'Mi welais haf a gaeaf, / Mi welais ddydd a nos ...' Ail-adrodd a chyfosod.

Y Parchg William Morris, Caernarfon
Y Parchg William Morris, Caernarfon.
Dr Ceinwen H. Thomas
Dr Ceinwen H. Thomas.
Catherine Margretta Thomas, Nantgarw
Catherine Margretta Thomas (1880-1972), Nantgarw.
Ellen Evans (1879 - 1972), Llithfaen
––Ellen Evans (1879–1972), Llithfaen.
Ty'n–y–pant, Llanwrtyd
Ty'n–y–pant, Llanwrtyd (yr hen dŷ).
'Mi welais haf a gaeaf, / Mi welais ddydd a nos ...' Ail-adrodd a chyfosod.
Fe hoeliwyd Pren y Bywyd
    Wrth bren ar Galfari;
Bu farw Pren y Bywyd
     Drwy ddioddef drosom ni;
Fe gladdwyd Pren y Bywyd
    Yng ngwaelod bedd tan gudd;
Fe gododd Pren y Bywyd
    Ar fore’r trydydd dydd.

Tâp AWC 5071: Y Parchg William Morris, Caernarfon. Ganed: 17.xi.1889, ym Mlaenau Ffestiniog. Recordiwyd: 18.viii.1976. Un o emynau poblogaidd Diwygiad 1859. Gw. hefyd Hymnau y Diwygiad (o wasg Robert Jones, Bethesta, 1859).

* * *

Yng ngwydd yr haul fe hoeliwyd
     Yr Haul ar ben y bryn;
Gwnaeth Haul i haul dywyllu,
     Bydd eto gof am hyn.
Rhoed Haul heb haul i orwedd
     Ar waelod bedd ynghudd,
Dau haul a gyd-gyfoda
    Ar fore’r trydydd dydd.

 

Tâp AWC 5070: Y Parchg William Morris, Caernarfon. Recordiwyd: 18.viii.1976. Cofnodwyd hefyd, gyda mân newidiadau, drwy dystiolaeth Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. (Llsg. AWC 2868/2), a John W Jones, Cwm Main, Meirionnydd (heb rif llsg.). Yn ôl JWJ, un o emynau poblogaidd Diwygiad 1859 ydoedd. Priodolir yr emyn i’r Parchg David Saunders, ‘Dafydd Glan Teifi’ (1769-1840). Gw. John James, Pigion o Hymnau (1811), rhif 158. Fe’i cyhoeddwyd hefyd yn Hymnau y Diwygiad (o wasg Robert Jones, Bethesda, 1859). Gw. ymhellach erthygl E Wyn James: ‘Rhagor am Emyn Mam-gu’r Mynydd’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, cyf. 3. rhif 1 (1988-89), tt. 24-30.

* * *

Fe welwyd Craig mewn dalfa
     Gan wŷr y gwaywffyn;
Fe welwyd Craig yn hongian
     Ar ben Calfaria fryn;
Rhoed Craig mewn craig i orwedd,
     Hyd fore’r trydydd dydd;
Er gwaetha’r maen a’r milwyr,
     Daeth Craig o’r graig yn rhydd.

Llsg. AWC 1793/514, t. 37. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. Llsg. AWC 2868/1, t. 41. Mary Jones, Pennant, Ceredigion. Llsg. AWC 2868/2, t.1. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Yn ôl John W Jones, Cwm Main, Meirionnydd, dyma un eto o emynau poblogaidd Diwygiad 1859. Cyhoeddwyd yr emyn yn ddienw gan Garneddog yn ei gyfrol: Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 78. Clywodd y Dr Ceinwen H Thomas, Caerdydd, yr emyn hwn yn cael ei adrodd a’i ganu yn aml gan ei mam, Catherine Margretta Thomas (1880-1972), Nantgarw, Morgannwg, a hynny yn nhafodiaith hyfryd yr ardal honno, Y Wenhwyseg:

Fi welas Graig mywn dalfa
     Gin wŷr y gwayw-ffyn ...

Gan ei mam hefyd y clywodd ddau bennill arall sy’n cael eu cynnwys yn y detholiad presennol o emynau llafar gwlad:

Fi welas ’ef a gaea,
     Fi welas ddydd a nos ...

a’r pennill:

’en lestar Iachawdwria’th
A ddeth o’r nef i ni ...

