Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Oriel Derek Williams Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

[delwedd: Ffurfiau�n Cydblethu (1950) Adrian Heath (1920 - 1992)]

Ffurfiau'n Cydblethu (1950)
Adrian Heath (1920-1992)
Olew ar fwrdd
Ar fenthyg gan Ymddiriedolaeth Derek Williams

Prynwyd nifer o’r gweithiau yn yr oriel hon sy’n ymdrin â’r thema pop a haniaethol gan Derek Williams.

Er 1992, mae Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi bod yn cydweithio ag Amgueddfa Cymru i adeiladu eu casgliad, yn ogystal â darparu nawdd tuag at bryniadau’r Amgueddfa.

Bellach mae casgliad yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys amrywiaeth o weithiau gan ystod eang o artistiaid. Un rhan o’r casgliad y mae’r Ymddiriedolaeth wrthi’n ei datblygu ar hyn o bryd yw’r gweithiau paentio cyfoes.

Ganwyd Derek Williams (1929-1984) yng Nghaerdydd. Wedi gadael yr ysgol, ymunodd â phractis tirfesur siartredig ei dad yng Nghaerdydd a Phontypridd, gan ddod yn uwch bartner yn y pen draw.

Ymddiddorai Derek Williams mewn sawl maes yn cynnwys opera, ffotograffiaeth a golff. Dechreuodd brynu celf yn niwedd y 1950au. O Oriel Howard Roberts yng Nghaerdydd ac Oriel Marlborough yn Llundain y prynai fwyafrif ei weithiau. Cai bleser mawr o adeiladu ei gasgliad ac o’i arddangos yn ei gartrefi a’i swyddfeydd yng Nghaerdydd.

Casglodd nifer fawr o weithiau gan John Piper a Ceri Richards. Ategwyd y rhain gan weithiau artistiaid adnabyddus megis Ben Nicholson, Henry Moore, David Jones, Ivon Hitchens a Josef Herman. Yn dilyn marwolaeth Derek Williams ym 1984, crëwyd ymddiriedolaeth i ofalu am ei gasgliad a gweddill ei ystâd.

Yn ogystal â gofalu am y casgliad, mae Ymddiriedolaeth Derek Williams yn gyfrifol am ei ehangu a’i arddangos yn gyhoeddus. Mae’r Ymddiriedolaeth wedyn yn benthyg y casgliad i Amgueddfa Cymru. Mae cymorth hael Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi trawsnewid casgliad yr Amgueddfa o gelf yr ugeinfed ganrif hefyd, ac mae’n gyfwerth â rhoddion celf Ffrengig gwych Gwendoline a Margaret Davies genhedlaeth ynghynt.

[delwedd: As well as being, Brendan Stuart Burns]

As well as being, Brendan Stuart Burns. Ar fenthyg gan Ymddiriedolaeth Derek Williams

» Nôl i Celf

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.