Y 'Ci Mawr Du', y 'Wraig yn y Ffynnon', a'r 'Gole Bach Glas yn Hedfan'

Gan: John Richard Harries, Cas-mael, a'i deulu

Y ci du a'r wraig yn y ffynnon
Y ci du a'r wraig yn y ffynnon. O ddarlun gan Margaret D. Jones.

’Dech chi wedi cael un ne ddau o brofiade go arbennig? Hoffwn i chi ddeud y profiad ’ma, rŵan. Tua faint oddech chi pen gawsoch chi’r profiad cynta?
Wel, byti – weles i ysbryd, ’yn hunan, a hynna’n gole ddydd. O byti ddouddeg mlwydd wed on i. A on i yn Cwmslade, enw’r lle bach hwn, gyda Ron Stifins [Stevens], yn treino curyllod. A o holidays yr haf ’da fi. Treino curyllod on i. A yn Casmâl yr amser ’na we camp, army camp fawr, ’da’r Mericanwyr, o dros ddwy fil da ’na. A o Cwmslade, on i drychy(d) drost y myny nawr. Dwyrnod braf odd (h)i. O’r tancs ’ma, chwel, yn saethu targets, chwel, cyfan yn ddwst, fflame cochion, chwel. Fflame glas, hefyd, ’da nhw. A on nhw bwydo curyllod nôl yn yr ardd, tu nôl Cwmslade, tu nôl y bwthyn bach lleia dwi gwel(d) eriôd. Bwthyn bach pert. We ffenestri, ddim mwy na seis bocs matsys, yn drychy(d) mâs. Un twll bach fela odd e. Ffenest fach, fel bocs matsys odd e. A wen i, amser haf, holidays yr haf o’r ysgol odd (h)i, chwel. A on i hala ar fin nos ’da Mr Stifins, a o ’im llawer o Sisneg ’da fi, amser ’no. On(d) wedd e’n diall fi, a fi diall fe. A, dysges i lot o Gwmrâg iddo. Dysges i mwy o Gwmrâg iddo fe na ddysgodd e Sisneg i fi. ’Na fi’n gweu(d) y gwir (wr)thoch chi.

On i ffido curyllod ’ma nawr, chwel, tu ôl y bwthyn bach ’co. A we curyll ’da fi, a we Stifins pen draw yr ardd fanno. A o curyllod mâs ’da ni ar perches bach ’ma. A we cefn yr ardd, chwel, odd e’n berth i gyd, chwel, o ddrain. A dyma drain yn dechre mudo [symud]. A o curyllod nawr dechre cal ofon, chwel. A Duw! dyma ci du, mowr do(d) mâs o drain ’ma, a galle ’im ci du do(d) mâs o drain ’ma, chwel. O drain ’ma rhy dew i neb ddo(d) mâs ono. A medde Mr Stifins, ‘Frighten the dog away, Dic’, wedo (wr)tho i. A dyma fi mlân a gweu(d) ‘Hwsh’. A pan wedes i ‘Hwsh’, dyddodd [dyfodd] fenyw ddu fowr lan, reit mlân lyged i. Het ddu ar ’i phen (h)i, a we ’i danne’ top (h)i yn troi mâs dros ’i gwefus gwilod (h)i. Yn ddu, dillad du i gyd, a danne’ gwynion. A gwymed wyn mowr ’da (h)i. A we dwylo (h)i wedi cal roi miwn, fel byse (h)i mewn maneg, am i brest (h)i’n dynn. A we shoes duon mowron ar thrâd (h)i, a rhina’n troi lan.