Fel tri phennill yn rhan o un emyn yr ystyriai Catherine Margretta Thomas y penillion hyn. Clywodd hwy’n cael eu canu gan ei mam-gu, mam ei thad, a adwaenid gan y teulu fel ‘Mam-gu’r Mynydd’. Ann Meredydd oedd ei henw cyfreithiol, ond Nanni Lew i’w chydnabod (ar ôl Lewis Davies, ei gŵr cyntaf). Yr oedd yn byw mewn bwthyn o’r enw Tŷ Nant ar Fynydd Caerffili, yn lled agos i Dafarn Clwyd y Gyrnos (The Black Cock Inn heddiw). Canai Ann Meredydd y tri phennill ar amrywiad o’r dôn ‘Bryniau Caersalem’, a chyhoeddwyd nodiant o’r gerddoriaeth a thestun o’r tri phennill (yn nhafodiaith Y Wenhwyseg) yn erthygl Ceinwen H Thomas, ‘Emyn Mam-gu’r Mynydd’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, cyf. 3, rhif 1 (1988-89), tt. 20-23. Am ymdriniaeth bellach â’r emyn hwn, ac emynau cyffelyb sy’n rhoi pwys ar ail- adrodd a chyfosod, ac yn cyfeirio at ddelweddau megis craig, haul, pren y bywyd, a ‘hen lestr iachawdwriaeth’, gw. E Wyn James, ‘Rhagor am Emyn Mam-gu’r Mynydd’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru’, cyf. 3. rhif 1 (1988-89), tt. 24-30. Gw. hefyd erthyglau ac emynau llafar gwlad gan Huw Llewelyn Williams (Porfeydd, Mai/Meh. 1970), a Huw Williams (Y Goleuad, 11 Mai 1990).

* * *

Cês ddŵr o’r Graig i’w yfed
    I dorri’m syched mawr;
Cês beunydd fara i’w fwyta –
     O’r nef y daeth i lawr;
Cês delyn tu yma i angau,
     Fy holl gystuddion ffodd,
I ganu i’r Oen fu farw –
     Mae’n briod wrth fy modd.

Llsg. AWC 1793/514, t. 40. Evan Jones (1850-1928), Ty’n-y-pant, Llanwrtyd.

* * *

Tarawyd Craig yn Horeb,
     Fe redodd dŵr i mâs,
I ddisychedu Israel
     Yn beraidd iawn ei flas.
Ond ar Galfaria fynydd
     Fe d’rawd cadarnach craig,
Fe redodd dŵr pereiddiach
     O ystlys had y wraig.

Llsg. AWC 1793/514, t. 42. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd.

* * *

Marwolaeth sydd yn gyrru
     Marwolaeth mâs o’r byd;
Fe lwnc marwolaeth Iesu
     Y marwolaethau i gyd.
Trwy rinwedd glân y beddrod
     Ac angau Calfari,
Cawn ddweud wrth angau Eden:
     ‘Ble mae dy golyn di?’

O gasgliad yn AWC.

* * *

Cofio’r nos bradychwyd Iesu,
     O, mor hynod cofio’r ardd,
Cofio Jiwdas, cofio’r fyddin
     Ddaeth i ddal ein Ceidwad hardd;
Cofio’r chwys a llys y profi,
     Cofio’r groes a Chalfari,
Cofio’r lludded mawr a’r syched
     Pan yn marw drosof fi.

Llsg. AWC 2868/2, t. 1. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Y mae’r pennill yn ddienw gan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau, t. 8. ‘O, mor ryfedd’, sydd ganddo ef yn yr ail linell, a ‘Ddaeth i ddal y Person hardd’ yn y bedwaredd linell. Y seithfed linell gan Garneddog yw ‘Cofio’r syched, – cofio’r lludded’.

* * *

Cofio rwyf yr awr ryfeddol,
     Awr wirfoddol oedd i fod,
Awr a nodwyd cyn bod Eden,
     Awr a’i diben wedi dod,
Awr wynebu ar un aberth,
     Awr fy Nuw i wirio’i nerth,
Hen awr annwyl prynu’r enaid,
     Awr y gwaed, pwy ŵyr ei gwerth.

