'Rhof fy mhen bach lawr i gysgu / Rhof fy hun yng ngofal Iesu ... ' Diolch, gweddi a phader.

Siân Williams, Benllech
Siân Williams, Ty'n–y–gongl, Benllech.
Ti, O, Arglwydd, wyt yn rhoi
Rhywbeth beunydd i ni gnoi,
Os daeth gwlybaniaeth ar yr ŷd,
Ti roddaist datws inni i gyd.

Tâp AWC 7521. David Griffiths, Capel Isaac. Clywodd mewn darlith gan y Parchg Jiwbili Young. Pennill, yn ôl tystiolaeth lafar, a adroddwyd ar weddi mewn cwrdd diolchgarwch am y cynhaeaf. Cysylltir â mwy nag un ardal. Dyma un fersiwn o Forgannwg sy’n cynnwys y gair tafodieithol diddorol ‘gwlypin’, yn golygu ysbaid hir o dywydd gwlyb.

Arglwydd grasol, rwyt yn rhoi
Bara beunydd i ni gnoi;
Ac os daeth gwlypin ar yr ŷd,
Ti roest y tatws i ni i gyd.

Y Darian, 30 Ebrill 1931. ‘Pennill a ganwyd tua 50 mlynedd yn ôl mewn cwrdd diolchgarwch yn ymyl Sain Ffagan, Morg.’

* * *

Diolch i ti, O, Arglwydd Dduw,
Am borthi’r brain a phopeth byw;
A’r Hwn a’u porthodd hwy cyhyd,
A’n gwnelo ninnau’n frain i gyd.

Pennill arall y dywedir iddo gael ei ganu, ar yr Hen Ganfed, mewn cyrddau diolchgarwch am y cynhaeaf. Meddai Meilyr Wyn o Brestatyn wrth gofnodi’r pennill hwn yn Y Brython, 1 Tachwedd 1923, t. 7: ‘Perthyn iddynt [emynau gwerin] ryw bertrwydd neilltuol. Bu y cyfryw o wasanaeth mawr yn niffyg eu gwell yn y gorffennol.’

* * *

Pedwar post sydd dan fy ngwely,
Pedwar angel Duw o’m deutu.
Yn enw Duw fe af i’m gwely,
Yn enw Duw fe godaf fory.

‘Gweddi yr hen “Bâl o Gaelan”, tua 150-200 mlynedd yn ôl.’ O gasgliad llên gwerin yn AWC gan Mary Davies, Yr Hendre, Llanbrynmair. Un amrywiad ar y llinell olaf, medd Mary Davies, yw: ‘fe godaf fyny’.

* * *

Rwy’n mynd i’m gwely fel i’m bedd,
     Mewn gwedd gorweddaf yno;
Boed yr angylion, ddedwydd lu,
     Oddeutu’m gwely’n gwylio;
Ac os daw angau im mewn cwsg
     I’m dwyn o’m trwmgwsg heno,
O, derbyn Di fy enaid cu
     I Salem i breswylio.

Tâp AWC 5072. Siân Williams (1896-1992), Llwyn Onn, Ty’n-y-gongl, Benllech, Môn. Recordiwyd: 19.viii.1976. Ganed yn yr Efail Ucha, Ty’n-y-Gongl. Ganed ei mam, Elin Jones, yn Galchan, Llanbedr-goch, Môn. Fel ateb i’m cwestiwn: ‘Oeddech chi’n dweud ych pader?’ meddai Siân Williams: ‘Ow, oeddan, deud ych padar. A wedyn, odd Mam wedi dysgu ni i ddeud hyn: “Rwy’n mynd i’m gwely fel i’m bedd ...” Oeddan i’n ’i ddeud o – bob un ohonon ni’n deud – hyd yn oed ar ôl inni dyfu fyny, os fasen ni’n deud yn padar rywle. Dwi’n meddwl ’i fod o’n dilyn yr “Amen” – run fath â fasa fo’n perthyn i’r padar, ’te.’ (Gw. yr eitem sy’n dilyn.)

* * *

‘Padar’ Siân Williams oedd y pennill cyfarwydd a ganlyn:

Rhof fy mhen i lawr i gysgu,
Rhof fy enaid i Grist Iesu,
Os byddaf farw cyn y bora,
Arglwydd, derbyn f’enaid inna. Amen.

Tâp AWC 5072. Tebyg iawn oedd ein pader ni yn blant yn Uwchaled, sir Ddinbych, ym mhedwardegau a phumdegau’r ganrif ddiwethaf, ond dyma linell olaf y pader gennym ni: ‘Iesu, derbyn f’enaid inne.’

Y pennill yr arferai Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion, ei adrodd oedd hwn:

Rhof fy mhen bach lawr i gysgu
Rhof fy enaid bach i Iesu;
Os byddaf farw cyn y bore,
Duw dderbynio f’enaid inne. Amen.

Llsg. AWC 2868/1, t. 8. Gan Eirwen Jones, Llangwm, Uwchaled, sir Ddinbych, (yn enedigol o Dan-y-fron, plwyf Llansannan), clywais, fodd bynnag, un addasiad diddorol ar y pennill mwy cyfarwydd. Yn ei fersiwn hyfryd hi fe sylwn nad oes gyfeiriad o gwbl at farw, ond gweddi syml am gael deffro i weld bore newydd arall.

Rhof fy mhen bach lawr i gysgu,
Rhof fy hun yng ngofal Iesu;
Gad i’m gysgu tan y bore,
Gad im ddeffro’n iach i chware.