'Fe feddwodd Noa dduwiol, / Aeth Lot yn wael ei lun ... Cymeriadau’r Beibl

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.
Fe feddwodd Noa dduwiol,
     Aeth Lot yn wael ei lun,
Fe odinebodd Dafydd,
     Fe laddodd Moses ddyn;
Fe wadodd Abram Sara,
     Mae hyn yn newydd trist,
Ac i goroni’r cyfan,
     We wadodd Pedr Grist.

Llsg. AWC 1793/514, t. 12. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd,

* * *

Rhyfeddod gweled Isaac
     Ar ben Moriah draw,
Ac Abram wrth yr allor
     A’r gyllell yn ei law;
Mwy rhyfedd gweled Iesu
     Yn rhwym dan law ei Dad,
A’r cleddyf yn ei ystlys,
     Yn marw yn ei wa’d.

Fel hyn y cofnodwyd yr emyn hwn (y cyntaf o dri phennill) gan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 59-60. Ond dyma ffurf llinellau 5-8 gan Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog (Llsg. AWC 2868/2), t. 6.

Mwy rhyfedd gweled Iesu
     Ar ben Calfaria fryn,
Yn diodde’r gwawd a’r dirmyg
     A’r hoelion llymion hyn.

Cymharer hefyd y ffurfiau sydd gan Gomer yn Casgliad o Hymnau (1821), rhifau 59-60, a chan Thomas Gee yn Emynau y Cyssegr (1888), t. 293.

* * *

Dewisodd Lot le braf,
     Cadd boenau enaid byw,
Ond gwell gan Abram oedd
     Pen mynydd gyda Duw.

O gyfrol Glyn Jones, Profiadau Bachgen Bach o Felin y Wig (1970), t. 58.

* * *

Yn y cawell brwyn caed Moses,
     Yn yr ynys wrth y dŵr;
Mewn ffwrn dân cawd llanciau’r gaethglud,
     Dyna waredigaeth siŵr;
Ac fe gaewyd safnau’r llewod
     Cyn i Daniel fynd i lawr,
A chyn taflu Jona i’r dyfnder,
     Darparodd Duw bysgodyn mawr.

Pennill a gofnodwyd ym Mronnant, Ceredigion. Papurau David Thomas (1866-1940), Cyn Arolygwr Ysgolion, Cedwir yn LlGC.

* * *

Er cymaint gŵr oedd Moses,
     Mae’r Iesu’n fwy, medd Duw;
Mae Moses wedi marw –
     Mae’r Iesu eto’n fyw.
Ni welais ail i Iesu,
     Mae’n medru trin bob clwy’,
Ac am ei fod mor fedrus,
     Ffarwél i Moses mwy.

Llsg. AWC 2868/2, t. 6. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Priodolir y pennill gan Garneddog (Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 59) i John Robert Jones, ‘Alltud Glyn Maelor’ (1800-81). Dyma ffurf y bedwaredd linell gan Garneddog: ‘Mae Iesu heddyw’n fyw.’ Cofnodwyd yr emyn gan Hugh Evans (awdur Cwm Eithin), yn Y Brython (11 Rhagfyr 1924). Dyma ail ran y pennill ganddo ef:

Ni welais neb mor fedrus
     Ag Iesu i drin fy nghlwy’;
A chan ei fod fath feddyg,
     Ffarwél i Moses mwy.

Clywodd Hugh Evans am ‘hen ŵr’ yn ledio’r emyn hwn wedi gwrando ar bregeth faith am Moses.

* * *

Mi welaf ysgol hyfryd
     A lle ’rni ddodi nhroed,
Ni flinodd, ni ddiffygiodd,
     A ddringodd hon erioed;
Mae’i ffyn o addewidion
     Yn agos oll ddi-nam,
Fel gallwy’n hawdd ei dringad
     Er byrred yw fy ngham.

Dafydd William, Llandeilo Fach, yw’r awdur. Yng nghasgliad gwerthfawr Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd, y ffurf ar y seithfed linell ganddo ef yw: ‘Fel gallwy’n rhwydd ei cherdded ...’ (Llsg. AWC 1793/514, t. 26.) Ychwanegodd Evan Jones hefyd nodyn yn cyfeirio at agor Capel Moriah, Abergwesyn, 11 Mehefin 1907. ‘Y Parchg D Stanley Jones, Caernarfon, oedd yn pregethu, a’i destun ydoedd Genesis 28: 12 ‘Ac efe [Jacob] a freuddwydiodd, ac wele, ysgol yn sefyll ar y ddaear a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd. Ac wele, angylion Duw yn dringo ac yn disgyn ar hyd-ddi.’ Y Saboth canlynol rhoddodd Mr Prydderch, Maesyronnen, y pennill canlynol allan yng nghapel yr Annibynwyr, Llanwrtyd’:

Mi welaf ysgol hyfryd ...