Tâp AWC 5070. Y Parchg William Morris. Recordiwyd: 18.viii.1976. Ei fersiwn ef ar y drydedd linell yw: ‘Awr a nodwyd draw yn Eden’. Cyhoeddwyd yn Caneuon Ffydd, 2001, rhif 512. Yr awdur yw John Robert Jones, ‘Alltud Glyn Maelor’ (1800-81). Ganed yn Llanarmon-yn-Iâl, sir Ddinbych. Gw. Delyth G Morgans, Cydymaith Caneuon Ffydd, 2006, tt. 173, 455-6. ‘Symbylwyd Alltud Glyn Maelor i lunio’r pennill hwn wrth wrando ar bregeth y Parchedig Owen Owens, Brymbo, ar y testun, ‘Y Tad, daeth yr awr’. Ymddengys i’r emynydd estyn darn o bapur i’r pulpud ar ddiwedd y bregeth, ac arno’r pennill oedd newydd ei ysgrifennu ... Dywedir yng nghyfrol W A Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru (1892, tt. 229-30) fod Gwilym Hiraethog yn ystyried y pennill hwn yn un o’r goreuon yn yr iaith Gymraeg.’ (Cydymaith Caneuon Ffydd, t. 173.)

* * *

Mae amser wedi cario
     Rhyw filoedd maith o’r byd;
Dyw amser ddim yn segur,
     Mae wrth ei waith o hyd;
Fe’n caria amser ninnau
     Ryw ddydd i ben ein taith,
Nid oes dim rhifo amser
     Yn nhragwyddoldeb maith.

Tâp AWC 5071. Y Parchg William Morris. Recordiwyd 18.viii.1976. Llsg. AWC 1793/514, t. 10. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd.

* * *

Mae Duw, fy Nhad, yn Seion,
     Yn cadw cartref im;
Mae Iesu, mrawd, yn Seion
     Ni raid im ofni dim.
Mae’r Ysbryd Glân yn Seion,
     Cysuron rydd i’r saint;
Rwyf innau’n byw yn Seion,
     Diolchaf am y fraint.

Tâp AWC 5071. Y Parchg William Morris. Recordiwyd 18.viii.1976. Clywodd y pennill gan John Jones, Stryd y Mynydd, Caernarfon. Bu John Jones yn amlwg fel paffiwr a meddwyn, ‘ond mi gafodd ras os cafodd rywun ’rioed ... Mi achubwyd o ar Forfa Conwy pan oedd o efo’r militia.’ Roedd ganddo stori amdano’i hun yn taflu cwrw ‘i’r mortar’ yn lle ei yfed. Cofnodwyd fersiwn debyg i’r pennill gan Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd (Llsg. 1793/514, t. 42). Ond dyma chwe llinell gyntaf y pennill fel y’i cofnodwyd gan Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion (Llsg. AWC 2868/1, t. 39):

Mae Nhad yn byw yn Seion
     Yn cadw tŷ fy mam;
Mae     Mrawd yn byw yn Seion
Ni oddef i’m gael cam.
Mae’r Ysbryd Glân yn Seion
     Yn nerthu pawb o’r saint ...

Tebyg hefyd yw fersiwn Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog (Llsg. AWC 2686/2, t. 14). Ond dyma ei fersiwn hi o’r chweched linell: ‘Cysuron fil i’r saint’.

* * *

Dyma drysor y trysorau;
     Dyma berl y perlau i gyd;
Dyma ffynnon y ffynhonnau;
     Dyma’r aur uwch aur y byd;
Dyma’r lamp yn afon angau;
     Dyma safon bur i fyw;
Dyma’r ffordd i’r gwynfyd bythol;
     Dyma’r Gair lefarodd Duw.

O gasgliad Elin Owen, Cricieth. Daeth o hyd i’r pennill ‘yn hen Feibl y teulu, ac fe’i hysgrifennwyd gan Hugh Jones, cefnder i Nain ’Stiniog.’

* * *

Gras a ddeil pan losgo’r ddaear,
     Gras a ddeil pan ferwo’r môr,
Gras a ddeil heb newid agwedd
     O flaen gorsedd wen yr Ior;
Gras a ddeil wrth chwilio’r llyfrau,
     Gras a ddeil gloriannau’r Nef,
Gras a roddodd im bob golud
     Trwy ei aberth gwaedlyd Ef.

Awdur: Rowland Williams, ‘Hwfa Môn’ (1823-1905).

* * *

Nabod Crist yw nabod meddyg
     Ddichon wella pob rhyw friw,
Nabod Crist yw nabod cymod,
     A’r goruchel Arglwydd Dduw;
Nabod Crist yw nabod bywyd
     Nabod Crist yw nabod hedd;
Arglwydd Iesu, rho dy nabod
     Cyn i’m orwedd yn y bedd.