A we’n hanner troi nôl i drychy(d) arni, a hen smile fawr ar wymed (h)i. A odd (h)i’n cerdde(d) rown(d), a odd (h)i’n tynnu, a fel we magnet yndi, lle odd (h)i’n tynnu ni. A we(dy)ny, on i’n dilyn (h)i am byti ugen llath ’fyd, a fwy. A o Stivins yn dŵad ’run peth. A allen ni ’im siarad, dim on(d) staro ar gily. A hon yn hanner troi rown(d), a tynnu, a dilyn. Âth e mâs fel bwlch bach, twll bach yn yr ardd. Mâs. A chwel, ar ochor ’with odd ffynnon, chwel, ffynnon yn ddaear. A gollon ni ddi yn y ffynnon. A pipo yn y ffynnon. We dim dŵr wedi mudo [symud]. A miwn yn ffynnon o botel gwart ’da ni. Cadw llâth yn or, chwel, achos haf, achos safio’r llâth i suro, chwel. We ddim byd wedi mudo.

O bois bach! Credwch chi ’im faint o ofon on i ’di gal. Wen i wedi cal ofon. Reit, miwn â fi a’r curyll, ’dê, os, os, am gatre. Wel, croesi, wen i, on i rhowndo rown(d) lan i Cwmslade, chwel. Achos, o weun, chwel, a lot o fog yndi. Gors yndi, chwel. Wel, es i strêt am gatre, trw’r bog i gyd. A pan landes i gatre, o Mam yn golchi llawr, yn pasej. A gwmpes i, clapses i o flân Mam, ar llawr. A bues i yn gwely am bythownos ar ôl ’na, gyda’r ofon. ’Na’r ofon mwya dwi cal eriôd.

Wel, nawrte, o amser yn paso nawr. On i wedi anghofio byti’r peth nawr. Byti ddwy flyne ar ’i ôl ’na wedyn, bennes i’r ysgol, ychwel. Es i weitho wedyn i Morfil fanno. A odd da Morfil wedi torri mâs nawr, i Cwmslade ’ma. A na wedo Harris (wr)tho i. Sais o Harris. Wedodd e,
Fetch the cattle back from Cwmslade’, wedo (wr)tho i.
Oh, yes, yes’, wedes i, ‘I’ll fetch them now.
Well, you’d better have your breakfast first’, wedodd e, ‘and fetch them after’, wedodd e.
Felna buodd (h)i. Wel, nawr, on i myn(d) miwn i Cwmslade nawr, a we hen stream fach ’na, afon fach, cyn myn(d) miwn i Cwmslade nawr – cyn myn(d) miwn i ceie Cwmslade. A chi meddwl gallen i croesi’r afon ’na? Bob tro on i trial croesi’r afon, on i colli’n anal. Treies i (eil)weth. O rwbeth yn mogi fi lan. Wel, nawrte, on i ’im gwbo(d) beth i neud nawr. Myn(d) nôl i’r ffarm a gweu(d) wrth boss gallen i ’im cal y da? Wel, on i drychy(d) tam bach yn od, on i? Es myn(d) nôl ’no. Treies i (eil)weth, ffilu’n deg, we’r anal yn pennu. Dim on(d) yn meddwl croesi’r afon fach. A dim on(d) jwmpo’r afon fach o ’da fi. O’r anal yn pennu. On i cerdde(d) â nhw i lawr (eil)weth, chwel, ’run peth (eil)weth. A o gwartheg dim on(d) cwpwl llatheidi (wr)tho i.

Wel, on i ’im gwbo(d) beth i neu(d) yn iawn. Es myn(d) nôl, a wedes i wrth y boss,
O don’t be silly’, wedo (wr)tha i.
I’m sorry’, wedes i, ‘I can’t.’
What’s wrong then?
Well, when I’m trying to cross the stream’, wedes i, ‘I’m losing my breath’, wedes i (wr)tho.
Don’t talk so silly’, wedo (wr)tha i. ’Na’r geire wedo (wr)tho i.
I can’t do it.
I’ll come with you’, wedodd e.
Reit, draw â ni. A welodd e ’i ’unan, wen i ffilu mofyn i’r gwartheg. Odd e alle croesi, on i ffilu.
What’s wrong with you?’ wedo (wr)tha i. ‘Come on, jump’, wedo (wr)tha i. A pan on i trial, on i colli’n anal.

