Carved Stone Decay in Scotland Project : an introduction to the research in progress)

Susan Buckhan (Cyngor Archaeoleg yr Alban)

Mae tystiolaeth lafar yn dangos bod cerrig beddau yn dirywio ar gyfradd frawychus. Ar hyn o bryd nid yw gwir faint y broblem na'r ffactorau sy'n gyfrifol am y dirywiad yn cael eu llwyr werthfawrogi. Bydd y papur hwn yn amlinellu'r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd i gofnodi a rheoli dirywiad cerrig cerfiedig mewn mynwentydd yn yr Alban. Mae'r prosiect Cerrig Cerfiedig yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Archaeoleg yr Alban a 'Historic Scotland', gyda'r Pwyllgor Cenedlaethol ar Gerrig Cerfiedig yn yr Alban a'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol ac Hanesyddol yn yr Alban yn gweithredu mewn cyswllt ymgynghorol. Mae nifer fawr o bobl yn cyfrannu at y prosiect, o weithwyr arolwg maes sydd wedi eu lleoli o fewn y cymunedau lleol ynghyd â'r rhai sydd â chyfrifoldeb dros gerrig beddau - rheolwyr mynwentydd yr Awdurdodau Lleol yn bennaf - i archaeolegwyr ac arbenigwyr cadwraethol sy'n gyfrifol am lunio polisiau ar gyfer gwarchod yr adnodd diwylliannol hwn yn y tymor hir. Mae'r papur hwn yn trafod y methodoleg a luniwyd ar gyfer cofnodi'r ffyrdd y mae dadfeiliad amgylcheddol yn digwydd, yn ogystal â chofnodi ffactorau ynghlwm wrth ymyrraeth ddynol ac hefyd yn amlinellu agenda ymchwil y prosiect.


Carreg mewn diwylliant adeiladu : triniaeth draddodiadol o arwynebedd carreg gyda chyfeiriad penodol at Gymru
(Stone in building cultures: traditional surface treatments, with particular reference to Wales)

Peter Burma, Rory Young

Bydd y sgwrs yma bwrw golwg ar, ac yn dangos tystiolaeth sy'n weddill o'r modd y triniwyd arwynebedd carreg ar adeiladau statws uchel o'r cyfnodau canol oesol cynnar a diweddar ac adeiladau o'r cyfnod dilynol rhwng y 16eg a dechrau'r 18fed ganrif. Edrycha wedyn ar yr hyn a ddigwyddodd wedi i sment ymddangos, ac ar yr ymdrech bresennol i symud yn ôl at draddodiad yn seiliedig ar y defnydd o galch ar gyfer adeiladau hyn, p'run ai bod rhain yn adeiladau gwerinol neu'n rhai statws uchel. Mae'n hanfodol deall y modd y cafodd arwynebeddau eu trin ar adeiladwaith carreg er mwyn deall yn gywir eu gwerth diwylliannol ac hefyd, yr un mor bwysig, er mwyn deall sut i'w trwsio a'u gwarchod nhw orau ar gyfer y dyfodol.


Walio carreg sych yng Nghymru
(Drystone walling in Wales)

Philip Clark (Cymdeithas Walio Carreg Sych)

Fel ardaloedd eraill o ucheldir Prydain, mae gwaith carreg sych, ar ffurf terfynau, adeiladau a waliau cynnal, wedi bod yn rhan o dirlun Cymru ers canrifoedd lawer. Mae union natur yr adeiladwaith yn dibynnu ar y garreg lleol : roedd cloddiau gyda chraidd o bridd ac wynebau carreg unwaith yn gyffredin ar hyd a lled Cymru. O ganlyniad i amg?u tir, ac yn ddiweddarach yn sgil rheolaeth ar ystadau mawrion, ychwanegwyd rhagor o waliau caeau a therfynau; yn ystod yr 20fed ganrif bu newidiadau mewn dulliau amaethu yn gyfrifol am leihau y nifer o derfynau ac adeiladau carreg defnyddiol. Llwyddodd rhai ardaloedd yn well na'i gilydd i gadw eu waliau e.e. llawer o ogledd Cymru a'r ffermydd 'mynyddig' uwchben cymoedd De Cymru. Mae'r grefft wedi ei hadfer yn ddiweddar o ganlyniad i gymorthdaliadau a gweithgaredd mudiadau gwahanol fel Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Y Parciau Cenedlaethol, Cymdeithas Walio Carreg Sych ayb., ac oherwydd y ffasiwn ymhlith awdurdodau lleol i gomisiynu gwaith i greu 'treftadaeth brys' mewn trefi ac ar hyd ffyrdd. Mae problemau difrifol yn dal i wynebu waliau caeau ond mae cynllun blaengar 'Waliau Llangynidr' yn Sir Frycheiniog yn awgrymu ffordd ymlaen sydd wedi ei gwreiddio yn y gymuned.


