'Pwy welaf fel f'Anwylyd ...'; Emynau gwerin a chasgliadau o emynau at wasanaeth y cysegr

Y Tadau Ymneillduol
Y Tadau Ymneillduol o ddarlun gyferbyn â blaenddalen Gwreichion y Diwygiadau.

Y mae ar gael, afraid dweud, gasgliadau helaeth o emynau wedi’u cyhoeddi yn ystod y can mlynedd ddiwethaf at wasanaeth addolwyr y gwahanol enwadau crefyddol yng Nghymru, ac yn y flwyddyn 2001, wrth gwrs, cyhoeddwyd Caneuon Ffydd gan Bwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. Y mae hefyd nifer o emynau poblogaidd y gellir yn rhwydd eu disgrifio fel emynau gwerin, neu emynau llafar gwlad, wedi’u cynnwys yn ein casgliadau enwadol. Er enghraifft, ffrwyth awen ysbrydoledig emynwyr enwog, megis William Williams (1717-91), Pantycelyn; Dafydd William (?1721-94), Llandeilo Fach (Llandeilo Tal-y-bont); a Thomas William (1761-1844), Bethesda’r Fro, Sain Tathan, awdur y pennill cyfarwydd: ‘Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob ...’

Yr un modd ceir yn y casgliadau hyn rai emynau gwerin gan feirdd llai adnabyddus. Un enghraifft yw John Thomas, ‘Eos Gwynedd’ (1742-1818), Pentrefoelas, sir Ddinbych: siopwr, waliwr, clochydd, clerc cyntaf Cyngor Plwyf Pentrefoelas, ac awdur yr englyn rhagorol sydd ar garreg fedd Twm o’r Nant ym Mynwent yr Eglwys Wen, Dinbych:

Er cymaint oedd braint a bri - ei anian
Am enwog farddoni,
Mae’r awen a’i hacen hi
Man tawel yma’n tewi.

Da gweld bod pennill cyntaf emyn John Thomas: ‘Mae Efe Oll yn Hawddgar’ (y pennill cyntaf o dri a’r gorau o ddigon), wedi’i gynnwys yn Caneuon Ffydd, rhif 334.

Pwy welaf fel f’Anwylyd,
    Yn hyfryd ac yn hardd,
Fel ffrwythlon bren afalau’n
    Rhagori ar brennau’r ardd?
Ces eistedd dan ei gysgod
    Ar lawer cawod flin,
A’i ffrwyth oedd fil o weithiau
    I’m genau’n well na gwin.

(Cyhoeddwyd y tri phennill yn Eos Gwynedd: sef Casgliad o Ganiadau ar Destynau Crefyddol, Moesol a Difyrol, gan y Diweddar Mr John Thomas, Pentre’foelas, dan olygiaeth G Caledfryn, Llanrwst, 1845.)

Cyhoeddwyd hefyd yn y casgliadau enwadol rai emynau poblogaidd ar lafar y mae cryn ansicrwydd ynglŷn â’u hawduraeth. Un enghraifft nodweddiadol yw’r pennill hoff hwn a briodolir i Richard Davies (1793-1826), brodor o Dywyn, Meirionnydd:

Dyma Feibl annwyl Iesu,
    Dyma rodd deheulaw Duw;
Dengys hwn y ffordd i farw,
    Dengys hwn y ffordd i fyw;
Dengys hwn y golled erchyll
    Gafwyd draw yn Eden drist,
Dengys hwn y ffordd i’r bywyd
    Drwy adnabod Iesu Grist.

(Casgliad Thomas Owen, Llanfyllin, 1820; Caneuon Ffydd, rhif 198.)