Wel, wedyn, mewn byti flwyddyn ar ôl ’na wedyn, dâth Mr Stifins nôl. Ron Stifins nôl, wedyn. Y bachan o ’da fi pan welon ni’r ysbryd ’ma [y ci du a’r wraig yn y ffynnon], chwel, a dâth e nôl i Morfil manna. Des miwn, cal pryd o fwyd, cino fanna, a ’na pwy o ishte lawr yn gegin on(d) Ron Stifins. Siglo llaw ag e.
Dic’, medde fe, ‘do you remember that day’, wedodd e, ‘I will never forget that day’, wedodd e. ‘I have travelled the world, and I’ve been in jungles’, wedodd e. ‘The worst fright I’ve ever had in my life’, wedodd e.
Odd e wedi bod trw jyngls, ychwel. A odd ’im ’di gwel(d) shw beth eriôd na’r dwyrnod ’na. Ffilodd e gwsgu nosweth ’na, chwel. Shifftodd y cyfan mâs drannoth i Morfil, chwel. Curyllod a cyfan, gwmint o ofon odd e ’di gal i ’unan. Odd.
Nawr, Ron Stevens oedd pia’r –
Curyllod, chwel. Fe o’n treino’r curyllod ’ma.
Fferm ydi Cwmslade?
Ie, smallholding bach odd e pwrny, chwel.
Yn ardal –
Wel, yn ardal Twffton, neu, ie, ardal Twffton weden i bo(d) ’wnna.
Ie.
A nawr s(d)im bwthyn bach ’na, chwel. We nhw tynnu’r bwthyn bach lawr a ma Forestry Commission wedi gymeryd e, chwel. Ma e o dan tyddiant [tyfiant] i gyd nawr, chwel.

Ie. Tua deuddeg oed oddach chi amser –
Byti ddouddeg, ie.
Helpu oddech chi?
Wel, ’i helpu fe, chwel. On i’n iwso helpu fe ar dy’ Sadwrne a dy’ Sulie, chwel. Dâth holidays yr haf, wedyn, chwel. Gwylie’r haf, chwel, o’r ysgol. A wedo (wr)tha i, i ddo(d) ato fe, a byse roi peder punt yr wthnos i fi, chwel.
Pa amser o’r flwyddyn odd (h)i, pan welsoch chi’r ci mawr du ’ma, a’r hen wraig ’ma?
Yn yr haf odd (h)i. ... Sa’n cofio’n union. Ma’r date ’da fi ’ma. Odi.
Ie. Yn ystod y dydd?
O, yn dydd odd (h)i, ie. Mlân, wedwch nawr, byti hanner awr wedi douddeg wedd (h)i. Ie. Hanner awr wedi douddeg. Ie.
Be’ odd maint y ci ’ma?
O, we’r ci, uchder mowr arno. Wedd e byti beder drodfedd o uchder, weden i, o’i gewn i lawr, weden i. Ci mowr du odd e. O coese hirion iddo, chwel. Odd.
Aru’r ci ddim cyfarth na dim byd?
Dim byd. Pan es mâs, pan es myn(d) draw ato, trial hala ofon a gweu(d) ‘Hwsh’ (wr)tho. Dâth menyw lan ... menyw ddu lan o mlân lyged i. A we danne’ gwynion ’da (h)i, reit lawr dros ’i gwefuse (h)i. A het (h)ir ’da (h)i. O ’i dwylo wedi cal ’u dodi mewn, fel allech chi ddweud bo(d) ’i dwylo (h)i [wedi’u rhoi] mewn maneg. Breiche (h)i, troi lan. A shoes duon, a rheina troi lan. A o (h)i’n troi rown(d) aton ni, a hanner hen smile ar gwymed (h)i. Drychy(d) nôl dros hanner shoulder (h)i. Dwi gallu gweld (h)i nawr, licsen i gallen ’i peinto (h)i. Licsen i gallen ’i peinto (h)i i chi. Treso mâs. Licsen i allen i neud e i chi. Scetsio mâs, chwel. A ’na lle on i, on i dilyn (h)i, a odd (h)i’n drychy(d) rown(d).

