'O, dyro lamp ac olew gras ...'

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.
Y mae’r waedd ar hanner nos
     Bron â dyfod;
Gêst ti d’olchi ngwaed y gro’s?
     Wyt ti’n barod?
Paid â hepian gyda’r plant,
     Bydd yn effro;
Cais wir olew yn dy lamp,
     Cyn y delo.

Cofnodwyd gennyf o dystiolaeth lafar Idwal Hughes, Cerrigydrudion, sir Ddinbych (1971). Cofnodwyd hefyd ddwy fersiwn gan Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. Yn y naill a’r llall, y mae’r ystyr yn nwy linell olaf y pennill yn wahanol i’r uchod. Dyma fersiwn Llsg. AWC 1793/514, t. 22:

Cais yr olew, gyda’r lamp
     Wedi’i thrwsio ...

A dyma fersiwn Llsg. AWC 1793/517, t. 8:

Cais wir olew, a dy lamp
     Wedi’i thrwsio.

Y mae’r fersiwn a gyhoeddwyd gan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 10, yn debyg i fersiwn Idwal Hughes a nodwyd uchod. Ychwanegodd ef yr enw ‘Owen Prisiart, y Waen Fawr, gerllaw Caernarfon’ ar waelod tudalen 10, ond nid yw’n sicr ai cael y pennill gan Owen Prisiart a wnaeth Carneddog, ynteu ai Owen Prisiart yw’r awdur. Y tebyg yw mai clywed y pennill gan Owen Prisiart a wnaeth. Y mae’r pennill yn ddienw gan Thomas Gee yn Emynau y Cyssegr (1888), rhif 896.

* * *

Chwi glywsoch am ddeng morwyn
     Yn cario lampau’n hir,
Er lleied oedd eu nifer,
     Eu hanner heb y gwir.
’Rym ninnau’n cario proffes,
     Mae’n hanes gan y byd,
O, Arglwydd dyro inni
     Yr olew gwerthfawr drud.

Tâp AWC 5071. Y Parchg William Morris. Recordiwyd: 18.viii. 1976.

* * *

Bod yn barod bob rhyw ddiwrnod,
     Am nas gwyddom ddim o’r pryd
Daw ein Harglwydd mawr i’n galw
     I’r ysbrydol fythol fyd;
         O, am olew,
Cyn y delo’r priod-fab.

Llsg. AWC 1793/517, t. 1. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd.

* * *

Tyma’r haf a thymor tyner;
     Tyma’r amser i bartoi;
Tyma ddydd i drwsio’r lampe,
     Cyn y caffo’r drws ei gloi.

Tâp AWC 5008. James Williams, Cefngorwydd, Brycheiniog. Recordiwyd: 20.vii.1976.

* * *

Angau yw terfyn pob dyn byw,
     O, Dduw, gwna ninnau’n barod;
Rho olew yn ein llestri pridd
     Erbyn y dydd sy’n dyfod.

Llsg. AWC 2868/1, t. 25. Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion. Codwyd y pennill o Gylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 1933. Casgliad y Parchg Ward Williams o emynau.

* * *

O, dyro lamp ac olew gras
Cyn cauo’r drws a finne mâs;
A golch fi’n ddwys yng ngwaed y gro’s,
Cyn delo’r waedd am hanner nos.

Llsg. AWC 1793/514, t. 15. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. ‘Yn adeg Diwygiad ’59 yr oedd y penill a ganlyn â llawer iawn o ganu arno yn y cyfarfodydd gweddi ar hyd Cantref Buallt.’ Cymharer y gân gyfoes:

Dyro olew yn fy lamp,
     Gwna im losgi ...

* * *

Mewn bywyd mae gwasnaethu Duw ...
Yr adyn gwaethaf all gael gras
Tra paro’r lamp i losgi mâs ...

Tâp AWC 7520. David Griffiths (1910-95), Pen-twyn, Capel Isaac, sir Gaerfyrddin. Recordiwyd: 24.xi.1989. Ar y pryd, dyma’r unig linellau y gallai David Griffiths eu cofio. Clywodd hwy gan Tom Griffiths, Cwm Gelli Fawr, Llanfynydd, aelod yng Nghapel y Bedyddwyr, Amor.