Cerrig Abaty Glyn y Groes - hanes eu bywyd
(The stones of Valle Crucis Abbey - their life story)

David Crane (Cyfeillion Abaty Glyn y Groes)

Sefydlwyd abaty Glyn y Groes ym 1200, ychydig filltiroedd y tu allan i Langollen, gan Madog ap Gruffudd a deyrnasai yng ngogledd Powys. Rhoddodd y tir, a ddisgrifiwyd gan Pennant (1784) fel gweirglodd fechan wastad ger nant dlos ac yng nghysgod llethr coediog, i fynachod Sistersaidd Strata Marcella er mwyn iddynt sefydlu cangen yma. Dechreuodd y mynachod, a oedd mwy na thebyg yn trigo ar y pryd mewn adeiladau pren, yn syth ar y gwaith o adeiladu'r adeiladau cerrig parhaol. Adfeilion yr adeiladau hyn a welwn heddiw.

Yma byddwn yn olrhain hanes cerrig Glyn y Groes. Edrychwn ar y gwahanol fathau o gerrig a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adeilad a'r gwaith addurnedig, ac ar ffynonellau'r cerrig hynny. Byddwn yn trafod y modd y cafodd y cerrig eu trin a nodau y seiri maen a fu wrthi'n adeiladu. Byddwn yn ymchwilio'r hanes y mae'r cerrig yn ei ddadlennu ynghylch yr abaty a'r newid yn y defnydd o gerrig dros y canrifoedd ar gyfer gwahanol waith ail-adeiladu. Yn olaf, byddwn yn archwilio'r hyn a ddigwyddodd i garreg Abaty Glyn y Groes yn dilyn diddymiad y mynachlogydd ym 1536, gan edrych ar y defnyddiau eraill a wnaed o'r garreg ac ar beth o'r gwaith adfer mwy diweddar yn yr Abaty.


Cerrig Abaty Cwmhir
(The stones of Abbey Cwmhir)

John Davies (Cyngor Cefn Gwlad Cymru)

Gorwedd adfeilion yr abaty (SO 055711) yn y cae gyferbyn â'r plasty Fictoraidd ym mhentref Abaty Cwmhir, Sir Faesyfed, Powys. Mae'r waliau sy'n weddill yn dangos amlinell corff anferthol (74.46m) yr eglwys. Dywedodd Ralegh Radford (1982) mai Carreg Grinshill, o ardal i'r GDn o Amwythig, oedd y garreg rywiog a ddefnyddiwyd yn yr adeilad ac mai yn yr 2il a'r 3ydd degawd o'r 13eg ganrif y crewyd y cerfiadau Gothig. Ym marn Radford, gwaith Llywelyn Fawr (m. 1240), yn dyddio o gyfnod rhwng 1228 a 1231 yw hwn. Oherwydd bod Carreg Grinshill yn dywodfaen arcosig o liw mêl mae'n amlwg iawn yn sir Faesyfed, gan ei bod yn gwbl wahanol i'r garreg leol sydd yn llechen lwyd neu'n is-gwartsit llwydwyrdd tywyll. Mae'n hawdd felly i fapio dosbarthiad y cerrig Grinshill a gafodd eu hailgylchu mewn adeiladwaith arall yn yr ardal o gwmpas yr abaty, efallai ar ôl i'r gwaith adeiladu ddod i ben (tua 1234), ond yn sicr wedi i'r mynachlogydd gael eu diddymu (1539-42)

Mae'r papur hwn yn trafod gwaith Ymddiriedolaeth Abaty Cwmhir er 1987 i adnabod a chofnodi ailddefnydd y garreg hon, sydd wedi rhoi i ni arf archaeolegol defnyddiol i gynorthwyo gyda'r gwaith o ddehongli'r rhan yma o Gymru. Mae gan ganlyniadau'r gwaith oblygiadau ar gyfer eglwysi mynachaidd a chestyll yng Nghymru, megis Hendy Gwyn ar Daf, Strata Marcella, Ystrad Fflur, Castell y Bere, Caerfyrddin ayb., oherwydd mae'r rhain i gyd wedi defnyddio carreg rywiog o natur amlwg a ddygwyd i mewn i'r ardaloedd hyn. Mae'r gwaith hefyd yn taflu goleuni ar fawredd Llywelyn Fawr fel un a fu'n hybu adeiladu urddasol ac felly yn gwrthdystio'r awgrymiadau nad yw'r Cymry fel cenedl erioed wedi gwerthfawrogi pensaernïaeth gain.


