Stori Wil Canaan: Saethu Hen Asyn â Chnau

Gan: W. R. Evans, Abergwaun, sir Benfro

Stori Wil Canaan
Stori Wil Canaan o ddarlun gan Margaret D, Jones.
W. R. Evans wrth ddrws Glynsaithmaen
W. R. Evans wrth ddrws Glynsaithmaen, ei gartref.

lsquo;Chi'n gwel bois’, medde fe, ‘rhyw ddiwrnod, wedd (h)i hen ddwrnod dipyn yn ddiflas ar y ffarm gatre co, rhyw ddwrnod rhwystr, fel ŷn ni’n ’i alw fe. A fe gododd yn fy mhen i fyn(d) mas am rhyw brynhawn bach o hela. A dyma fi’n cydio yn fy nryll, a ŷch chi’n gwbo(d), bois, ma cartridge wedi myn(d) mor ofnadw o ddrud, ês i ddim i boeni â cartridge. A beth nes i odd llenwi moced o gnau, neu cnou, fel ŷn ni’n galw nhw ffor (h)yn, yndife. A feddylies fydde’n beth da i saethu â’r cnou ’ma. A mâs â fi, heb feddwl lawer o ddim byd. A weles hen asyn yn sefyll ynghanol y parc, chi’n gwel(d). A fe gododd yn fy mhen i nawr, fydde’n beth itha da i anelu at hwn, a dyma fi’n saethu’r hen asyn yn ’i gefen. A ’na gyd fuo. Chofies i ddim byd am byti ’ny, a ês i gatre.

A wedyn ês i mâs ryw fis ar ôl ’ny, a chi’n gwbo(d), bois, ’na ’r peth rhyfedda eriôd. Pan weles i’r hen asyn, ŷch chi'n gwbod, we coeden gnou fowr, wedi tyfu lan o’i gefen e! A cnou ar y goeden ’ma. A ’ma fi’n dechre meddwl wrth fy hunan, a gweud: ‘Wel, s(d)im llawer o ddim byd pwysig ’mlân gatre co heddi, dwi meddwl â i mâs am brynhawn o gneua.’ A ’ma fi lan i gefen yr hen asyn ’ma, a lan dros y goeden ’ma. A odd cnou, on nhw’n bingo ar y goeden ’ma, chi’n gwbo(d). On nhw’n bingo. Cwlwm pedwar, cwlwm pump, cwlwm wech. A ’na le wen i nawr yn llenwi mocedi â'r hen gnou ’ma, nes bo llon(d) pocedi ’da fi, a mwy na ’ny. A lan, lan wen i mynd, ŷch chi gwel(d), dros y goeden, yn uwch uwch o hyd. A fe gyraeddes i lan i’r cwmwle, rwle. A ’na sy’n od, chi’n gwel(d), bois, chi’n gwbod beth weles i fan ’ny, rhyw hen fenyw fach yn nithio llafur o bopeth. A hen fenyw fach neis odd (h)i. Fenyw fach serchog ryfedda. A wedodd:
‘Shwd ŷch chi heddi?’
‘O, da iawn diolch’, meddwn i. ‘Shwd ŷch chi?’
A ’ma ni’n dechre siarad, chi’n gwbod. A fues i’n aros fanny gyda (h)i, siarad a(m) byti’r byd a’i bethe, siarad am bopeth bron. A gês i ddished o de gyda (h)i, a phopeth. A wir, wen i wedi mwynhau’n hunan yn rhyfedd gyda’r fenyw ’ma. On(d) diaich! Fe ddechreues feddwl: ‘Mae’n bryd i fi fyn(d) gatre. A chi’n gwbo(d), bois, folon marw, pan dryches i lawr, we’r asyn wedi symud, cofiwch!

Wel, beth wen i myn(d) i neud nawr? Lan yr holl uchder ’ma yn yr awyr. A wedo’r hen fenyw fach wrtho i, ware teg iddi: ‘Pidwch chi becso dim byd nawr. Fe weitha i reffyn pen bys i chi nawr. A fe adewa i chi lawr wrth y rheffyn ’ma, gan bwyll bach. Fyddwch chi’n iawn. S(d)im isie chi fecso dim byd.’ A felny fuodd (h)i, chwel, bois. A ’ma fi’n cydio ymhen y reffyn ’ma, a gadel fy hunan lawr, gan bwyll bach. Lawr, lawr, lawr, trw’r amser. Popeth yn mynd yn ardderchog, On(d) chi gwbo(d), bois, yn sydan reit, cratsh medde raff. Fe dorrodd! A fe gwmpes, bois, a fe gwmpes yn y ffor mwya lletwith allech chi feddwl amdani. A gweud y gwir, fe gwmpes a ’mhen yn sown rhwng dwy garreg. A beth wen i myn i neud nawr, ’tê. A ’na le fues i’n crafu ’mhen, bois. Crafu mhen am amser. A fe benderfynes, ta beth, mai’r peth gore i neud we mynd gatre i hôl caib i gal tynnu ’mhen yn rhydd. A chi’n gwbod, bois, folon marw, ’tê, p’un a credwch e neu bido, pan des i nôl, we’r brain wedi tynnu’n llyged i mas.’

Tâp: AWC 2589. Recordiwyd: 5.xi.1969, gan Robin Gwyndaf.

Storïwr: W R Evans (1910-1991), 3 Heol Trefin, Pen yr Aber, Abergwaun, sir Benfro. Ganed yng Nglyn Saith Maen, Mynachlog-ddu, sir Benfro. Bu’n athro ysgol, yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Y Barri, ac yn Drefnydd Iaith ac yn Arolygwr Ysgolion yn sir Benfro. Bu am flynyddoedd yn arweinydd parti o gantorion, ‘Bois y Frenni’, a oedd yn arbenigo mewn adloniant ysgafn a pherfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth, ac yr oedd yn adnabyddus am ei ddawn ddigrif ar lafar ac mewn print. Am hanes ei fywyd, gw. ei hunangofiant Fi yw Hwn (Gomer, 1980).

Ceir fersiwn arall o’r stori hon, sy’n debyg iawn, gan W R Evans ar dâp AWC 1456. Ar y recordiad hwnnw (19.i.1967) rhydd sylwadau am gefndir adrodd y stori:

Wel, dudwch i mi rŵan, gan bwy glywsoch chi honne?
O, glywes i hon yn fy nghartre [Glyn Saith Maen, Mynachlog-ddu], yn yr ardal. Odd (h)i’n un o’r storïe o’r ardal – storïe Wil Canaan.
Adre ar yr aelwyd glywsoch chi hon?
O ie, ie. A’i chlywed (h)i fwy nag unwaith, yndife, yn ystod –
Ai’ch tad odd yn adrodd stori fel hyn?
Fy nhad ac ewythredd i fi, o gwmpas y lle, a’r cwmdogion, chi’n gwel. On nhw wrth y gwair, ac yn y blân. Fydde un o storïe Wil Canaan siŵr o ddod lan.
‘Se rhywun yn gofyn i chi pryd glywsoch chi’r stori gynta, sech chi’n dweud pan oeddach chi tua –
O, mi alle fod yn rwle, wedwn i, o ryw saith i ddeg mlwydd o(e)d, rwbeth felna. Y peth fydde’n digwydd fynycha, dwedwch ar ddwyrnod cynaea gwair, ne rwbeth, yntife, odd ’na gwmni, a fyddech chi’n ishte lawr i gal te yn y parc, chi’n gwel. Dyma’r math o beth fydde’n cal ’i adrodd ar adeg felny. Ie. Ne fyse rwbeth yn atgoffa rywun: ‘Jiw ŷch chi’n neud i fi gofio am Wil Canaan, ers lawer dydd’.

Sylw W R Evans wedi gorffen adrodd y stori ar dâp 2589 yw: ‘a dwi’n cofio honna bron yn fwy na un stori ariôd, chi’n (g)wbod. Mae wedi apelio ata i’. Dywedodd hefyd iddo ei dysgu yn ifanc iawn: ‘a ma’r pethe ’ma’n glynu fwy falle’r oedran ’na, nag unryw amser arall’. Yr oedd, meddai, yn ‘siŵr bod un yn ychwanegu tipyn ati, bob hyn a hyn ... yn ei ddychymyg ’i hunan, yntife. A’r peth yn tyfu felny’. ‘Stori dal’ oedd ei enw ar y math hyn o storïau.

Er i’r stori gael ei hadrodd gan W R Evans yn nhafodiaith sir Benfro, weithiau defnyddir ffurfiau llenyddol a thafodieithol yn gymysg ganddo. Er enghraifft: wedd/odd, cnou/cnau, tyddu/tyfu.

Nid oedd gan W R Evans wybodaeth fywgraffyddol bellach am Wil Canaan. Yn ôl T H Evans, Llandudoch, fodd bynnag (tâp AWC 2590), William Thomas (mae’n fwy na thebyg) oedd ei enw cofrestrol, a Pegi oedd enw’i wraig. Roeddynt yn byw mewn bwthyn to gwellt ym mhlwyf Llan-y-cefn, Cwm Rhydwilym. Clocsiwr ydoedd wrth ei grefft, ond yr oedd hefyd yn dorrwr beddau ac yn cynorthwyo ar ffermydd yr ardal yn ystod y cynhaeaf.