* * *

Pennill cyfarwydd arall am ysgol Jacob yw’r un a ganlyn. Dyma fersiwn Carneddog (Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 88):

Ar yr ysgol welodd Jacob,
     Minnau wyf am roddi ’nhroed,
Er ei maint, ac er ei huchder,
     Chwympodd neb oddi arni ’rioed;
Grym i sefyll mewn addewid,
     Ac i sengyd ar ei ffyn,
Ac i ddringo ar hyd-ddi i fyny,
     Ac i waeddi, ‘Arglwydd, tynn.’

* * *

Fe grynodd yr hen Belsassar
     Mewn dychryn, och, a braw,
Wrth weled ar y pared
     Waith yr ysgrifen law;
A’r sgrifen oedd, ‘Fe’th bwyswyd
     Yng nghlorian Brenin ne,
Fe’th gafwyd yn rhy ysgafn –
     Yn uffern bydd dy le.’

Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 19. Ar waelod y dudalen ychwanegodd Carneddog yr enw ‘Beggi Llwyd, Dolwyddelen.’

* * *

Proffeswyr claear ar fy ôl
Yn gweiddi ‘Ffei! Ti est yn ffôl’.
Ond er im fynd yn ffôl, ddi-barch,
Mi ddawnsiaf eto o flaen yr arch.

O gasgliad yn AWC. Portread o’r Brenin Dafydd yn dawnsio o flaen Arch Duw.

* * *

Haf a chynhaeaf eto
     Sy’n aros gyda ni,
Awn gyda Ruth i loffa
     I feysydd Boas fry;
Cawn yno dywys breision
     O addewidion llawn,
A chroeso i’r gwanaf aros
     Hyd fachlud haul prynhawn.

Llsg. AWC 2868/1, t. 30. Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion, a Llsg. AWC 2868/2, t. 5. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog.

* * *

O, na welem oedfa un,
     Heb y diafol,
Argraff hawddgar Mab y Dyn
     Ar y bobol;
Deued ysbryd y peth byw
     I’r olwynion,
A boed delw’r Arglwydd Dduw
     Ar bob calon.

Tâp AWC 5070. Y Parchg William Morris. Recordiwyd: 18.viii.1976. Clywodd y pennill gan ei dad, Joseph Morris, genedigol o ardal Tre-garth, Bangor. Yn fersiwn Carneddog (Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 9, yr emyn cyntaf yn y casgliad), dyma’r drydedd linell: ‘A delw hawddgar Mab y Dyn’. Y ddwy linell olaf gan Garneddog yw:

I ddadle o du gogoniant Duw
     Ymhob calon.

Y mae’r pennill hwn, wrth gwrs, yn seiliedig ar weledigaeth Eseciel ac, yn arbennig, adnodau megis pennod 1: 15, 19-20.

‘Edrychais hefyd ar y pethau byw, ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyda’i bedwar wyneb ... A phan gerddai y pethau byw, yr olwynion a gerddent wrthynt; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear, yr ymgodai yr olwynion. I’r lle y byddai yr ysbryd i fyned, yr aent, yno yr oedd eu hysbryd ar fyned; a’r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion.’

Wedi adrodd y pennill y cyfeiriwyd ato uchod, ychwanegodd y Parchg William Morris y sylw a ganlyn: ‘Roedd yr hen weddïwyr yn sôn lawar iawn am weledigaeth Eseciel.’ (Tâp 5070) Recordiwyd David Griffiths, Pentwyn, Capel Isaac, yntau yn adrodd y pennill sy’n cyfeirio at weledigaeth yr olwynion a gafodd Eseciel (Tâp AWC 7521). Fersiwn yn cyfateb i un Carneddog yw ei fersiwn ef, ond cyfeiriodd hefyd at sylw a wnaed gan y Parchg Morley Lewis unwaith. Ar derfyn darlith gan David Griffiths, ac yntau wedi adrodd yr emyn, soniodd Morley Lewis am un pregethwr yn cyfeirio’n benodol at y pennill, ac yntau’n mynd rhagddo i siarsio’r gynulleidfa: ‘Gofalwch ych bod chi’n bresennol ym mhob oedfa, achos fe ofalith y diafol ei fod e yna.’