'Fe ganws y ceiliog, / Fe dorrws y wawr ...' I'r frwydr gyda'r Iesu

Sarah Ann Harries, Penparce
Sarah Ann Harries, Penparce, Aberystwyth.
Duw, rho imi gledd yr ysbryd
    A chanon gweddi’r ffydd,
A helm yr iachawdwriaeth,
     Rwy’n credu caf fi’r dydd.
Bwledi o fân ochneidiau,
    A’r powdwr gorau’i ryw,
A sicrwydd diamheuol,
     A thân o gariad Duw.

Llsg. AWC 2868/3, t. 38. Elizabeth Reynolds, Brynhoffnant, Ceredigion. Ceir fersiwn debyg gan Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion (Llsg. AWC 2868/2, t. 18) a chan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 97. Awdur y pennill yw Dafydd William, Llandeilo Fach.

* * *

Mae Capten byddin Seion
     Yn eistedd ar farch gwyn;
Mae ganddo fwa cadarn
     A saethau hynod lym;
Mae yn rhyfelwr medrus,
     Ni fetha byth mo’i nod;
Fu’r un o’r Benjaminiaid
     Yn debyg iddo rio’d.

Llsg. AWC 1793/514, t. 20. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. Ceir y pennill hefyd, gyda mân amrywiadau, gan Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion (Llsg. 2868/1, t. 3 a 4), a chan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 54.

* * *

Fe ganodd y ciliog,
     Fe dorrodd y wawr,
Mae’n bryd inni ddeffro,
     Ein shwrne sy fawr;
Mae milwyr y Brenin
     Ymhell ar y blân,
Dilynwn yr Iesu
     Trwy ddŵr a thrwy dân.

Tâp AWC 3886. Sarah Ann Harries, Penparce, Aberystwyth. Ganed 29.xii. 1884, yn Nhalsarnau, rhwng Dre-fach a’r Tymbl. Recordiwyd: 15.vi.1973. Dyma gyflwyniad Sarah Ann Harries i’r emyn hwn:

‘O, ie. Wi’n cofio bod gwnidog wedi dwad aton ni ar bore dy’ Sul. A ôn i wastad yn gynnar. A oedd y gwnidog yn aros – gwnidog o Lanelli – yn aros yn y lobi. A dechre siarad am rywbeth. A medde fo wrtha’i:
“Ma ryw ’en ŵr yn dwad”, medde fo, “ac yn pwyso ar y gât o hyd”, medde fe fylna, “a mae o’n gweud ryw ’en bennill bach, a dim ond dwy lein mae e’n gwbod”, medde fe. Odd ’i fam yn ei ganu fe iddo fe amser odd e’n un bach.
“Beth yw e, ’te?” wedes i.
“O”, wedodd e, fylna,

“Fe ganodd y cilog
     Fe dorrodd y wawr ...”

A ’na gyd odd e’n wbod. A ’na wedes inne wedyn, ’te:

Fe ganodd y cilog ...’

Dyma fersiwn Elizabeth Reynolds, Brynhoffnant, Ceredigion, o’r drydedd a’r bedwarell linell (Llsg. 2868/3, t. 39):

Mae’n bryd inni ddeffro
     ’R cynhaeaf sydd fawr ...

Dyna hefyd ffurf y bedwaredd linell gan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 43. Ond fel hyn y mae’r llinell gyntaf ganddo ef: ‘Y ceiliog a ganodd ...’. Y mae’n amlwg fod y pennill hyfryd hwn yn gyfarwydd iawn yng ngogledd a de Cymru. Dyma, er enghraifft, fersiwn a gofnodwyd yn Y Brython, 15 Tachwedd, 1923, t. 4:

Fe ganws y ciliog,
     Fe dorrws y wawr,
Ma’n bryd inni gychwyn,
     Mae’r siwrnai yn fawr;
Mae milwyr y Brenin
     Ymhell yn y blân,
Canlynwn yr Iesu
     Trwy ddwfwr a thân.

* * *

Beth yw’r ymdrech, beth yw’r rhyfel
     Welaf yn y maes gerllaw?
Pawb â’i lurig gref amdano,
     Pawb â’i gleddyf yn ei law.
Byddin Satan yw honacw,
     Lleng frwmstanaidd uffern dân,
Byddin Iesu yw honyma,
     Arfog lu yr Eglwys lân.

O gasgliad yn AWC.