Maes Lliw a Caledlin Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

[delwedd: ]

Harlecwinâd (1964)
Jeffrey Steele (1931-)
Olew ar gynfas
Rhodd gan Charles Goldsmith, 1976

Yn y 1960au cynhyrchodd nifer o artistiaid baentiadau haniaethol oedd yn fwriadol osgoi mynegiant personol a chyfeiriadau at y byd real.

Paentio maes lliw neu galedlin a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio’r arddull sy’n drefniant o siapau geometrig syml wedi’u paentio mewn lliw fflat.

Gwelir cyn lleied o dechneg neu arddull yr artist â phosibl wrth ymwrthod â mynegiant personol neu oddrychiaeth.

Byddai’r artist yn aml yn defnyddio rheolau neu systemau mathemategol i bennu trefn y siapau a’r lliwiau.

Golygai hyn bod rhesymeg fewnol i’r paentiadau oedd yn eu gwahanu ymhellach o’r byd ehangach y tu hwnt i’r ffrâm.

Golygai maint aruthrol nifer o baentiadau maes lliw neu galedlin y gallai’r gwyliwr ymgolli ynddynt.

Byddai perthynas siapiau a lliwiau â’u gilydd hefyd yn creu arwynebau ansefydlog ac yn twyllo’r llygaid.

Rhaid i’r gynulleidfa gyfranogi yn hytrach na bod yn gynulleidfa oddefol.

» Nôl i Celf

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.