Patrymau o'r gorffennol : terfynau caeau mewn tirluniau hanesyddol
(Patterns from the past : field boundaries in the historic landscape)

John Griffith Roberts (Ymddiriedolaeth Archaeolgeol Gwynedd)

Mae gwahanol fathau o derfynau caeau yn cynrychioli un o'r nodweddion mwyaf trawiadol, cyffredinol a diffiniol yn y tirlun Cymreig. Mae nifer o derfynau caeau y wlad un ai'n dyddio o gyfnod cynnar neu'n dilyn patrymau hynafol amlwg, tra bod y drefn o gau tir yn y ddeunawfed a'r bedwardedd ganrif ar bymtheg wedi creu y terfynau geometrig nodweddiadol sy'n herio topograffi yn yr ucheldiroedd. O ganlyniad i ddeddfwriaeth ddiweddar ynglyn â gwrychoedd, grantiau yn gysylltiedig â bioamrywiaeth a chynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal mae arian sylweddol yn cael ei wario ar gynnal ac ar adfer terfynau caeau. Ond cymharol ychydig o waith ymchwil sydd wedi ei gynnal ar derfynau caeau ac nid oes felly llawer o ymwybyddiaeth cydlynol ynglyn â pham, yn union, y maent yn bwysig na chwaith ynglyn â'r hyn y gobeithiwn ei warchod a'i gadw trwy wario arian yn eu cynnal. Mewn rhai achosion, mae'r union arian sy'n cael ei ddefnyddio i'w cynnal a'u hadfer efallai yn erydu eu nodweddion pwysicaf. Hynny yw, sef eu bod yn cyfrannu'n greiddiol at gymeriad a hynodrwydd tirluniau Cymreig ar lefel leol.

Mae'n bwysig ein bod yn ystyried pwysigrwydd terfynau tu hwnt i'w nodweddion gweledol; mae rhwydweithiau o derfynau yn mapio newidiadau mewn defnydd tir ac mewn cymdeithas ar hyd y canrifoedd. Bydd y sgwrs hon yn ystyried y pynciau hyn trwy gyfeirio ar ddarganfyddiadau cychwynnol o broject sy'n cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Cadw: Welsh Historic Monuments, sy'n edrych ar amrywiaeth, cymeriad a hanes terfynau caeau ar draws Cymru.


Cerrig adeiladu Aberteifi a Llandudoch - cysylltiad Ffrengig?
(The building stones of Cardigan and St Dogmaels - a French connection?)

Dyfed Elis Gruffydd (Coleg y Drindod, Caerfyrddin)

Ag eithrio carreg Portland, carreg Caerfaddon, a Larficit, mae cerrig adeiladu o ffynonellau y tu hwnt i Glawdd Offa yn absennol o Aberteifi. Yn y dref hon ac yn Llandudoch, y pentref nesaf ati, gwnaed defnydd eang o lechen a thywodfaen o chwareli lleol. Yr hyn sy'n hynod yw'r ffordd y mae'r deunyddiau hyn wedi cael eu defnyddio gan seiri maen lleol mewn adeiladu sy'n dyddio'n ôl i gyfnod cyn dechrau'r 20fed ganrif. Mae haenau neu gyrsiau o slabiau nadd yn gorwedd am yn ail, yn aml, gyda haenau sengl neu ddwbl o flociau tywodfaen nadd. Mae'r bandio yma yn amlwg yn Llandudoch, nid yn unig mewn bythynnod a thai ond hefyd yn waliau'r abaty, yr unig abaty Tironaidd a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr. Robert FitzMartin, Arglwydd Eingl-Normanaidd Cemais a sylfaenwr yr abaty, fu'n gyfrfiol am ddod draw â chriw o fynachod o fam abaty Tiron (Thiron) yn esgobaeth Chartres. Efallai iddo hefyd gyflwyno traddodiad adeiladu (ac efallai rhai cerrig adeiladu) sy'n hynod i'r rhan honno o Gemais rhwng Aberteifi a chastell Robert FitzMartin yn Nhrefdraeth.

Hanes adeiladu a cherrig Eglwys Gadeiriol Tyddewi
(The building history and stones of St Davids Cathedral)

Y Gwir Barchedig Wyn Evans¹ a Dyfed Elis Gruffydd² (Eglwys Gadeiriol Tyddewi¹, Coleg y Drindod Caerfyrddin²)

Mae'r papur hwn yn cynrychioli penllanw prosiect, sydd eisoes wedi ei drafod dros gyfnod hir gan yr awduron, i adnabod y cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ystod gwahanol gyfnodau datblygiad, yn dilyn archwiliad manwl o'r adeiladwaith presennol.


Marmor Mona: nodweddion a defnydd
(Mona Marble: characterisation and usage)

Jana Horak (Amgueddfeydd ac Orielau Cymru)

Mae marmor Mona yn sarff-faen gwyrdd sydd, i raddau gwahanol, yn arddangos breciadau ac sydd un ai'n cynnwys matrics calcit gwyn neu yn cael ei groes-dorri gan wythiennau calcit. Mae i'w ganfod ar ffurf ambell frigiad ynysedig o fewn metawaddodion Cyn-Gambriaidd a Chambriaidd cynnar ar Ynys Lawd ac ar dir mawr cyfagos ar Ynys Môn ac fel sy'n wir yn achos nifer o gerrig adeiladu ac addurnedig eraill, mae cryn ddryswch yn y llenyddiaeth ynglyn â natur y graig hon ac ychydig a wyddwn am y gweithgaredd ynghlwm wrth gloddio am y maen yma.