Y wraig ’ma och chi wedi weld, pan aru chi symud y ci du, och chi wedi gweld rhywun tebyg iddi yn yr ardal o gwbwl?
O, dim, dim eriôd. Dim eriôd.
Odd hi’n dal neu’n –
Dim yn dal iawn, dim yn dal iawn. Wel, o ddim llawer mwy faint â fi yr amser ’na, chwel, on(d) odd (h)i wedi hala ofon, ychwel, achos ... y ffor odd (h)i ’di cydio yn ’i hunan, chwel, a ffor odd (h)i’n cerdded, chwel. Cydio fela, a odd (h)i’n drychyd drost ’i shoulder, hanner nôl, felna, chwel.
Ie.
Felna odd (h)i, chwel. Cered felna. A odd fel magnet yndi. We rhaid i ni dilyn (h)i. A o Mr Stifins ’run peth (eil)weth, chwel. O curyll yn llaw e a curyll yn law i. A rhaid dilyn (h)i. A fydde hanner smile a danne’ gwynion ’ma, a gwymed gwyn, mowr ’da (h)i.
Am faint aru chi orfod ’i dilyn hi?
Wel, gwedwch chi (wr)tha i nawr ... buodd (h)i drychyd arna i manna am byti peder munud i gyd, peder munud i gyd, weden i. On(d) wedd e debyg fel hanner awr, yr ofon on i ’di cal, ychwel. Odd. ...

Ac odd o [Mr Stevens] wedi gweld yr union un peth â welsoch chi?
Yr un peth, yr un peth. Odd. As [achos] wedodd (wr)tho i, ‘Frighten that dog away’, wedodd (wr)tho i. As on i meddwl ma ’di do(d) miwn, ci ffarmwr [neu rywbeth odd] o. On(d) odd e gi mwy o faint â ci ffarmwr, o (h)yd, ychwel. ’Na beth on i wel(d), chwel. A pan es i mlân a gweu(d) ‘Hwsh’ wrtho, chwel, fel bysen i hala ofon ar giâr, chwel, ‘Hwsh’ felna, diflannodd, a dâth menyw lan ... a na lle odd (h)i’n drychyd gyda smile arna i, a danne’ gwynion, drost ’i gwefuse (h)i.
Nawr, aru ych tynnu chi i gyfeiriad y ffynnon, yndô?
Odd hi’n cerdde(d), chwel, pan odd (h)i’n cerdded o fel rhaid i ni ddilyn, fel se rwbeth yn tynnu ni. A Mr Stifins. Ni’n dou ’run peth. A nill dou ffilu siarad â’n gily, dim on(d) jyst staro [ar ein] gily.
O ’ne enw ar y ffynnon ’ma?
O, nagodd. Dim on(d) ffynnon Cwmslade, chwel. Belonge i’r hen cottage bach, chwel.
Ie.
Wel, o ddim ddwfwn iawn, chwel. Byti dwy drodfedd odd e o ffynnon, chwel. O botel gwart ’da ni, chwel. On ni rhoi botel gwart lawr, llath yndi, safio suro drost y tywy twym, chwel. Odd ’im byd wedi mudo. Odd ’im y dŵr wedi mudo. On(d) diflannodd (h)i, yn y ffynnon. Fanno gollon ni ddi. Yn y ffynnon. ’Na ofon mwya gal eriôd. A redes i am gatre, chwel. On i iwso rhowndo rown(d), chwel, y weun fawr, chwel. O gwment o bog yn y weun, chwel. On(d) groeses i gatre trw’r bog. On i’n fw(d) coch, chwmod. On i’n fowli bog coch i gy(d). A pan landes i gatre o Mam yn golchi llawr, pasej mâs, a clapses i blân Mam ar llawr. A bues i yn gwely am bythownos ar ôl ’no. Rhy dost a ry sâl i wneud dim byd.

