Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Cadwraeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cadwraethydd Paentiadau

Cadwraethydd Paentiadau yn archwilio Ffurf fel Ton gan Graham Sutherland

Cyn cadwraeth

Golygfa o Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Brif Gamlas.
GUARDI, Francesco (1712 - 1793)
Cyn cadwraeth.

Ar ôl cadwraeth

Golygfa o Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Brif Gamlas
GUARDI, Francesco (1712 - 1793)
Ar ôl cadwraeth.

Gofalir am gasgliad yr Amgueddfa o gelf addurniadol a chain mewn tair stiwdio gadwraeth benodol ar gyfer celf bapur, peintiadau îsl a chelf gymwysedig. Mae gweithdy fframio yma hefyd.

Mae staff y stiwdios yn cynnal triniaethau cadwraeth ac adfer yn ogystal â gwaith ataliol, ac maen nhw'n astudio deunyddiau a thechnegau artistiaid a gwneuthurwyr.

Defnyddir technegau dadansoddol gan gynnwys golau uwchfioled, adlewyrcholeg isgoch, x-radiograffeg a microsgopeg yn sail i driniaethau fel glanhau, cyfnerthu, triniaeth strwythurol ac atgyffwrdd gweithiau celf.

Mae'r stiwdios hefyd yn tynnu ar adnoddau dadansoddol yn yr Amgueddfa nad ydynt yn rhan o'r Adran Gelf.

Mae pob un o'r stiwdios yn gweithio ar ystod eang o weithiau, o tua'r flwyddyn 1500 hyd heddiw.