Nabod Crist yw nabod trysor,
     Ie’r trysor mwya sydd,
Nabod Crist yw nabod noddfa
     Rhag y dial mawr a fydd;
Nabod Crist yw nabod cyfaill
     Ddeil fy mhen i uwch y don,
Pan yng nghyfyng ddydd marwolaeth
     ’N rhoi ffarwel i’r ddaear hon.

Llsg. AWC 2868/2, t. 13. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog.

* * *

Iesu, Iesu, rwyt ti’n ddigon,
     Digon yn y dŵr a’r tân,
Ac yr wyt yn eitha digon
     Ar y ffordd sy’n mynd ymlân.
Digon wyt yn afon angau,
     Digon yn y farn a ddaw,
Ac yr wyt yn eitha digon
     Yn y wlad sy ’rochor draw.

O gasgliad yn AWC.

* * *

Mae fy meiau’n amal, amal
’N uchel weiddi, ‘Dial, dial’;
Ond mae gwaedd yr Oen fu’n diodde
’N uwch yn gweiddi: ‘Madde, madde’.

Llsg. AWC 1793/514. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd.

* * *

Mae weithiau yma’n treio,
     Mae weithiau’n llawn môr glas;
Nid oes tu draw’r Iorddonen
     Ddim trai ar foroedd gras.

Tâp AWC 2923. Ann Evans, Cross Inn, Ceredigion. Recordiwyd: 20.vii.1973. Clywodd ei mam-gu yn dweud y byddai plant bach yn canu’r pennill hwn ‘adeg Diwygiad John Elias o Fôn’, yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhennant, Ceredigion.

* * *

Mae plant y byd yn dweud ar go’dd
Mai meddw wyf, neu mâs o nghof;
Os meddw wyf, nid rhyfedd yw,
Meddw ar win o seler Duw.

Tâp AWC 5971. Y Parchg William Morris. Recordiwyd 18.viii.1976. Cyhoeddwyd y pennill yng nghofiant D S Jones i’r Parchg William Williams o’r Wern (1781-1840). Dywedir i’r pennill gael ei ganu mewn oedfa yn ffermdy Bedd y Coediwr, ger Trawsfynydd, a Rhys Dafis, y Glun Bren, y pregethwr hynod, yn gwasanaethu. Yn yr oedfa hon y cafodd Williams o’r Wern, yn dair ar ddeg oed, dröedigaeth. Ceir fersiwn debyg i’r uchod hefyd, ynghyd â nodyn, yn Llsg. Cwrtmawr, LlGC (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) 801. Y mae odli’r geiriau ‘go’dd’ a ‘nghof’ uchod yn enghraifft deg o odl Wyddelig, odl i’r glust. Dyma’r fersiwn a geir yng nghasgliad Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion (Llsg. AWC 2868/1, tt. 23-4):

Maent yn dweud dros fryn a bro,
Fy mod yn feddw a mâs o ngho’;
Dwi’n amau dim nad medd-dod yw –
Ar felys win o seler Duw.

Ychwanegodd Mary Jones hefyd nodyn i ddweud yr arferai’r Parchg Edward Jones bregethu oddi ar garreg farch, ger tafarn y King’s Head, yn fuan wedi sefydlu’r Achos Wesleaidd yn Llandysul yn 1806. Un tro, fe’i cyhuddwyd o fod yn feddw, ac fel ateb, adroddodd yntau’r pennill hwn. Mae’r fersiwn o’r pennill a gofnodwyd gan Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog (Llsg. AWC 2868/2, t. 18) yn debyg i’r uchod, ond y llinell gyntaf ganddi hi yw: ‘Maent yn dwedyd hyd y fro’. Dyna ffurf y llinell gyntaf hefyd gan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau (t.105).

* * *

Mi welais haf a gaeaf,
     Mi welais ddydd a nos,
Mi glywais ganu a dawnsio,
     Mi welais gario’r gro’s.
Mi welais waetha Satan,
     Mi welais orau Duw,
Hosanna, Haleliwia,
     Fy Nhad sydd wrth y llyw.