Odd ych mam rŵan yn ceisio dweud wrthoch chi beth odd ystyr y cyfan?
Wel, wedyn, âth ’y Nhad, nosweth ’na, draw a gwel(d) Mr Stifins. Gwel(d) beth o wedi digwydd, ychwel. A pan âth Nhad draw i Cwmslade we Mr Stifins ’im ’na. Odd e ’di shiffto mâs. Odd e ’di myn(d) i Morfil, chwel, i aros wedyn. Odd ’di cal gwmint ofon. Âth ’y Nhad wedyn i Morfil i wel(d) Mr Stifins, a wedodd e ’run peth, ‘I will never go back there again’, wedodd e.
A fuodd o ddim yno?
Naddo. Fuodd e ’im yn agos ar ôl ’ynny, chwel.
Fuo na rywun yn byw yn Cwmslade?
O, naddo, neb byw (eil)weth, ’na. O’r tŷ ’na ’di bo(d) wag am flynedde mowr, chwel. Achos mewn lle unig o Stifins yn myn(d) â curyllod, chwel, lle distaw i treino curyllod, chwel.
Os rywun yn byw ’na heddiw?
Nagos, ma wedi gal ’i dynnu lawr ’da Forestry, chwel. Forestry Commission yn dŵad i blannu lan i gyd, ychwel. Llwyni’n tyddu ’na.

O ’ne ryw stori ne hanes bod ’na rywun wedi cal ’i ladd neu bod ’na rywbeth rhyfedd wedi digwydd yn yr ardal?
Nagodd, dim byd, dim hanes o gwbwl. Wel, s(d)im llawer yn gwbo(d) byti hyn, ychwel. Sa i ’di gweud wrth neb byti hyn, chwel. Nadw.
Odd na bosibilrwydd bo’ chi wedi darllen am rwbeth tebyg, pan och chi’n hogyn ifanc?
Wel, na. Sana i ’di bod darllenwr eriôd. A pan on i yn rysgol on i ’im lico darllen, a bo’n onest wrthoch chi. Nagon. On i’n fachan twp iawn yn rysgol. On. Wedi dysgu lot ar ôl pennu’r ysgol. ... Wel, pan bennes i’r ysgol, a gweud y gwir (wr)thoch chi, wel, wen i prin gallu reito’n enw.
Ie?
Ie. Prin reito’n enw. A ddim siarad gair o Sisneg yn iawn. Nagon.
Wel, ’dach chi wedi clywed am rywun arall yn yr ardal sy wedi gweld rwbeth tebyg i hyn, y ci du ’ma?
Naddo, neb.
Na.
Neb. Wel, sana i wedi gweud wrth neb, ychwel. Sa i wedi gweud wrth lawer, chwel. Sana i ’di gweud wrth neb, chwel.
Tasech chi yn dweud, be ’dach chi’n meddwl bydde’u ymateb nhw?
O, wherthin ar mhen i. Ie, ‘twt, twt’ byse (h)i. S(d)im shw beth â ’na gal. A wedyn, wasto’n amser i weud wth rhywun ydw i, chwel. Mae’r peth ’na, chwel – dwi ’di weld e. Wen i ’na. ... A sneb galle gweud, so nhw gal, as [achos] dw i ’di weld e. O’r fenyw ’na. Ci we i starto, chwel, a odd e’n fenyw wedyn, chwel.

