'Mi fûm wrth ddrws Uffern yn curo / Yn ceisio cael myned i mewn ...' Darlun, delwedd a drama.

Christmas Evans
Christmas Evans (1776–1838).
William Williams Pantycelyn
William Williams Pantycelyn (1717–91).
Wel, unwaith eto mi rown dro
O amgylch caerau Jericho;
Er uched yw ei muriau mawr,
Yn amser Duw hwy ddont i lawr.

O gasgliad yn AWC. Fel hyn, meddid, yr adroddwyd y pennill gan henwr mewn oedfa unwaith:

Siwrnai eto dowch am dro
Rownd abowt i Jericho;
Pwy a ŵyr nad dyma’r awr
Y cwympith part o’r wal i lawr.

Eto o gasgliad yn AWC.

* * *

Cawd, cawd
Bendithion fyrdd o’r cafan blawd
Wrth wrando ar ein hannwyl frawd;
Ac nid Duw tlawd mo Brenin ne’,
Rhoed pawb o’u calon iddo’r clod,
Mae’n medru dod i bob rhyw le.

O gasgliad Elin Owen, Cricieth. ‘Cyfansoddwyd gan hen chwaer wrth wrando ar “Richards Caernarfon” yn pregethu yn y Felin, Fron-goch, ger Y Bala.’ Safai’r pregethwr yn y ‘cafan blawd’. Dyma fersiwn Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion, ar y bumed linell (Llsg. AWC 2868/1, tt. 40-1): ‘Nid oes cyffelyb iddo’n bod’.

* * *

Mae cedyrn furiau Babel
    Yn siglo hyd eu sail,
Daw adre o’u caethiwed
    Holl deulu Adda’r Ail;
Mae sŵn y telynorion
     Yn ennyn ynof chwant
I fod â’m llais yn rhywle
     Ymhlith caniadau’r plant.

Llsg. AWC 1793/514, t. 22. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd.

* * *

Rhwng Pihahiroth a Baalseffon,
     Tra bwyf byw mi gofia’r lle,
Mewn cyfyngder eithaf caled
     Gwaeddodd f’enaid tua’r ne;
Yn ddio’d dyma’n dod
Waredigaeth fwya ’rio’d.

Llsg. AWC 1793/516. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. Exodus 14: 1-31. Hanes yr Israeliaid yn ‘gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a’r môr, o flaen Baalseffon’ a Duw yn peri i’r Israeliaid, o dan arweiniad Moses, gael eu hachub pan agorodd y Môr Coch a boddi’r holl Eifftiaid.

* * *

Mae rhai ar draed yn dyfod
     Ymlaen i Seion fryn,
Ac eraill mewn cerbydau
     Yn harddach na’r rhai hyn;
Mae’n dda i rai fod mulod
     Ac elor feirch yn bod,
I gario’r claf a’r clwyfus,
     I Iesu byddo’r clod.

Llsg. AWC 1793/517, t. 1. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. Pennill yn seiliedig ar Eseia 66: 20: ‘A hwy a ddygant eich holl frodyr o blith yr holl genhedloedd, yn offrwm i’r Arglwydd, ar feirch, ac ar gerbydau, ac ar elorau meirch, ac ar fulod, ac ar anifeiliaid buain, i’m mynydd sanctaidd, Jerwsalem, medd yr Arglwydd, megis y dwg meibion Israel offrwm mewn llestr glân i dŷ yr Arglwydd.’ Mewn man arall yng nghasgliad cyfoethog Evan Jones (Llsg. AWC 1793/514, t. 46), dywed iddo glywed yr ‘hen bennill’ hwn gan y Parchg D Stanley Jones pan oedd yn aros yn Llanwrtyd.

* * *


Mi fûm wrth ddrws uffern yn curo
     Yn ceisio cael myned i mewn,
Ond dwedodd y Gŵr oedd â’r ’goriad
     Ei bod hi rhy gaead, na chewn ;
Tra oeddwn i yno yn sefyll,
     Agorwyd i eraill, mi wn,
Pwy wêl arna’i fai am ei garu?
     Pa gyfaill sy’n haeddu fel Hwn?

Tâp AWC 5071. Y Parchg William Morris. Clywodd y pennill gan amryw, yn eu plith: William Williams, Caernarfon. Ceir fersiwn o’r pennill hefyd, gyda rhai amrywiadau, gan Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog (Llsg. AWC 2868/2, t. 3).