Tâp AWC 3886. Sarah Ann Harries, Aberystwyth. Ganed 29.xii.1884, ym Methania, Ceredigion. Recordiwyd 15.vi.1973. Tâp AWC 5008. James Williams, Llwyn Celyn, Cefngorwydd, Brycheiniog. Ganed 14.ix.1890 yn Llanfihangel Brynpabuan. Recordiwyd: 20.vii.1976. ‘Mi welais foli a dawnsio’ yw ffurf y drydedd linell gan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau, t. 68. Fersiwn Elizabeth Reynolds, Brynhoffnant, Ceredigion, ar y drydedd a’r bedwaredd linell yw:

Mi deimlais hwyliau canu,
Mi deimlais bwysau’r gro’s ...

Yr oedd yr emyn hwn yn un o’r tri phennill y clywodd Dr Ceinwen H Thomas hwy’n cael eu canu gan ei mam. Gw. y sylwadau ar yr emyn uchod: ‘Fe welwyd Craig mewn dalfa...’ ac erthygl Ceinwen H Thomas: ‘Emyn Mam-gu’r Mynydd’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, cyf. 3, rhif 1 (1988-89), tt. 20-23. Un amrywiad amlwg yn fersiwn Dr Ceinwen H Thomas yw’r llinell olaf. Ei fersiwn hi yw: ‘Fy mod ’yd heddi’n fyw.’ Awdur yr emyn, yn ôl W Alonzo Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru [1892], t. 169, yw’r Parchg Daniel Evans, Gweinidog gyda’r Annibynwyr, a aned ym Mhen-y-graig, Ystumgwili, plwyf Abergwili, sir Gaerfyrddin. Gw. ymhellach, E Wyn James, ‘Rhagor am Emyn Mam-gu’r Mynydd’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, cyf. 3, rhif 1 (1988-89), tt. 24.30.

* * *

Galaru’r wyf mewn dyffryn du
     Wrth deithio i dŷ fy nhad,
Ar ben y bryniau’n llawenhau
     Wrth weled cyrrau’r wlad.
Rwy’n ddu fy lliw a’m gwisg yn wen,
     Rwy’n llawen ac yn brudd,
Rwy’n agos iawn ac eto mhell,
     Rwy’n waeth, rwy’n well bob dydd.

Tâp AWC 1978. Ellen Evans (1879-1972), Llithfaen, sir Gaernarfon. Recordiwyd: 24.x.1968. Cyfansoddwyd y pennill cyfoethog hwn, yn ôl Ellen Evans, gan Thomas Ellis, Carnguwch Bach, fferm fechan rhwng Llithfaen a Llanaelhaearn. Gweithiai fel melinydd ym Melin Penllechog, Llanaelhaearn.

Y mae Ioan Mai Evans, mab Ellen Evans, wedi ymhelaethu ar gefndir cyfansoddi’r pennill (tâp AWC 4638; recordiwyd: 12.vi.1975). Yn ôl ei ddamcaniaeth ef, y mae’r pennill hwn, gyda’i ddefnydd aml o bosau, yn debyg i’r penillion a gyfansoddid ac a genid gynt yn y nosweithiau llawen, ac y mae’n bosibl, medd Ioan Mai Evans, nad emyn, fel y cyfryw, ydoedd yn wreiddiol. Yn llythyrau’r Parchg Henry Hughes (1841-1924), Bryncir (a gedwir yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor), disgrifir Thomas Ellis fel ‘pencampwr y noson lawen’.

Ar dâp AWC 4638 cenir y pennill ddwywaith – unwaith gan Ellen Evans ac unwaith gan Tal Griffiths. Yn ôl Ioan Mai Evans, gall y dôn fod yn ‘dôn dawns y noson lawen’. A dyma’i gynnig ef ar ddehongli cynnwys ac ystyr pum llinell gyntaf y pennill. Ar ei ffordd adref o Felin Penllechog, y mae Thomas Ellis, y melinydd, yn ymdeimlo â thrymder ei amgylchiadau, ‘dyffryn du’ ei dlodi. Ond yn ‘llawenhau’ wrth deithio ac agoshau at ei gartref a gwlad Llŷn. Y mae hefyd yn ymdeimlo â’i bechod: ‘rwy’n ddu fy lliw’, er bod ei wisg yn wyn gan lwch y blawd. Y mae Thomas Gee, yn Emynau y Cyssegr (ail arg., 1888), yn priodoli’r pennill hwn o emyn (ar gam?) i Dafydd Jones (1711-77) o Gaeo.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.