'Hen emynau annwyl Cymru' a pharhad traddodiad

Myra Evans, Ceinewydd
Myra Evans (g. 1883), Gilfach Rede, Ceinewydd.

Yn y cyflwyniad hwn defnyddiwyd y term ‘hen emynau llafar gwlad’. Y mae’n wir fod nifer o’r emynau yn tarddu o’r ddeunawfed ganrif, ac un neu ddau o gyfnod cynharach. Yr enghreifftiau amlycaf yw’r ddau emyn Catholig nodedig a ddiogelwyd yn nheulu Myra Evans (1883-1972), Gilfach Reda, Ceinewydd. Ganddi hi y cafodd Saunders Lewis yr emynau hyn i’w cynnwys yn y casgliad o emynau Catholig, Emynau Mynyw (1936). O ran geiriau a nodweddion cerddorol yr alawon y mae’n sicr fod y ddau emyn hyn yn perthyn i gyfnod pur gynnar. Un ohonynt yw ‘Myn Mair’, gweddi i’w chanu dros enaid y corff cyn ei gladdu.

Fy hatling gyflwynaf dros enaid dan glo,
Fy nghannwyll offrymaf yn eglwys y fro;
’R Offeren weddïaf saith seithwaith yn daer,
Er cadw ei enaid anfarwol, Myn Mair ...

Carol yw’r ail emyn: ‘Ar fore dydd Nadolig’. Yn ôl y Chwaer Mary Berry o Goleg Newnham, a wnaeth astudiaeth drylwyr o ganu’r Oesoedd Canol, roedd alaw’r garol hon yn perthyn yn wreiddiol i gyfnod y flaen-gan (plain song). Y mae iddi ystod gyfyng o bum nodyn a symudiad cyson o ris i ris. (Am sylwadau pellach ar gefndir y garol, gweler E Wyn James, Carolau a’u Cefndir, Gwasg Efengylaidd Cymru, 1989, t.34.) Ym mis Medi 1970, a Myra Evans bellach mewn gwth o oedran, ac er bod y cof yn pallu ar brydiau, fy mraint i oedd ei recordio ar dâp yn canu’r ddau emyn arbennig y cyfeiriwyd atynt uchod (Tâp AWC 2988.)

‘Hen emynau ...’ Y mae angen nodi, fodd bynnag, nad cyfeirio at hynafiaeth yr emynau, fel y cyfryw, nac yn unig, a wna’r ansoddair ‘hen’ yn y cyfuniad ‘hen emynau llafar gwlad’. Yn hytrach, y mae i’r gair ‘hen’ yr ystyr amlwg o ‘annwyl’ a ‘hoff’. Emynau yw’r rhain sydd wedi cael eu hanwylo gan y genedl. ‘Emynau gwerin’ gan y werin ac ar gyfer y werin, ac am hynny, wedi’u cadw’n fyw ar gof gwlad o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yn y detholiad presennol o emynau, dosberthir hwy yn fras i ddeg adran. Teg pwysleisio, fodd bynnag, mai er hwyluso’r darllen y gwneir hyn yn bennaf. Y mae’r emynau, a dyfynnu geiriau cyfarwydd y bardd, ‘yn gymysg oll i gyd’. Y maent, o ran arddull, cynnwys a thema, yn ymddolennu’n un gadwyn gref, neu, a defnyddio delwedd arall, yn gwau i’w gilydd, yn cyfrodeddu, ac yn ymffurfio’n un cwrlid patrymog, lliwgar. Dyma’r deg adran.

  1. 'Mi welais haf a gaeaf, / Mi welais ddydd a nos ...’ Ail-adrodd a chyfosod.
  2. ‘Mi fûm wrth ddrws Uffern yn curo / Yn ceisio cael myned i mewn ...’ Darlun, delwedd a drama.
  3. ‘Beth yw’r cynnwrf garw iawn / Sy’n y goedwig?’ Y lloer a’r sêr, tir a môr.
  4. ‘Fe ganws y ceiliog, / Fe dorrws y wawr ...’ I’r frwydr gyda’r Iesu.
  5. 'Daeth anghrediniaeth ataf / Â chlamp o bastwn mawr ...’
  6. ‘O, dyro lamp ac olew gras ...’
  7. ‘Fe feddwodd Noa dduwiol, / Aeth Lot yn wael ei lun ...’ Cymeriadau’r Beibl.
  8. ‘Does arnaf ddim cwilydd proffesu / Y Gŵr a fu’n chwysu’n yr ardd ...’ Profiadau pobl Dduw.
  9. ‘Fy enaid bach a hedws / At ddrws yr eglwys wen ...’ Marw a chladdu a chodi ryw ddydd.
  10. 'Rhof fy mhen bach lawr i gysgu, / Rhof fy hun yng ngofal Iesu ...’ Diolch, gweddi a phader.

Gair o ddiolch

Diolch o galon i bawb am bob cymorth a chefnogaeth a dderbyniais yn ystod deugain mlynedd a mwy o gasglu a chofnodi emynau gwerin. Rwy’n mawr werthfawrogi’r cyfan. Eisoes cefais gyfle i gydnabod fy nyled i unigolion a’r teuluoedd hynny a fu mor garedig â’m cynorthwyo i gofnodi emynau, boed ar bapur neu dâp. Yr un modd, diolch yn ddiffuant iawn i aelodau a chyn-aelodau staff Amgueddfa Werin Cymru a chyd-aelodau Cymdeithas Emynau Cymru. Yn arbennig y tro hwn, diolch i’r Dr E Wyn James, Caerdydd, sydd bob amser mor barod i rannu o stôr ddihysbydd ei wybodaeth ef am emynyddiaeth Gymraeg.