Y cyfeiriad cyntaf ysgrifenedig at y garreg yw hwnnw yn nhraethawd gwobrwyedig Angharad Llwyd (1833) lle mae'n cyferio at Verde Antique Rhoscolyn. Mae Watts (1916), yn ei waith clasurol ar Gerrig Adeiladu, hefyd yn cyfeirio at y defnydd o Farmor Mona yn adeiladwaith Eglwysi Cadeiriol Bryste, Peterborough, Truro a Chaerwrangon yn ystod y cyfnod 1886-1895, ond nid yw'n cynnig unrhyw fanylion ynglyn ag union leoliad y cloddio.

Dyn o'r enw George Bullock a wnaeth y mwyaf i hybu Mona More. Ar ddechrau'r 19eg ganrif bu'n hysbyebu rhinweddau'r garreg, gan ei bedyddio hyd yn oed fel verde de Mona. Ond nid yw union darddiad y darnau o waith sy'n cynnwys y garreg hon - lleoedd tân addurnedig yn aml - wedi cael eu gwirio, oherwydd er bod Bullock wedi bod yn berchennog ar nifer o chwareli bychan ger Llanfechell yng ngogledd Môn, nid oes unrhyw gofnod ohono yn chwarela ar Ynys Lawd. Mae'n berthnasol nodi iddo gyflawni llawer o'i waith yn ystod rhyfeloedd Napoleanaidd, pan fyddai gwaharddiadau ar fasnach wedi llesteirio mewnforiad carreg addurnedig o'r cyfandir. Yn 1815 cafodd Bullock ei gomisynu gan y Rhaglaw Dywysog i gyflenwi dodrefn i hebrwng Nepolean Bonaparte i Sant Helena. Ymhlith yr eitemau dodrefn yr oedd bwrdd gyda Marmor Mona wedi ei osod mewn i'r wyneb ac mae'r dodrefnyn hwn ar Sant Helena hyd heddiw.


Cofnodion mewn Carreg : cerfio'r coeliau
(Writ in Stone : carving out the myths)

Thomas A. Hose (Coleg Prigfysgol Buckinghamshire Chilterns)

Mae astudiaethau o ddaeareg Cymru, a gynorthwywyd gan ansawdd a nifer brigiadau craig naturiol a artiffisial y wlad, wedi dylanwadu ar ddatblygiad daeareg ers diwedd y 16ed ganrif, o leiaf. Mae'r ymdrech bwriadol, yn aml, i wared olion treftadaeth ddiwydiannol sy'n gysylltiedig â diwydiant cloddio yn gwrthgyferbynu â'r gwaith o gadw, adfer a hybu diddordeb mewn treftadaeth bensaernïol a diwydiannol sy'n seiliedig ar y cyfoeth a grewyd yn ei sgîl. Mae angen dybryd i ymdrin â'r broblem o lanweithio tirluniau y diwydiant cloddio cyn ein bod yn colli'r cysylltiadau unigryw gyda'n gorffennol pell sy'n cael eu hamlygu ganddynt. Er mwyn gallu hybu strategaeth lwyddiannus yn seiliedig ar gadwraeth a datblygiad cyfyngedig - 'geotwristiaeth', ar gyfer safleoedd daearegol, rhaid meithrin a chynnal cefnogaeth gwleidyddion, cynllunwyr a datblygwyr trwy ddangos manteision y fath strategaeth i'r diwydiant ymwelwyr a'r diwydiant awyr agored. Rhaid i academyddion a chadwraethwyr gydnabod yr angen i gyrraedd at gynulleidfaoedd newydd, yn ychwanegol at y rheiny sydd eisoes â diddordeb yn arwyddocad eu gwaith. Os am hybu geocadwraeth yn llwyddiannus yng Nghymru rhaid mabwysiadu polisiau cyfathrebu addas, strategaethau a chanllawiau dehongli er mwyn cwrdd â gofynion cynulleidfaoedd ac etholwyr nad ydynt yn barod yn ymroddedig a hynny yng nghyd destun esblygiad fframwaith geotwrisiaeth. Mae'r sgwrs yma yn canolbwyntio ar y cysyniad trwy drafodaeth ddamcaniaethol yn seiliedig ar ddadansoddiad o astudiaethau achos ar y gororau Cymreig.