* * *

Tair, tair
Arglwyddes enwog, da eu gair:
Arfaeth, Addewid, hefyd Mair;
Daeth tymor i esgor; daeth yr awr.
Bachgen a aned, tair gwraig rydd;
Mae raid ei fod e’n rhywun mawr.

Tâp AWC 5008. James Williams, Llwyn Celyn, Cefngorwydd, sir Frycheiniog. Recordiwyd: 20.vii.1976. Awdur y pennill nodedig hwn yw John Davies (1780-1814), Bethlehem, Sanclêr. Fe’i cyhoeddwyd, er enghraifft, gan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau, t. 82. ‘Arglwyddes feichiog’ sydd ganddo ef yn yr ail linell, ac yn y bedwaredd linell a dechrau’r bumed: ‘A’u tymp i esgor daeth ’run awr; – Un mab a anwyd ...’ Gw. hefyd E Wyn James, ‘Emynau Llafar Gwlad’, yn Carolau a’u Cefndir, Gwasg Efengylaidd Cymru, 1989, t.75.

* * *

Dwy fflam ar ben Calfaria
     A gwrddodd yno nghyd,
Fflam cariad at bechadur,
     Fflam goch y ddwyfol lid.
Eu mwg esgynnai fyny,
     Nes duo sêr y nen,
A’r Iesu rhwng y ddwyfflam
     Yn marw ar y pren.

Llsg. AWC 2868/1, t. 12. Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion. Clywodd mewn darlith gan T E Nicholas. Clywodd yntau’r pennill pan oedd yn blentyn gan ei rieni. Christmas Evans yw’r awdur.

* * *

Mae sŵn morthwylion Seion
     Ar feini’r demel bur,
Yn trwsio rhai eneidiau
     O fewn i’r anial dir.
O’r graig fe naddwyd allan
     Rai meini geirwon iawn,
Fe’u dygir i’r adeilad
     Cyn byddo’r gwaith yn llawn.

Llsg. AWC 2868/3, t. 38. Elizabeth Reynolds, Brynhoffnant, Ceredigion, a Llsg. AWC 2868/2, t. 12. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Christmas Evans yw’r awdur. Gw. W Alonzo Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru [1892], tt. 216-17.

* * *

Ceisiwch wisgoedd y briodas
     Gwisgoedd hyfryd, hardd ’u lliw,
Nid oes enw teilwng arnynt
     Ond cyfiawnder pur fy Nuw.
Llinyn main ydyw rhain
Sydd yn cuddio pob rhyw staen.

Tâp AWC 4239. Mary Thomas, Bryn Glas, Meidrim, sir Gaerfyrddin. Ganed 16 Awst 1887 ym Meidrim. Recordiwyd: 30 Mai 1974. Clywodd yr emyn pan oedd tua saith oed gan ei nain, oedd yn ddall erbyn hynny. Yr oedd hefyd yn cofio clywed yr emyn yn cael ei ganu ym Methel, capel y Methodistiaid Calfinaidd, Meidrim, ei ganu ‘bob yn bedair llinell, oherwydd nad oedd llyfr emynau gan bawb bryd hynny’.

William Williams, Pantycelyn, yw’r awdur. Yn Llawlyfr Moliant Cynulleidfaoedd y Bedyddwyr (1930), er enghraifft, cyhoeddir tri phennill: 1. ‘Dewch hil syrthiedig Adda ...’; 2. ‘Ceisiwch wisgoedd y briodas ...’; 3. ‘Dyma wledd y cewch ddanteithion ...’. Ond fel hyn yr ymddengys dwy linell olaf yr ail bennill:

Lliain gwyn yw’r rhai hyn,
Wewyd ar Galfaria fryn.

Yn y Llawlyfr Moliant Newydd (1955), cyhoeddwyd y tri phennill fel uchod, ac eithrio dwy linell olaf yr ail bennill. Y tro hwn, adferwyd y geiriau a’r ddelwedd gyfoethog:

Lliain main ydyw rhain
Sydd yn cuddio pob rhyw staen.

Yn Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd (1927), cyhoeddwyd y ddwy linell uchod, ond ni chynhwyswyd y trydydd pennill: ‘Dyma wledd y cewch ddanteithion ...’