Aru chi geisio cyffwrdd y ci?
Wel, wen i hala ofon ar y ci, achos we curyllod, byti whech o guryllod, ’da ni ar perches bach, chwmod, yn yr ardd, chwel. Clwmu sown(d) yn perches, chwel. A’r curyllod ’ma’n fflapan nawr, chwel, cal ofon y ci ’ma.
On nhw ’di cal ofn?
On, on. Wedi cal ofon y ci, chwel. On nhw ’im arfer gwel(d) cŵn, chwel. Curyllod, chwel. Adar, chwel. Hala ofon [arnyn] nhw. A pan es i mlân a gweud wrth y ci ’ma, ‘Hwsh’, diflannodd [a dâth] menyw lan o mlân lyged i.
Aru chi sylwi ar lygid y ci?
O nagon, nagon. Ci du odd e. Ci du. O uchder mowr, a coese meinon iddo. Dwi cofio ’na’n iawn. A o cwt du hir mowr ’dag e. A cluste duon yn hongian ’dag e. A pan wedes i ‘Hwsh’ – hala ofon arno – dâth menyw lan, reit mlân lyged i.
Aru chi geisio siarad efo’r fenyw?
Gallen i ’im gweud bo na ba. Gallen i ’im. Gallen i ’im siarad o gwbwl, fel bod i ’di colli’r speech i gyd. A o Mr Stifins ’run peth. A odd (h)i fel hanner wherthin arnon ni, a’i danne’ lawr dros ’i gwefuse, chwel. Dwi gallu gwel(d) (h)i nawr.
A welsoch chi byth moni wedyn?
O, dim, dim (eil)weth, naddo. O sen i ’di bod [yno] byth ar ôl ’na, chwel.
Na?
Dim, byth ar ôl ’na, chwel.

Faint o ffor sy ’ne o’r lle och chi wedi gweld y ci du i’r ffynnon?
Wel, we odd dim llawer, chwel. Cwpwl llatheidi, chwel, odd e. Odd e ’im bell iawn chwel, cwpwl o llatheidi odd e.
Odd gynnach chi ddim rheswm i fynd at y ffynnon o gwbwl yr amser hynny?
O, nagodd. Nagodd. On(d) o rwbeth yn y wraig fach ddu ’ma, i dynnu ni ar ’i hôl (h)i ...
Och chi’ch dau wedi dweud rwbeth wrth ych gilydd pan och chi’n cal ych tynnu am y ffynnon?
Dim on(d) staro ar gily. ... Fel sen ni’n staro ar gily. ‘Beth yw hwnna, ’tê?’ Fel o magnet yn tynnu, chwel.
A deuddeg oed oddoch chi amser ’no?
Ie, byti ddouddeg, wedwn i.
Och chi’n dal yn yr ysgol?
Yn rysgol, on. Gartre ar gwylie’r haf on i, chwel.
Ac och chi’n nabod Mr Stevens yn dda?
Wel, we’n i’n nabod e’n dda, gwelwch. Sais, dyn o bant odd e, chwel.
A mynd i’w helpu o, oddech chi?
Helpu e on i, ie. On i o hyd yn helpu. Y flwyddyn cyn yma, wedd e’n aros yn Pant-y-wningen. Dim bell o manna, chwel. Pant-y-wningen. Wel, we Pant-y-wningen wedd e rhy agos i’r hewl, ychwel.
’Na chi.
A o gormod o ddynion lawr yn fisito. A o curyllod yn cal ofon, ychwel. Wel, yn Cwmslade, wedd e lle unig iawn, ychwel. Neb yn styrban, chwel. Neb yn dod ’n agos, chwel.

