Yr Holl Ddŵr Sydd ei Angen i Ddiffodd Tân Uffern

Gan: W. R. Evans, Abergwaun, sir Benfro

W. R. Evans wrth ddrws Glynsaithmaen
W. R. Evans wrth ddrws Glynsaithmaen, ei gartref.

Wel, beth am stori’r uffern yna?
O ie, stori am bregethwr yw hon, un o’r hen hoelion wyth, un o’r bobol odd yn mynd i hwyl, ŷch chi’n gwel. A mae’n debyg ma’r syniad fan hyn odd trio argraffu ar y gynulleidfa mor ofnadw o fowr odd tân uffern. Dyma’r amcan. A dyma fe’n dechre arni ac yn dweud: ‘Wyddoch chi, gyfeillion’, medde fe, ‘ta chi’n casglu’r dŵr sy’n y nentydd bach ’ma sy’n rhedeg lawr dros Y Preseli, a thros Y Berwyn, a thros Eryri, a thros Fanne Brycheiniog’, medde fe, ‘a roi e i gyd gyda’i gilydd. ... A ta chi’n ychwanegu at hwnnw wedyn, y dŵr sy’n yr afonydd ’na, afon Taf ac afon Cledde, ac afon Rheidol, ac afon Hafren, a’r Tafwys’, medde fe. ‘A hyd yn ôd ymhellach dros y byd, ac yn ychwanegu at rheini, y dŵr sy’n Y Mississippi, a’r Amazon, a roi e i gyd at ’i gilydd, fy mrodyr i, ac wedyn ar ben hwnnw, ŷch chi’n casglu’r dŵr sy’n y morodd mawr ’ma i gyd, o’r Iwerydd a’r Pasiffic Oshan, a morodd erill mowr ’ma i gyd gyda’i gilydd, a chi’n rhoi’r holl ddŵr ’ma, gyfeillion, mewn padell fawr gyda’i gilydd, a chi’n ’i daflu e dros dân uffern, fy mrodyr i. Wyddoch chi’, medde fe, ‘wyddoch chi, bydde fe ddim amgenach na ‘t t’ [poerad] ar harn smwddo.’

Ia. Wyddwn i ddim bod defnydd pregethwr ynoch chi!
Ie, wel, pregethwr wedi mynd ar goll, siŵr o fod, ie! Y ffor rong!
Pwy fydda’n adrodd y stori ’na wrthoch chi?
Wi ’di clwed hon yn gymharol ddiweddar. Dwi’n ofni mai stori wedi mynd o geg i geg yw hon. A wi meddwl mai un o’r ffrindie yn y swyddfa yn Hwlffordd wedodd hon wrtho i.
Oedd hi’n ddiweddar?
Yn ystod y ddwy, dair blynedd ddwetha ’ma, ia.
Pwy oedd y pregethwr?
O, sgen i ’im syniad. Nagos. Nagos, dim syniad am hwn. Falle bod y sawl odd yn ’i gweud (h)i’n wreiddiol yn –
’Dech chi’n ei hadrodd hi’n union fel ’dach chi ’di chlwed hi, ynte ydi hi’n anodd cofio stori fel yna, ac ydach chi’n gweu ryw gymaint?
O, odi. Ma enwe’r nentydd, a’r afonydd ac yn y blân, yn newid, yndife. Cofio’r syniad nes i, a’r syniad eithafol ’ma, chi’n gwbod. Dwi meddwl bod e’n bictwr ardderchog, bydde yn anodd iawn cal ffor mwy effeithiol o roi’r neges ’na, dwi meddwl, yn enwedig y boerad ’na ar y diwedd, yndife.
Ie.
Ie. Ddim amgenach na ‘t t’ [poerad] ar harn smwddo.
Ie.

Tâp: AWC 2589. Recordiwyd: 5.xi.1969, gan Robin Gwyndaf.

Storïwr: W R Evans (1910-1991), 3 Heol Trefin, Pen yr Aber, Abergwaun, sir Benfro. Ganed yng Nglyn Saith Maen, Mynachlog-ddu, sir Benfro. Bu’n athro ysgol, yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Y Barri, ac yn Drefnydd Iaith ac yn Arolygwr Ysgolion yn sir Benfro. Bu am flynyddoedd yn arweinydd parti o gantorion, ‘Bois y Frenni’, a oedd yn arbenigo mewn adloniant ysgafn a pherfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth, ac yr oedd yn adnabyddus am ei ddawn ddigrif ar lafar ac mewn print. Am hanes ei fywyd, gw. ei hunangofiant Fi yw Hwn (Gomer, 1980).