ARAITH GYFEIRNOD

Daeareg Cerrig Adeiladu yng Nghymru
(The geology of the building stones of Wales)

Graham Lott, R.A. Wates, D. Wilson, J R Davies, a W J Barclay (Arolwg Daeareg Prydeinig)

Gwlad y garreg yw Cymru. Cafodd ei dilyniant amrywiol o greigiau eu gweithio yn barhaol er mwyn darparu amrywiaeth eang o garreg ar gyfer dibenion adeiladu. Mae'r adeiladau gwerinol, hanesyddol a diwydiannol sydd wedi goroesi mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ar hyd a lled Cymru yn dystiolaeth o ddiwydiant chwarela eang sydd bellach, ag eithrio ambell enghraifft, wedi mynd yn anghofiedig. O ganlyniad i broblemau cludiant sy'n deillio o natur fynyddig llawer o'r wlad, cyflenwi gofynion y farchnad leol, yn hytrach nag un ehangach drwy'r DU neu dramor, a wnaeth y diwydiant chwarela, heblaw am eithriad nodedig y diwydiant llechi to yng ngogledd Cymru.

Mae'r mwyafrif o'r dilyniannau craig sy'n brigo yng Nghymru wedi darparu carreg ar gyfer gwaith adeiladu lleol. Ar y cyfan mae pob carreg a chwarelwyd wedi datblygu cylch o ddylanwad lleol. Mae'r litholeg hynod amrywiol yn y dilyniannau Cyn- Gambriaidd i'r cyfnod Palaesoig cynnar, sydd i'w gweld yn ardaloedd gwledig canolbarth a gogledd Cymru, wedi darparu carreg ar gyfer y mwyafrif o'r prif anheddau yn yr ardal. Mae'r rhan fwyaf o'r cerrig yma yn greigiau metawaddodol caled, tywyll, anhydrin nad oeddent yn hawdd i'w naddu ac o ganlyniad maen nhw'n ymddangos mewn adeiladau fel blociau anghyson o faint amrywiol iawn. Mewn gwrthgyferbyniad, roedd y tywodfaen gwyrdd a choch o'r cyfnod Defonaidd a orweddai uwchben y dilyniannau hyn yn rhoi cerrig a allai gael eu naddu yn haws a hyn fu'n gyfrifol am hwyluso newid mewn steil adeiladu yn yr ardaloedd hynny lle'r oedd y creigiau hyn yn brigo.

Creigiau Palasoig Uwch y cyfnod Carbonifferaidd a gynhyrchodd y calchfeini a'r tywodfeini llwyd sy'n gyffredin ar hyd a lled anheddau diwydiannol y meysydd glo. Darparodd y tywodfeini nid yn unig y blociau ashlar nadd llwydlas sydd i'w gweld ymhobman ond hefyd y cerrig mwy a oedd, wedi eu llifio, yn angenrheidiol ar gyfer adeiladu pontydd ac adeiladwaith diwydiannol eraill. Cafwyd cerrig 'llechen' to derbyniol, hyd yn oed, o rai o'r gwelyau tywodfaen.

Er mai cyfyngedig yw'r brigiadau o greigiau ieuengaf Cymru o systemau Triasig a Jwrasig isaf y cyfnod Mesosoig, maent wedi darparu clobynfeini lliwgar, tywodfeini a chalchfeini. Er bod y cerrig hyn yn gyffredin yn lleol mewn tai gwerinol ac er eu bod wedi bod yn boblogaidd gyda'r penseiri hynny ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd a fu'n hybu'r steil aml-liwiog a ffafriwyd gan John Ruskin ac eraill, roeddent hefyd yn ymddangos yn yr un math o wedd addurnedig mewn nifer o dai canol oesol.

Er, ar yr olwg gyntaf, na fyddai coblau a chlogfeini crynion o welyau graean afonydd a gwaddodion y dilyniant Cwaternaidd yn cael eu hystyried yn ffynhonnell debygol o gerrig adeiladu, defnyddiwyd rhain hefyd ar gyfer adeiladu mewn ardaloedd lle'r oedd deunyddiau addas eraill yn brin. Er bod cerrig cynhenid Cymru wedi cyflenwi y rhan fwyaf o anghenion adeiladu y boblogaeth lleol, roedd prinder o gerrig rhywiog da, fel calchfeini Jwrasig Caerfaddon neu Portland ac oherwydd hyn bu'r math yma o gerrig yn cael eu cludo i mewn i Gymru ers y cyfnod cynharaf ar gyfer prosiectau adeiladu mawreddog.


Cynllunio ar gyfer cyflenwad o gerrig adeiladu yn Lloegr
(Planning for the supply of building stone in England)

Brain Marker (DTLR)

Mae'r diwydiant adeiladu a charreg toi yn bwysig, yn lleol, mewn sawl ardal yn Lloegr ac mae rhai ffynonellau, megis Portland, yn arwyddocaol mewn cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol. Ond mae nifer o sectorau yn wynebu cystadleuaeth gref oddi wrth gwledydd tramor. Mae lefel y cynhyrchu yn amrywiol, o chwareli bychain unigol yn cynhyrchu cyfansymiau isel o garreg, i gwmniau mwy yn rheoli sawl chwarel, sy'n weithredol un ai drwy'r amser neu'n achlysurol, gyda thimau symudol o weithwyr, ac hyd yn oed i fwyngloddfeydd tanddaearol.

