David Griffiths, Llanfynydd a Chapel Isaac: 'ymdaflodd i fôr ysblennydd emynyddiaeth Cymru'

David Griffiths, o flaen Capel Llanfaches
David Griffiths, Llanfynydd a Chapel Isaac, o flaen Capel Llanfaches, tua 1989.
Pentref Llanfynydd
Pentref Llanfynydd.

O blith y personau y cafwyd mwynglawdd o wybodaeth am emynau llafar gwlad, rhaid enwi un yn arbennig, sef David Griffiths (1910-95), Pen-twyn, Capel Isaac, sir Gaerfyrddin. Yn enedigol o Barc Bach, Cwm-du, ger Talyllychau, bu’n ffarmio ym Mhont-ar-lyb, Llanfynydd (1926-66), cyn symud i Ben-twyn, Capel Isaac. Bu’n aelod ffyddlon, diacon ac Ysgrifennydd am nifer o flynyddoedd yn Amor, Eglwys y Bedyddwyr, Llanfynydd. Ar wahân i wasanaethu’i gyd-ddyn, emynau oedd diddordeb mawr ei fywyd. Meddai ei weinidog, y Parchg John T Young, amdano yng Nghapel Ebeneser, Llandeilo, wrth ei gyflwyno pan ddyrchafwyd ef yn Llywydd Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion, Mai 1978: ‘Ymdaflodd i fôr ysblennydd emynyddiaeth Cymru.’ (Llythyr Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion, 28-31 Mai 1978, t. 7. Gweler hefyd ysgrif goffa’r Parchg John T Young: ‘David Griffiths, Pont-ar-lyb’, Seren Cymru, 23 Chwefror 1996, tt. 1. 4.) Traddodiad cyfoethog emynyddiaeth Cymru oedd pwnc anerchiad David Griffiths yntau yn y Gymanfa yn Llandeilo, a chyda dwyster a balchder mawr y cyfeiriodd, er enghraifft, at Bantycelyn, brenin emynwyr Cymru, ac at fawredd a rhyfeddod y wraig fferm ifanc o Ddolwar Fach. Dyfynnodd hefyd englyn rhagorol Collwyn iddi:

O’i dawn a’i thanbaid ynni - fe rannodd
Fêr ei henaid inni;
Erys dros fyth heb oeri
Farworyn ei hemyn hi.

(Llythyr Cymanfa ..., tt. 8-21)

Yn ogystal â chael gweld a chopïo casgliad helaeth o emynau wedi’u cofnodi’n ddestlus gan David Griffiths yn ei lawysgrifen ei hun, cafwyd hefyd yr hyfrydwch o dreulio oriau yn ei gwmni a’i recordio yntau ar dâp yn adrodd ar ei gof emynau rif y gwlith. Cyfeiriwyd at nifer o’r emynau hyn yn adrannau 6-10 y cyflwyniad hwn o ‘Hen Emynau Llafar Gwlad’ (‘Aur Dan y Rhedyn’, Casgliad y Werin). Am yr emynau a drafodwyd yn adrannau 1-5 fe ellid yn rhwydd fod wedi cyfeirio at lu mawr o fersiynau tebyg a gofnodwyd gan David Griffiths yntau. Dyma rai enghreifftiau. Ar dâp AWC 7520: ‘Fe ddwedodd anghrediniaeth, / Do, wrthyf lawer gwaith ...’; Tâp 7521: ‘O, na welwn oedfa un, / Heb y diafol...’; ‘Fe welwyd Craig mewn dalfa ...’; ‘Dwy fflam ar ben Calfaria ...’; Tâp 7522: ‘Daeth anghrediniaeth ataf ...’; ‘Mi welais haf a gaeaf ....’; ‘Galaru rwyf mewn dyffryn du...’; Tâp 7524: ‘Cawd, cawd / Bendithion fyrdd o’r cafan blawd ...’; ‘Cofio rwyf yr awr ryfeddol ...’.