Casgliad Graham Sutherland

Ymgeisydd Doethuriaeth: Rachel Flynn

Dechreuwyd ymchwilio o'r newydd i Gasgliad Graham Sutherland fel rhan o broject ymchwil doethuriaeth tair mlynedd (2008-2011) ar y cyd ag Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Bryste dan nawdd y Cyngor Ymchwil Celf a'r Dyniaethau.

Mae casgliad mawr o waith yr artist o Brydain, Graham Sutherland ym meddiant yr Amgueddfa. Yn wreiddiol, roedd craidd y casgliad yn gymynrodd i Oriel Graham Sutherland yng Nghastell Picton yn Sir Benfro, cyn cael ei drosglwyddo i'r Amgueddfa. Cafodd Sutherland ei ysbrydoli gan dirlun Cymru ac ysgrifennodd “gan i mi elwa cymaint o'r wlad hon, hoffwn roi rhywbeth yn ôl”. Mae archif bersonol helaeth yr artist hefyd ym meddiant yr Amgueddfa, yn cynnwys llythyrau, toriadau papur newydd, ffotograffau, llyfrau, offer stiwdio a ‘gwrthrychau wedi'u canfod'.

Prif ganlyniadau'r project ymchwil hwn yw creu traethawd ysgolhaig a chyhoeddi canfyddiadau'r ymchwil, dosbarthu'r ymchwil mewn cynadleddau academaidd a thrwy sgyrsiau cyhoeddus, darparu gwybodaeth am y casgliad ar wefan yr Amgueddfa ac arddangosiad o ddeunydd o'r casgliad (Mehefin — Hydref 2011). Bydd y gweithgareddau yma yn galluogi i ystod o gynulleidfaoedd gael mwy o fynediad i'r casgliad a'r archif a'u deall yn well.

Adnabod Artist: Graham Sutherland (11 Mehefin — 30 Hydref 2011)

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.