Mae cyfyngiadau cynyddol ar y dulliau o gloddio am y deunyddiau hyn, oherwydd dynodiadau cadwraethol a thirluniol er enghraifft, yn ogsytal â chyfyngiadau eraill ar ddefnydd tir. Rhaid pwyso a mesur y cyfyngiadau ar y cyflenwad yn erbyn y gofynion penodol iawn sy'n deillio, er egnhraifft, o ffactorau megis hoffter gwahanol benseiri, yr angen i gynnal steil bensaernïol werinol leol neu yr angen i drwsio a chynnal adeiladau hanesyddol a henebion.

Mae Nodyn Canllaw ar Gynllunio Mwynau (MPG 1) (yn Lloegr) 'Ystyriaethau cyffredinol a system y cynllun datblygu' yn cyfeirio ond yn fyr at y diwydiant yma. Yn ychwanegol at hyn, mae tueddiad i gyfeirio polisiau a ddatblygwyd ar gyfer cloddio ar raddfa eang am agregiadau at y diwydiant mwynau. Mae angen archwilio i ba raddau y mae hyn yn addas a ph'run ai bod angen datblygu fframwaith polisi mwy arbennig, a fyddai'n rhoi ystyriaeth i bolisiau eraill, megis canllawiau ynghylch cynllunio a'r amgylchedd hanesyddol (PPG 15)

Mae'r DETR felly wedi comisiynu ymchwil i edrych ar bynciau'n ymwneud â pholisi cynllunio ar gyfer cyflenwi cerrig adeiladu yn Lloegr. Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ebrill 2002 ac yn parhau am rhyw 18 mis. Bydd canlyniadau'r gwaith yn dylanwadu ar ganllawiau newydd. Gan fod y system gynllunio yn Lloegr yn cael ei hadolygu yn gyfangwbl ar hyn o bryd, gan gynnwys natur a chynnwys canllawiau cynllunio ar gyfer mwynau yn y dyfodol, bydd rhai addasu'r canlyniadau i gydfynd â'r cyfeiriad newydd a ddaw yn amlwg yn sgil y drafodaeth ar y papur gwyrdd 'Planning: delivering a fundamental change' a gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2001.

ARAITH GYFEIRNOD

Dyfodol i garreg: Grwp Cyswllt Cerrig yr Alban
(A future for stone : the Scottish Stone Liaison Group)

Andrew A McMillan (Grwp Cyswllt Cerrig Albanaidd)

Lansiwyd Grwp Cyswllt Cerrig yr Alban (SSLG) yn swyddogol gan Weithrediaeth yr Alban ym mis Mai 2000. Menter flaengar 'Historic Scotland' fu'n gyfrifol am darddiad y grwp hwn: nol yn 1995 daethant ynghyd â chynrychiolwyr o nifer o gyrff gyda diddordeb yn nhreftadaeth adeiladwaith carreg yn yr Alban. Nod y grwp yw hybu pob agwedd ar gerrig, gan gynnwys cadwraeth, trwsio a chynnal, y defnydd o garreg mewn adeiladau newydd a diddordeb yn y deunydd ei hun.

ARAITH GYFEIRNOD

O laid i lechi to : sut ffurfiwyd carreg adeiladu mwyaf adnabyddus Cymru
(From mud to roofing slate : How Wales' best known building stone was formed)

Richard Merriman (Arolwg Daearegol Prydeinig)

Mae Cymru yn enwog am gynhyrchu rhai o'r llechi to gorau yn y byd. Ond crewyd y garreg to mwyaf gwydn yma o laid medal a waddodwyd yn y basn gwaddodol cefnforol a orchuddiai Cymru mwy na 450 o filiwn o flynyddoedd yn ôl. I raddau helaeth, rheolwyd y trawsffurfiad rhyfeddol yma o ddeunydd naturiol gan nodweddion crisial-cemegol y mwynau clai sydd yn bodoli o fewn llaid a llechen. Nodweddir mwynau clai gan grisialau bychain iawn gyda'r gallu i ddenu neu ollwng dwr ac elfennau cemegol eraill yn eu strwythur crisialog.
Mae'r math yma o briodwedd yn galluogi clai i ymateb yn gymharol gyflym i newidiadau yn nhymheredd a phwysedd yn y rhan uchaf o grwstyn y Ddaear. Dechreuodd y newidiadau hyn pan gladdwyd y clai yn y basn gwaddodol Cymreig o dan sawl cilomedr o waddod iau. Ymatebodd y mwynau clai i'r claddu trwy wared dwr a thrwy dyfu crisialau mwy o faint, gan droi llaid mwd meddal yn garreg llaid caled. Digwyddodd y trawsffurfiad terfynol o garreg llaid i lechen pan gywasgwyd y basn Cymreig a phan blygwyd creigiau gwaddodol i ffurfio rhan o gadwyn fynyddig rhyw 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod y plygu, ail-grisialodd y mwynau yn y cerrig llaid i ffurfio crisialau cennaidd mwy trwchus ond llai dyfrlon, wedi eu trefnu ar hyd planau microfylchog a ffurfiai holltedd llechog.

