Mary Elizabeth Lewis: Gwaddol Briodas Mari

Gan: Mary Elizabeth Lewis, Cross Inn, Ceredigion

Haearm smwddio
Haearm smwddio.
Stên
Stên (milk pail).
Crochan coginio
Crochan coginio.
Tom Davies, Aberystwyth
Tom Davies (1921–82), Aberystwyth.
Llwyau a dysgl bren
Llwyau a dysgl bren.
Dyma waddol gafodd Twmi
Pan briododd ef â Mari:
Dwy lwy gawl, pib bren a lletwad,
Brwshis blacins a bocs dillad,
Deunydd crys ac ochor mochyn,
Cadair babi a dau gosyn,
Gwely us a phwn o dato,
Crib a chaib a haearn smwddio,
Trensiwn pren a hen gist halen,
Bocs tybaco a hwyaden,
Stên a phot a chrochon menyn,
Cwilt a rhaw a llester gwenyn,
Fuller’s earth a sbwnj a rhwymyn,
Ffroc fedyddio yn llawn edjin,
Crochon cawl a phâr o ’sane,
Cwrcath du a llyfyr hyme.
Dafad ungorn, cyllell fwtsia,
Giâr un llygad, mochyn cwta,
Ond gwell imi cyn terfynu
Yw enwi presant Twm i Mari:
Clamp o looking glass, ac ynddo
Caiff Mari weld ei hun yn starfo!

Y rhigwm ’ma glywsoch chi, rŵan. Gan bwy? Glywed o, neu’i adrodd o mewn steddfod oeddech chi?

’I adrodd o mewn cwrdd cystadleuol nes i. ...
Tua faint odd ych oed chi, dach chi’n meddwl, pan oddech chi’n –
O, byti pymtheg, fforna.
Oddech chi’n adrodd llawer?
Oeddwn, adrodd tipyn bach amser ’nny. ... Adrodd i’r cyfarfodydd cystadleuol, ych chi’n wmod, at achos da, chwmod. Amser ’nny, ’tê. [Er enghraifft, yng Nghapel Bwlch-llan ac yn Abermeurig.]
Glywsoch chi rywun arall yn adrodd y rhigwm ’ma?
Naddo. Chlywes i mono fe’n cal ’i adrodd yn unman.
Ma’r hen rigwm bach ’ma yn un o anodd i’w gofio, yndydi?
Odi, wy ’di cadw e ar ’y ngho o hyd, ’dach wmod. ...
Oddech chi’n cal hwyl garw yn adrodd hwn?
Oen. Oherwydd o cymint o wahanol bethe gyda nhw i roid yn bresant amser hynny â pheth sy heddi, yntife.

Tâp: AWC 3916. Recordiwyd: 18.vii.1973, gan Robin Gwyndaf.

Siaradwraig: Mary Elizabeth Lewis, Cartref, Cross Inn, Ceredigion.
Ganed: 28.ii.1915 ar fferm Ty’n Gwndwn, Pont Saeson, Ceredigion. Gwraig tŷ, yn ymddiddori mewn gweithgareddau diwylliannol, megis eisteddfodau.

Cafodd Mary Elizabeth Lewis y rhigwm, a alwai hi yn ‘Gwaddol Mari’, gan ‘gyfaill’ yn ardal ei mebyd, sef Bwlch-llan, pan oedd oddeutu pymtheng mlwydd oed ac yn byw yn Hafod-y-gors. Ei henw hi ar y rhigwm oedd ‘ffrâs’.

Llwy bren fawr yw ‘lletwad’, er enghraifft, at droi a chodi uwd; plât pren, crwn yw ‘trensiwn’ (neu drensiwr); a phowdwr coch tywyll, o glai, yw fuller’s earth a ddefnyddid i lanhau a thewychu dillad. Cyllell fwtsiera (cyllell fawr, fel twca) yw ‘cyllell fwtsia’.

Gan un person arall yn unig y cefais y rhigwm hwn, sef gan Thomas (Tom) Davies (g. 1901), Waunfawr, Aberystwyth, awdur Yn Fore yn Felindre (Gomer, 1966). Arferai ef a phlant eraill ganu’r wyth llinell gyntaf wrth ddod adre o’r ysgol (Ysgol Felindre). Ei fersiwn ef ar yr wythfed linell yw: ‘Caib a rhaw a bocs tybaco’ (Llsg. AWC 2186/4).

Y mae rhigymau sy’n rhestru gwaddol briodas y ferch fel hyn yn weddol brin yn Gymraeg. Byddai’n dda gwybod am ragor. Yn yr un modd, byddai’n werth cael gwybod am unrhyw rigymau sy’n cyfeirio at briodi a ‘dechrau byw’, er nad ydynt, o angenrheidrwydd, yn rhestru’r gwaddol. Dyma un felly:

Gwae fi na bawn yn gwbod
Am ffordd heb ddod yn briod
    I gael y canpunt sydd yn stôr
Gan ferch yn ochor Llwytco’d.

A dyma ddau bennill arall, yn nhafodiaith Morgannwg, a gofnodwyd gan y cymwynaswr, Tom Jones, Tre Alaw, yn ei gyfres werthfawr o erthyglau ar lên gwerin Morgannwg (Y Darian, 21 Ion. 1926):

Ma plant bach y Pentra
Yn wilia [chwedleua] am brioti,
Heb gennyn nhw flancad gwely,
Na chinog goch i dalu.

‘Dy gelwdd di yw hynny,
Ma gennyn ni flancad gwely,
Ac un o’r gyna [gynau] gora sy’n y siop,
’Do’s arnw i rot i dalu.’

I gloi awn i Lanwrtyd ym Mhowys a chyfeirio at rigwm anghyflawn a gofnodwyd gan Evan Jones (1850-1928), Ty’n-y-pant, yr hynafiaethydd diwyd, awdurdod ar lên a llafar ei fro, ac awdur Doethineb Llafar, yn bennaf fel y’i clybuwyd yng Nghantref Buallt (1925). Y mae ffrwyth ei waith, mewn rhai cannoedd o eitemau o lawysgrifau, bellach wedi’i ddiogelu yn Amgueddfa Werin Cymru. Yn un o’r llawysgrifau (Llsg. AWC 1793/411) ceir y rhigwm hwn, sydd ar ffurf pôs, gyda’r atebion i’r rhifau 3-8, 10, 11 yn eisiau.

Un pig y buarth (giâr)
Dau slap y domen (hwyaid) ...
Naw o gegau hirion (gwyddau) ...
Deuddeg o felltithion (geifr).

Yn dilyn y rhigwm, ychwanegodd Evan Jones y sylw a ganlyn: ‘Fel y clywais, gwaddol a adawai tad gyda’i ferch ydoedd.’ Am wybodaeth bellach am gasgliad gwerthfawr Evan Jones o lên gwerin, gw. Herbert Hughes, gol., Cymru Evan Jones. Detholiad o Bapurau Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd (Gomer, 2009).