Y Boi Bach o’r Tymbl o Flaen y Medical Board

Gan: W. R. Evans, Abergwaun, sir Benfro

W. R. Evans wrth ddrws Glynsaithmaen
W. R. Evans wrth ddrws Glynsaithmaen, ei gartref.

‘Na chi. Beth am y stori ’ma am y glöwr o Tymbl, ia?
Ie. O, ie. Stori am löwr yn ystod y Rhyfel yw hon. Chi’n cofio dyddie odd y bechgyn gorffod mynd o flân y medical board. Wel, nawr, odd y boi bach ’ma o Tymbl wedi ’i alw lawr o flân y board ’ma, yn Llanelli, ŷch chi’n gweld. A dweud y gwir, odd e ’im isie mynd i’r Rhyfel o gwbwl, a fydde itha balch ta fe’n ffaelu’r test ’ma, yndife. A mi âth lawr i Lanelli. A chi’n cofio fel on nhw amser Rhyfel, falle nad ŷch chi, ond beth bynnag, odd ’na rester o ddoctoried yn y lle ’ma, chi’n gweld. A och chi’n symud o un meddyg i’r llall. A dyma fe’n mynd at y meddyg cynta, a medde hwnnw:
‘Paswch mlân, A1’, medde fe. A mlân at yr ail ddoctor. Hwnnw’n drio fe ’r un peth. ‘O, popeth yn iawn, mlân â chi, A1.’ Ac A1, A1 odd hi o un i’r llall, ŷch chi’n gweld, nes bod e’n dod at y doctor pwysig odd yn ymyl y drws, ar y diwedd, yntife. A hwnnw odd yn pwyso’r holl ffeithie ’ma lan, ŷch chi’n gweld. Ac yn penderfynu p’un a och chi ddigon da i fynd i’r fyddin. A pan ddêth e at hwnnw:
‘Wel, dwi’n gweld bo chi’n A1’, medde’r Doctor. ‘Ôs rhwbeth ’da chi ishe weud ’tho i am ych iechyd?’
‘Wel, ôs Doctor’, medde’r boi bach, ‘ma rhwbeth ’da fi licen i weud ’thoch chi.’
‘O, be sy’n bod?’
‘Ma rhwbeth yn od yn ’yn llyged i.’
‘O, odych chi’n short-sighted?’
‘Na, Doctor, alla i ’im gweud bo fi’n short-sighted’, medde fe, ‘ond mae’n od iawn, ŷch chi’n gweld. ’Na be sy’n od yndi, ambell i ddwyrnod wi’n gweld pethe mowr yn edrych yn fach, fach, ŷch chi’n gweld. A wedyn falle, dwyrnod ar ôl ’ny, fydda i’n gweld pethe bach yn edrych yn fowr, fowr. Mae e’n od iawn. Sa i’n diall y peth o gwbwl, Doctor.’
‘O, roswch ’ma. Dewch ’ma i fi gâl edrych arnoch chi.’ A ’ma fe’n edrych arno’n ofalus iawn. ‘A nawr roia i dest i chi’, medde’r Doctor. A ’ma fe’n dala pishyn tair, yr hen bishyn tair, o’i flân e. ‘Beth yw hwn?’
‘O, hwnna, Doctor’, medde’r boi. ‘O weda i ’thoch chi beth yw hwnna, tray fawr yw hwnna’, medde fe, ‘a llun y Brenin arni.’
‘Fachgen, fachgen!’
‘Ie, ie, tray yw hwnna.’
‘Fachan’, medde fe. A wedyn, pan odd e’n dangos iddo wedyn lun mowr ar y wal, o’r Brenin, wedi’i fframo, chi weld. Llun mowr odd hwn.
‘A beth yw hwnna?’ medde wrtho.
‘Hwnna, Doctor’, medde fe ‘hwnna manna? O, stamp tair cinog yw hwnna’, medde fe.
‘O, fachgen, fachgen!’ medde’r Doctor, ‘ŷch chi’n anobeithiol. Cerwch gatre, neith y fyddin ddim byd â chi, a llyged felna. Cerwch gatre.’

A’r boi bach mâs trw’r drws, ac yn meddwl nawr bod hi dam bach yn gynnar i fyn(d) nôl i Tymbl, ŷch chi’n gweld, gan bod e ’di câl dywrnod yn rhydd o’r gwaith, yntife. A fe benderfynodd myn(d) miwn i’r sinema newydd fowr ’ma yn Llanelli, yr Odeon. Sinema fowr iawn. Âth miwn manny, a isteddodd lawr yn hapus. A odd rhyw lun digon comic mlân ar y pryd. A odd y boi bach wrth ’i fodd yn mwynhau ’i chalon hi, chi’n gwbod. Ac yn wherthin dros y lle i gyd. A pan ddâth y gole mlân hanner amser, ’na pwy odd yn ishte nesa ato, ond y doctor ’ma ar bwys y drws, chi’n gwbod, odd e wedi sôn am y llyged wrtho. A medde hwnnw:
‘Ho’, medde fe, ‘’na’ch dala chi, yndife. ‘’Na’ch dala chi.’
‘Pam, be sy’n bod, Doctor, be chi’n feddwl? Be sy’n bod?’
‘Wedoch chi bo chi’n cal trafferth ’da’ch llyged.’
‘Do, Doctor, a gweud y gwir ’thoch chi, dwi’n cal trafferth ofnadw ’da’n llyged. Ma nhw’n achosi trwbwl ofnadw i fi. A gwedwch wrtha i nawr, ’tê’, medde fe, ‘nid hwn yw’r bus sy’n mynd i Tymbl?’ Ie. A’r bus, wrth gwrs, odd y sinema, chi gweld! Odd e’n ishte yn y sinema, fanna, a dyma ffordd dâth y boi bach mâs ohoni, a gweud, ‘Chi’n credu, nid hwn yw’r bus sy mynd i Tymbl?’

Tâp: AWC 2589. Recordiwyd: 5.xi.1969, gan Robin Gwyndaf.

Storïwr: W R Evans (1910-1991), 3 Heol Trefin, Pen yr Aber, Abergwaun, sir Benfro. Ganed yng Nglyn Saith Maen, Mynachlog-ddu, sir Benfro. Bu’n athro ysgol, yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Y Barri, ac yn Drefnydd Iaith ac yn Arolygwr Ysgolion yn sir Benfro. Bu am flynyddoedd yn arweinydd parti o gantorion, ‘Bois y Frenni’, a oedd yn arbenigo mewn adloniant ysgafn a pherfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth, ac yr oedd yn adnabyddus am ei ddawn ddigrif ar lafar ac mewn print. Am hanes ei fywyd, gw. ei hunangofiant Fi yw Hwn (Gomer, 1980).

Clywodd y W R Evans y stori hon rywbryd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond nid oedd yn siŵr p’un ai yn sir Benfro neu yn sir Gaerfyrddin. Un o’r Tymbl oedd ei briod, ac ychwanegodd: ‘a falle dyna pam ma Tymbl wedi cal ’i roi yn y stori ’ma. Dwi ddim yn siŵr.’