Penderfynir ansawdd llechen to i raddau helaeth gan effeithlonrwydd yr ail-grisialu terfynol. Yn y llechi Cymreig gorau mae'r crisialau mwyn 2-3 gwaith yn fwy trwchus na'r rhai mewn cerrig llaid nodweddiadol ac mae hyn yn cynhyrchu'r deunydd to mwyaf gwydn ac anrheiddiadwy. Pan fo natur a threfn yr holltedd yn gyfochrog ac yn agos, gellir hollti'r llechfaen i greu llechi to gyda thrwch o ddim ond 4mm. Mae mwynau eraill yn enwedig cwarts a feldspar yn gweithredu fel llanwadau ac yn rhoi cryfder swmp i'r llechfaen. Os ceir gormodedd o'r mwynau eraill hyn mae'r llechen yn fwy trwchus a'r wyneb terfynol yn fwy garw, ond os nad oes digon ohonynt mae'r llechen yn feddal ac yn wan. Nid yw lliw yn adlewyrchu ansawdd ac fel arfer presenoldeb mymryn o fwynau sy'n gyfoethog mewn haearn sy'n gyfrifol am yr amrywiaeth mewn lliw. Mae llechi coch a phorffor yn cynnwys hematit (Fe2O3;) wedi ei wasgaru tra bod llechi llwyd a glas yn cynnwys cyfansymiau amrywiol o byrit (FeS2). Ocsideiddio a hydreiddio pyrit sy'n achosi'r staeniau cochfrown sy'n nodweddiadol ar lechi gwledig, a ffurfiad mwynau sylffad o byrit yw prif achos dirywiad llechi.


Clom yn lle carreg - yr hyn arferai ddigwydd yn absenoldeb carreg
(For stone read Clom - what happened if there was no stone available)

Gerallt Nash (Amgueddfeydd ac Orielau Cendlaethol Cymru)

Pa ddewis oedd gan adeiladwyr traddodiadol pan oedd carreg adeiladu yn brin, neu y tu hwnt i'w cyrraedd ariannol? Yn nwyrain Cymru, roedd pren yn cynnig dewis arall o ddeunydd adeiladu ar gyfer waliau ond mewn llawer o ardaloedd, yn enwedig yn y gorllewin, roedd y defnydd hwn hefyd yn brin fel aur. Yr ateb yn aml oedd defnyddio clom - cymysgedd o glai ac agregiadau. Bydd y sgwrs hon yn edrych ar y ffyrdd y gwnaeth y deunydd eang-ei-ddefnydd yma gymryd lle carreg fel y prif ddeunydd adeiladu, yn enwedig yn nhai tlotaf yr ardaloedd gwledig.


Pam bod carreg Portland yn arbennig?
(Why is Portland Stone special?)

Tim Palmer (Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth)

Er mai fel prif garreg adeiladu Llundain yr ystyrir calchfaen Portland yn bennaf, mae wedi cael ei ddefnyddio yn eang iawn hefyd ar gyfer adeiladau gweinyddol mewn dinasoedd a threfi eraill yn y DU, gan gynnwys Caerdydd. Mae Portland yn wahanol i galchfeini öolitig Jwrasaidd eraill o Loegr mewn tair ffordd: mae'n agosach at wyn na lliw mêl; mae'n treulio o ganlyniad i'r golli'r öolithau unigol yn raddol iawn o'r wynebau agored (yn lle erydu ar hyd planau gwaddodol) ac felly yn dinoethi carreg welw newydd odditanodd yn gyson ; ac mae cryfder y garreg (yn wahanol i Garreg Caerfaddon) yn gorwedd o fewn yr öolithau unigol yn hytrach nag yn y sment calcit naturiol sydd o'u cwmpas.


Llechen fel deunydd adeiladu cynaladwy
(Slate as a sustainable building material)

Christopher Powell (Prifysgol Caerdydd)

Mae cysyniad ac amcanion cynaladwyedd wedi magu pwysigrwydd cynyddol yn ystod blynyddoedd diweddar, ar lefel rhyngwladol a llywodraethol ac ymhlith cynllunwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am lunio manylebau. Mae nifer o nodweddion llechen yn awgrymu y gallai'r defnydd yma fod â photensial sylweddol o ran cwrdd ag amcanion cynaladwyedd. Awgrymir meini prawf ar gyfer mesur cynaladwyedd cydrannau adeiladu, o'u tarddiad i'w terfyn a chysylltir rhain gyda nodweddion perfformiad llechen. Tynnir sylw at berfformiad thermol llechen fel nodwedd hynod o ffafriol. Effaith hyn yw bod llechen yn gallu pylu tymheredd cydrannau mewnol mewn ffordd goddefol, gan leihau pegynnau a phantiau anghyfforddus mewn tymheredd dros gylch 24 awr, heb fod angen troi at atebion peirianyddol


Toeau gwynion penrhyn Tyddewi
(The White Roofs of the St Davids Peninsula)

Philip Roach (Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro)

Mae'r papur hwn yn edrych ar nodwedd hynod mewn adeiladau yn ardal Tyddewi, a ddatblygodd mewn ymgais i leihau problemau a brofwyd gyda'r defnydd o lechi lleol, mewn cyd- destun hanesyddol a daearyddol. Rhoddir ystyriaeth i werthuso ac i gadwraeth y nodwedd, a allai fod yn berthnasol mewn cyd-destun ehangach.

Ffynonellau o garreg adeiladu a fewnforiwyd
(Sources of imported building stone)

Eric Robinson

Er bod Cymru yn gyfoethog fel ffynhonnell o garreg ar gyfer gwaith walio sylweddol, o garreg toi sydd gyda'r gorau drwy'r byd, o garreg ar gyfer mowldinau cain a charreg i gynnal cerfiadau addurnedig, mae'r angen wedi bod yma erioed i ganfod carreg o'r tu hwnt i'r afon Hafren. Mae asesiad o garreg 'ecsotig' yn ein galluogi i werthfawrogi'r adnoddau a gyfrannwyd gan gymunedau ar hyd yr oesoedd i'r adeiladau hynny sydd, yn ein tyb ni heddiw, yn cynrychioli rhod amser o'r cyfnod Rhufeinig trwy'r cyfnod canol oesol i'r oes Fictoraidd.


Adeiladu ac ail-adeiladu - neges cerrig yn eglwysi dwyrain Cymru
(Build and re-build - the message of stone in the churches of east Wales)

Bob Silvester (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd a Phowys)

Yr eglwys, yn aml, yw'r adeilad hynaf mewn annedd. Mae rhai, yn amlwg, wedi cael eu codi ar un cyfnod mewn hanes ond mae nifer o rai eraill wedi cael eu hymestyn a'u haddasu sawl gwaith dros y canrifoedd. Er bod y manylion pensaernïol yn darparu rhai cliwiau i'r newidiadau hyn, gall y defnydd a geir yn adeiladwaith yr eglwys ei hun gynnig cystal gwybodaeth. Gan ddefnyddio y data a gasglwyd yn ystod yr astudiaeth ddiweddar o'r holl eglwysi haneysddol yng Nghymru - astudiaeth a ariannwyd gan CADW, bydd y sgwrs hon yn edrych ar 3 neu 4 o eglwysi - yn cynnwys Llandandras (Sir Faesyfed), Llanfechain (Sir Drefaldwyn) a Llanynys (Sir Ddinbych) - i ddangos sut y gall y defnydd adeiladu gynnig gwybodaeth i ni ar ddatblygiad hanesyddol cymhleth pob adeilad.


Carreg neu bren: hoffter a rhagfarnau yng Nghymru yn y canol oesoedd a'r cyfnod modern cynnar
(Stone versus timber: preferences and prejudices in Mediaeval and early-modern Wales)

Richard Suggett (Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru)

Nid mater hawdd mo dewis defnyddiau adeiladu. Yn hanesyddol mae adeiladu cestyll, eglwysi a thai wedi golygu gwneud dewisiadau diddorol, a rhyfedd weithiau.

Y diwydiant carreg yng Nghymru - datblygiad a masnach
(The Welsh stone industry - its development and trade)

Ian Thomas (Canolfan Cerrig Cendlaethol)

Disgrifir datblygiad cynhyrchu a defnydd carreg adeiladu yng Nghymru mewn cyd destun hanesyddol a daearyddol eang. Ni ellir ystyried carreg adeiladu mewn ffordd ynysig: roedd masnach mewn offer carreg wedi bod yn digwydd ymhell cyn y diwydiant hwn ac roedd y gwaith o brosesu carreg ar gyfer diwydiant ac fel ffynhonnell o agregriadau yn llawer mwy o ran graddfa. Bydd y papur yn edrych ar y dylanwadau ar fasnach, nid yn unig o fewn Cymru ond hefyd gyda'r gwledydd o'i chwmpas, ac ar y modd y gwnaeth cludiant a ffasiwn ddylanwadu ar y fasnach hon. Yn olaf, ystyrir yn fyr i ba raddau y mae ymwybyddiaeth ynglyn â'r dreftadaeth bwysig hon yn cael ei hybu.