Y Cardi a'r Dom Ceffyl

Gan: W. R. Evans, Abergwaun, sir Benfro

W. R. Evans wrth ddrws Glynsaithmaen
W. R. Evans wrth ddrws Glynsaithmaen, ei gartref.

A beth ydi’r stori ’ma sy gynnoch chi am y Cardi?
Ie, wel, ma’r storïe sy’n câl ’u gweud yn erbyn y Cardi, rif y gwlith, on ’dyn nhw? Er falle nad yw hon yn stori drawing room, dwi’n cyfri mai dyma’r ore o dynnu côs, dyma’r ore wy ’di glwed yn erbyn y Cardi. Stori yw (h)i am ryw foi bach yng Ngogledd sir Benfro, odd â dim llawer o waith yn ’i grôn e. A tra bod e mor ddioglyd, yn y diwedd, odd e ’di myn(d) ag odd dag e ’im llawer o ddim byd i fwyta, na dim byd. A fe benderfynodd bod e mynd o gwmpas y ffermydd. A peth odd e neud odd codi tail ceffyl, ne dom ceffyl, o’r ffordd, cydio fe yn ’i ddwrn, a cnoco yn drws ffarm, a hwn yn ’i law.
‘Esgusodwch fi, a fyddech chi folon rhoi tame bach o halen i fi roi ar hwn?’ A’r ateb wrth gwrs:
‘Duwch! pidwch â byta’r hen beth ’na’, medde’r fenyw, ‘dewch miwn i chi gal pryd o fwyd gyda ni.’ Mlân i’r ffarm nesa wedyn, a’r un peth.
‘Sgusodwch fi, a fydde gwanieth ’da chi roi darn bach o halen i fi roi ar hwn?’
‘Dêr annwl! twlwch hwnna off, pidwch â byta’r hen beth ’na, dewch miwn i chi gal pryd o fwyd gyda ni.’

Wel, naw(r), mae’n debyg bod e ’di myn(d) o ffarm i ffarm yng Ngogledd sir Benfro, a odd e ’im yn lico’r syniad o fyn(d) nôl yr ail waith, ac ar ôl ’ddo neud y ffermydd i gyd, fe benderfynodd groesi’r bont i sir Aberteifi, chi’n gwel. A dyma fe’n neud ’r un peth fan ’ny. Mynd â hwn yn ’i ddwrn, a cnoco yn drws tŷ.
‘O, esgusodwch fi’, medde fe, ‘a fyddech chi’n folon rhoi darn bach o halen i fi roi ar hwn?’
‘Jiw jiw’, medde’r fenyw, ‘pidwch â byta’r hen beth ’na’n ôr fel ’na. Cerwch lawr i’r stabal, ma peth twym i gal fan ’ny!’

Tâp: AWC 2589. Recordiwyd: 5.xi.1969, gan Robin Gwyndaf.

Storïwr: W R Evans (1910-1991), 3 Heol Trefin, Pen yr Aber, Abergwaun, sir Benfro. Ganed yng Nglyn Saith Maen, Mynachlog-ddu, sir Benfro. Bu’n athro ysgol, yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Y Barri, ac yn Drefnydd Iaith ac yn Arolygwr Ysgolion yn sir Benfro. Bu am flynyddoedd yn arweinydd parti o gantorion, ‘Bois y Frenni’, a oedd yn arbenigo mewn adloniant ysgafn a pherfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth, ac yr oedd yn adnabyddus am ei ddawn ddigrif ar lafar ac mewn print. Am hanes ei fywyd, gw. ei hunangofiant Fi yw Hwn (Gomer, 1980).

Yn gefndir i’r stori dywed W R Evans: ‘Dwi ’di clwed hon, ’swn i’n dweud, yn y pum mlynedd dwetha ’ma yng ngogledd y sir ’ma (sir Benfro) rwle. A wir, alla i ’im dweud sut glywes i ddi. Falle gyda nifer o storïe erill yn erbyn y Cardi, ontife.’