'Daeth anghrediniaeth ataf / Â chlamp o bastwn mawr ...'

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.
Gofynna anghrediniaeth
    Paham yr wyf mor hy?
Fy ateb parod ydyw,
    Fy mrawd yw Gŵr y tŷ.
Cês ganddo enw newydd,
     Ni cholla’i mono’n wir,
Tragwyddol ddiolch iddo,
     Af ato cyn bo hir.

Llsg. AWC 1793/514. t. 37. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. Dyma fersiwn Carneddog o’r ail linell yn Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 111: ‘Paham yr wyt mor hy?’

* * *

Hen anghrediniaeth ddaeth ataf fel cawr,
 phastwn o lygredd, fe’m trawodd i lawr;
Cês arfau da, reiol, a chleddyf dan gamp,
Er dyfned y syrthiais, mi godais yn glamp.

Tâp AWC 5071. Y Parchg William Morris, Caernarfon. Dyma fersiwn Carneddog (Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 95) o linellau un a phedwar:

Daeth hen anghrediniaeth i’m herbyn fel cawr ...
Er ised y cwympiad, mi godais yn glamp.

Ond gwrandawn yn awr ar y fersiwn hynod o liwgar a ganlyn, sy’n cyfleu drama’r frwydr fawr i’r dim. Fe’i clywais gan John W Jones, Pentrellawen, Cwm Main, sir Feirionnydd, ddiwedd y chwedegau, gŵr a oedd bryd hynny ymhell dros ei wyth deg mlwydd oed.

Daeth anghrediniaeth ataf
     Â chlamp o bastwn mawr,
Fe’m trawodd yn fy nhalcen,
     Nes own i’n bowlio i lawr.
Tarewais anghrediniaeth
     Roes iddo farwol glwy,
A rhedodd yntau ymaith —
     Ni welais mono mwy.

* * *

Fe ddwedodd anghrediniaeth,
     Do wrthyf lawer gwaith,
Am beidio â blino’r Athro,
     Mai ofer fyddai’m gwaith.
Af at ei orsedd eto,
     Er dued yw fy lliw,
Cans gwn y caf drugaredd —
     Un rhyfedd iawn yw Duw.

Clywais gan Kate Morris, Llangeitho, Ceredigion. Cofnodwyd hefyd gan Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog (Llsg. AWC 2868/2, t. 14), a chan Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion (Llsg. AWC 2868/1, t. 36). Ffurf y seithfed linell ganddynt hwy yw: ‘Pwy ŵyr na chaf drugaredd’. Priodolir y pennill hwn gan Thomas Gee (Emynau y Cyssegr (ail arg., 1888), rhif 1204) i ‘Mrs Jane Hughes, sir Fôn’, sef, mae’n fwy na thebyg, Jane Hughes, Rhyd-wyn, Môn.

Y mae ar gael yn Gymraeg, fel y gwyddom, barodïau ar fwy nag un emyn, a rheini’n benillion difyr iawn. Dyma un parodi ar yr emyn uchod. Fe’i cofnodwyd gan Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion (Llsg. AWC 2868/1, t.13). Cafodd hi y pennill gan ‘Mrs Hopkins, Bontnewydd’. Roedd gŵr o ardal Bethania (ger Llanbadarn Trefeglwys, Ceredigion) ar ôl pawb arall yn plannu’i datws, a’i gymdogion yn dal ati i dynnu’i goes. Fel hyn y canodd yntau:

Dywedodd anghrediniaeth,
     Do, wrthyf lawer gwaith,
Am beidio hau y tatw —
     Mai ofer fyddai ngwaith.
Mi heuaf datw eto,
     A rheini’n egin braf,
Pwy ŵyr na fyta’i datw
     Cyn diwedd hyn o haf.