Y Dyn ar y Trên yn Cadw Amser â'i Ben

Gan: W. R. Evans, Abergwaun, sir Benfro

W. R. Evans ger y gofeb i Waldo
W. R. Evans ger y gofeb i Waldo.

Wel, mi adewn ni’r stori celwydd gole ’na rwan, ia. Os na, mi soniwn ni am stori sydd yn weddol agos i gelwydd gole. Y dyn hwnnw yn y trên, yndê.
On i’n mynd ar trên ryw ddiwrnod, ŷch chi’n gwel(d). A odd ’na foi yn iste ar y sedd gyferbyn â fi. Ac odd e’n symud ’i ben nôl a mlân fel hyn, trw’r amser, ŷch chi’n gwel(d). A on i methu diall. On i’n poeni damed bach am y boi ’ma, a meddwl, ‘Wel beth sy’n bod arno’, yntife. A on i ddim yn lico dweud dim byd wrtho. A odd e’n cadw i symud ’i ben nôl a mlân fel hyn, ac yn y diwedd feddylies i, rhag ofon bod e’n sâl ne rwbeth, ’ma fi’n gweud:
‘Sgusodwch fi’, medden i, ‘gwedwch wrtho i, pam ŷch chi’n ysgwyd ych pen nôl a mlân fela?’
‘O’, medde fe, ‘cloc ydw i’, medde fe.
‘Beth?’ meddwn i, ‘cloc ŷch chi?’
‘Ie’, medde fe, ‘cloc ydw i.’
‘Odych chi’n cadw’r amser?’
‘Odw’, medde fe ‘odw, wi’n cadw’r amser.’
‘O, o, diddorol iawn’, meddwn i. ‘Gwedwch wrtho i nawrte, beth o’r gloch yw hi ’da chi nawr?’
‘Deng munud i bedwar’, medde fe.
‘Wel, diawch, ŷch chi’n wrong, mae’n bedwar.’
‘O diawch, wi ’di slowo’, medde fe, a ma’n symud ’i ben ar garlam wyllt, chi’n gweld!

Tâp: AWC 2589. Recordiwyd: 5.xi.1969, gan Robin Gwyndaf.

Storïwr: W R Evans (1910-1991), 3 Heol Trefin, Pen yr Aber, Abergwaun, sir Benfro. Ganed yng Nglyn Saith Maen, Mynachlog-ddu, sir Benfro. Bu’n athro ysgol, yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Y Barri, ac yn Drefnydd Iaith ac yn Arolygwr Ysgolion yn sir Benfro. Bu am flynyddoedd yn arweinydd parti o gantorion, ‘Bois y Frenni’, a oedd yn arbenigo mewn adloniant ysgafn a pherfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth ac yr oedd yn adnabyddus am ei ddawn ddigrif ar lafar ac mewn print.

Clywodd W R Evans y stori hon a ‘phentwr’ o rai tebyg iddi, rywdro ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Cyfeiriodd atynt fel ‘storïe rhyfedd iawn ... hollol ddisynnwyr’. Nid yw’n cofio gan bwy y clywodd y stori arbennig hon nac ymhle, ond y mae’n ei hadrodd fel petai’n wir a bod W R Evans ei hun wedi cyfarfod â’r gŵr od ar y trên. Dyma’r cyflwyniad i’r stori: ‘Ie, a rhaid i fi ddweud, ma’r storïe ’ma’n apelio ata i, chi’n gwbod, storïe tal, beth bynnag, be mynnwch chi galw nhw. Ma shwt ddychymyg tu ôl nhw. Man nhw yn apelio ata i. Y pethe ’ma sy bron yn ddwl, yn wirion, yndife. (Gweler hefyd stori’r ‘Dyn a Sgrifennodd Lythyr Ato’i Hunan’.)