Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Ffosilau mewn carreg: Paratoi ffosilau gydag asid

[delwedd: Gryphaea arcuata — Ewinedd traed y Diafol]

Calchfaen o Southerndown yn ne Cymru, yn cynnwys cregyn ffosil (Gryphaea arcuata — Ewinedd traed y Diafol).

[delwedd: Gryphaea arcuata – Ewinedd traed y Diafol]

Cregyn ffosil (Gryphaea arcuata – Ewinedd traed y Diafol) wedi i'r garreg gael ei thoddi mewn asid.

[delwedd: Cragen ddeufalf ffosil sydd ar hanner cael ei pharatoi gan ddefnyddio asid]

Cragen ddeufalf ffosil sydd ar hanner cael ei pharatoi gan ddefnyddio asid. Mae dwy ran y gragen (y falfiau) yn dal yn sownd i'w gilydd, ac mae'r falf isaf yn dal yn sownd i'r garreg.

Anaml y bydd ffosilau mewn cyflwr perffaith yn cael eu canfod. Pan fyddan nhw'n cael eu casglu, bydd y rhan fwyaf o ffosilau wedi'u cuddio'n rhannol, neu yn llwr, mewn matrics carreg. Er mwyn eu hastudio'n fanwl, neu i'w paratoi ar gyfer arddangos, rhai tynnu'r garreg o'u hamgylch yn ofalus.

Nid gwaith hawdd yw gwahanu carreg galed a ffosilau sydd weithiau'n hynod fregus, a gall fod yn broses hir drafferthus. Byddwn weithiau'n defnyddio offer llaw (pin, sgrafell, cŷn bach), neu gallwn ddefnyddio offer arbennig ar gyfer paratoi ffosilau, fel pinnau niwmatig tebyg i offer engrafu. Dewis arall yw defnyddio peiriant aer-sgreaffinio sy'n debyg i chwythwr tywod bach.

Neu gallwn ni doddi'r garreg mewn asid. Roedd y rhan fwyaf o gregyn ffosil wedi'u gwneud yn wreiddiol o galsiwm carbonad, ac mae nifer wedi'u cadw mewn calchfaen, sydd â'r un cyfansoddiad cemegol. Weithiau fodd bynnag, mae calsiwm carbonad y gragen yn toddi ymaith a silica yn ffurfio yn ei le, ond gan adael y galchfaen yn gyfan. Fydd y silica ddim yn toddi yn yr asid fel y galchfaen, ac felly gallwn ni dynnu sbesimenau o'r fath o'r garreg yn gemegol.

Finegr, dim halen os gwelwch yn dda

Yr asid fydd yn cael ei ddefnyddio gan amlaf fydd asid asetig — yr asid mewn finegr. Rydyn ni'n defnyddio crynodiad hynod uchel o asid asetig (80%), ond yn ei wanhau mewn dŵr i tua 5%.

Yn ystod y broses, bydd sampl carreg yn cynnwys ffosilau yn cael ei throchi yn yr asid asetig wedi'i wanu, fydd yn dechrau sïo bron yn syth wrth i'r asid a'r calchfaen adweithio.

Mae'r amser y bydd y garreg yn cymryd i doddi'n llwyr yn amrywio o rai diwrnodiau i sawl mis, yn dibynnu ar gyfansoddiad penodol y garreg. Bydd yr adwaith â'r garreg yn niwtralu'r asid yn raddol, a bydd angen ei adnewyddu o bryd i'w gilydd. Ymhen amser — oriau, diwrnodau neu wythnosau weithiau — y cyfan sydd ar ôl yw gwarged carreg lleidiog a'r ffosilau wedi siliceiddio.

Mae nifer o ffosilau siliceiddiedig yn frau iawn ac mae angen gofal mawr wrth eu trin. Bydd yn rhaid i ni eu cryfhau yn aml gyda glud i'w gwneud yn fwy cadarn.

Mae'r ffosilau bellach yn barod ar gyfer ymchwil neu arddangosfa. Mae nifer wedi cadw'n hynod o dda; mae rhai cregyn 450-miliwn o flynyddoedd oed sydd wedi'u siliceiddio yn edrych fel petai nhw wedi cael eu codi o'r traeth ddoe!

Gan: Christian Baars, Swyddog Ymchwil Technegol

Dyddiad yr erthygl: 7 Mehefin 2011

2 sylw

Amgueddfa Cymru ar 10 Medi 2014, 14:03

Hi Martin,

Thank you for your comment. This is a very good question – and not always easy to answer. The short version would be by experience – if you have a good understanding of the regional Geology you will already be aware of where and at what periods you can expect fossils to be silicified, but this requires a lot of reading and field work.

If you are collecting in an area you are unfamiliar with you may have to do some reading first. Have a look on Google Scholar for any scientific papers that may have been published on faunas of the area you are interested in. If fossils have been described in the past the author will almost certainly have spent some time investigating the taphonomy (type of preservation) of the fossils.

If there are no clues at all, another way is the acid test. A lot of palaeontologists carry a SMALL (about 10-20ml) bottle of (leak-proof and dilute – approximately 5%) hydrochloric acid with them on field work. By adding one drop of acid to a clean surface of the fossil (take care not to get a false reaction from any calcitic sediment or dust that may be attached to the surface of the fossil) you can see straight away whether there is a reaction – if it fizzes it is calcitic, if not it may be silicified.

If you are entirely unfamiliar with the geology and chemistry of the sediment and fossils it is also possible to undertake preliminary tests before committing your entire fossil collection to the acid bath – an possibly losing the lot. Simply take one or two (preferably not the best examples) of your fossils and subject them to the treatment you think might be the right one (in terms of type and strength of acid); only commit the rest of your samples to the same treatment if you get the desired result in terms of fossils being cleaned up.

If you are based in South Wales, are you a member of the South Wales Geologist’s Association? http://www.swga.org.uk/ They have a very good lecture and field trip programme, which may help you build up a comprehensive knowledge of the regional geology.

Kind regards
Christian



Christian Baars
Senior Preventive Conservator
National Museum Cardiff

Martin Cook ar 8 Medi 2014, 20:01

How do you check whether the fossil is silicified rather than calcite? Hardness test ?

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: