Y Ni a Nhw: Rhigymau Enwadol

[delwedd: Serah Trenholme (1887–1980) yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf]

Serah Trenholme (1887–1980) yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf, Mawrth 1976.

Thema ganolog yn niwylliant gwerin unrhyw wlad yw’r tynnu coes a’r herian rhwng gwahanol garfannau o gymdeithas â’i gilydd. Yng Nghymru, adlewyrchir hyn yn amlwg iawn yn y rhigymau, storïau a sylwadau a adroddir am y gwahanol enwadau crefyddol. Roedd hynny’n arbennig o wir yn ail ran y bedwaredd ganrif ar bymtheg a rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif pan oedd mwy o fri ar enwadaeth nag sydd heddiw.

Yn dilyn, ceir detholiad o rigymau a phenillion am y gwahanol enwadau crefyddol o’r casgliad o dapiau a llawysgrifau sydd ar gadw yn Amgueddfa Werin Cymru. Pan nodir enw ardal neu sir, nid yw hynny o angenrheidrwydd yn golygu bod y rhigwm neu’r pennill wedi’i gyfyngu i’r ardal neu’r sir honno.

Yr Annibynwyr

Annibynwyr, annibendod,
Mynd i’r capel heb ddweud adnod!
(Cyffredinol)

Sentars bach y paraffin,
Mynd i uffern bob yr un!
(Ceredigion)

Sentars, sentars, sgidiau tylla,
Golchi traed wrth fynd drwy’r pylla!
(Rhuthun)

Sentars, y Sistied,
Yn sentio Satan
I dîn y shetin (gwrych)!
(Llanwddyn)

Sentars sychion, be na bw,
Neb yn gwybod ond y nhw,
Ffraeo â’i gilydd ac â phawb,
Byd o’i go rhwng brawd a brawd.
(De Ceredigion)

A dyma’r rhigwm am Gapel Soar, yr Annibynwyr, Nefyn:

Capel Soar yn sorri,
Merchaid bach yn pori!

Gan Serah Trenholme, Nefyn, y cafwyd y rhigwm uchod. Amheuthun iawn yw cael penillion am bob un o’r prif enwadau anghydffurfiol mewn un pentref. Ond dyna a gafwyd gan Serah Trenholme (tâp AWC 3915), ac fe’u cynhwysir yn y detholiad hwn, gan gynnwys y pennill cyfarwydd ‘Methodistiaid creulon cas ...’ am gynulleidfa’r Capel Isa yn Stryd y Ffynnon.

Y Bedyddwyr

Babtus y dŵr
Yn meddwl yn siwr,
Does neb yn y nefoedd
Ond Babtus y dŵr!

Bedyddwyr, penne twp,
Yn mynd i uffern bob yn drwp!
(Ffair-rhos, Ceredigion)

Beth ddeuai o’r Bedyddwyr
    Pe peidiai’r dŵr yn lân,
A hithau’n methu glawio
     Am dair blynedd fel o’r blân?
          O, am grefydd
Na bo’r sylfaen yn y dŵr.

Dyma’r rhigwm am blant ac aelodau Capel Y Fron, Nefyn:

Capal Batus, gwirion gam,
Yn ordro fi i guro mam;
A minna’n hogyn bach mor ffôl
Yn curo mam efo troed stôl.

Y Methodistiaid Calfinaidd

Methodistiaid creulon cas
Mynd i’r capel heb ddim gras,
Gosod seti i bobol fawr –
Gadael tlodion ar y llawr!

Dyma’r fersiwn adnabyddus. Amrywiad ar y ddwy linell olaf yw:

Malwod duon ar y wal,
Methodistiaid yn methu â’u dal!

A dyma rigwm a gofnodwyd yn ardal Llanwddyn:

Methodistied: penebylied,
Lladron gwyllt yn cerdded y walie!

Yr Undodwyr (Y Sosiniaid)

Y Sosiniaid! O mor drist,
Gwadu Duwdod Iesu Grist.

Y Wesleaid

Wesle wyllt ar ben y gwrych
Yn canu cân y regen rych!

Wesle wyllt ar ben y gwrych
    Yn watsio chwain yn neidio!
(Glynceiriog)

Wesle wyllt fel rheffyn gwellt
     Yn mynd drwy’r mellt a’r trane!
(Ceredigion)

Wesle wyllt a’r hen het wellt
     Yn gyrru mellt i hedeg!
(Waunfawr, Arfon)

Wesla, Wesla, Wesla sych,
Cadw pawb ar fara sych!
(Môn)

Methodist, Methodist, cwac, cwac, cwac;
Go to the Devil and never come back!

Arferai plant Ysgol Dinmael, sir Ddinbych, ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, a’m tad yn un ohonynt, herian un hen ŵr drwy lafarganu’r rhigwm hwn:

Wesle wyllt a’i wallt yn wyn
Yn malu cerrig wrth Bont-y-Glyn.

(Pont-y-Glyn: ger ffordd yr A5, rhwng Llangwm a Dinmael. Y mae’r bont yn lled agos hefyd i Gapel y Wesleaid, Tŷ Nant, sydd wedi cau bellach.)

A dyma’r druth ddychanol am Gapel Wesla (Capel Moreia), Nefyn:

Capal Wesla wislyd,
Mochyn yn y pwlpud,
Hwch yn pregethu
A mochyn yn brathu!

Yr Eglwyswyr

Hen Eglwyswyr, penne sofft,
Bildio eglwys heb ddim llofft!

Eglwys Loeger, uwch na neb,
Llediaith neis a phletio ceg;
Person plwyf a sgweiar sgwat –
Gwnewch y tro os tynnwch gap.
(De Ceredigion)

I gloi, dyma rigwm y Personiaid. Fe’i tadogir, er enghraifft, ar Berson Nantglyn, sir Ddinbych.

Chi dyfod i’r Eglwys,
     Chi gneuthur yn gall,
Chi peidio mynd i’r capel
     At bobol y fall!
Chi talu y degwm,
     Chi gneud yn ych lle,
Chi mynd ar ôl marw
     I ganol y ne.