Pan och chi’n gweithio, rŵan [ymhen tua dwy flynedd wedi gweld y ci a’r wraig yn y ffynnon], och chi methu croesi’r afon fach ’ma. Yn ble och chi ar y pryd?
Wel, gwitho yn Morfil on i, chwel. Yn Morfil on i gwitho amser ’na, chwel. A âth y gwartheg Morfil mâs ar y tir, o smallholding fach manna, Cwmslade, chwel. A wedo boss (wr)tha i manna, bore, ‘You’d better fetch the cows home’, wedodd e. ‘Oh, you have your breakfast first.’ Dwi cofio’n iawn e’n gweud ’na.
’Na chi.
Oh, you’d better have your breakfast first’, (wr)tho i.
Felly, och chi wedi madel o’r ysgol?
On wedi madel o’r ysgol pyrny, on.
Pedar ar ddeg oed, ie?
Ie, peder ar ddeg. Gwedwch on i byti beder ar ddeg pyrny. ’Na fe. A dyma fi myn(d) draw nawr, Cwmslade nawr, a hen afon fach ’na, chwel. O raid croesi hon. On i goffo(d) croesi’r afon fach ’ma nawr, cal myn(d) mofyn y gwartheg, chwel. A ... gallen i ’im croesi. O gwbwl. On i’n colli’n anal pan on i’n trial jwmpo y trench, chwel, yr afon fach, nawr, camu draw. On i’n colli’n anal. On i’n meddwl beth o’n bod arna i. Es mwy lawr tam bach (eil)weth. ’Run peth yn digwydd. Wel, nawr, myn(d) gatre nawr, heb y gwartheg. On i meddwl, wel, beth byse’r boss yn gweud. O rhaid myn(d), goffo(d) myn(d) gatre (h)ebddyn nhw. A wedes i wrth y boss wedyn,
I don’t believe that’, wedodd (wr)tha i.
I can’t go over the stream’, wedes i (wr)tho. A wherthin,
Oh, I’ll come over with you’, wedodd e.
A digwyddodd ’run peth i fi. Wedd e gallu myn(d) drosto, on i ffilu.

Beth odd enw’r boss?
Lewis Harris.
Odd o’n Gymro?
Na, Sais odd e. Sais.
Morfil – y ffarm fûm i yno bore ’ma?
Ie, ffarm ’na, chwel.
Ar y ffordd i’r Faenor?
Faenor, ’na fe, ’na’r ffarm, ie, ie.
Beth yw enw’r plwy, wedyn, fan yma, rŵan?
Plwy Morfil, chwel.
Plwy Morfil.
Plwy Morfil. Ma eglws yn Morfil, chwel.
Oes.
A plwy Morfil, chwel.
’Dan ni yn plwy Morfil fan yma? [Fferm Cwm]
Nadyn, plwy Casmâl fan hyn, chwel. ... Chi wedi croesi’r afon fach fan hyn, chwel. Ma bont fach man hyn, ychwel.
’Na chi.
Ma’r afon fach wedi rhannu ni nawr, chwel. Odi.

Wel, ’dach chi wedi cal un profiad arall hefyd, yndô? Gweld y gole ’ma. Beth ydi’r hanes yma?
Odw, wel, weda i (wr)thoch chi nawr, s(d)im blynydde mowr ar hynny, nawr. O, ma siŵ(r) fod pymtheg mlyne, siŵ(r) fod, ar hynny. On i mâs, tu fâs i tŷ fan hyn un noson. Yn gaea odd (h)i, chwel. A do(d) mâs ar bwys yr hewl ’na, a weles i gole bach, gole bach glas, yn hedfan ar y ffordd. O lan byti dair drodfedd nawr o’r hewl, chwel, fel fflam fach las, yn myn(d) lawr, yn paso hibo fi, a lawr trw’r hewl. A meddylies i ’im byd, mwy na – wel, ma siŵr fod rwbeth ar lyged i, wedes i. A odd e ’na (eil)waith, chwel. Mynny. Fflam fach las odd (h)i, chwel, fel cannwyll nawr. Felna, fflam fach odd (h)i. On(d) odd (h)i’n fflam las. Dim lliw melyn, na lliw gole cannwyll odd (h)i, on(d) fel gole bach glas. A (h)en ring fach rown(d) (h)i. A meddwl byti ’na – ring fach felyn o rown(d) (h)i. Fflam fach las a ring fach felyn rown(d) (h)i, ring fach felna, chwel. A wedes i ’im byd. Wedes i ’im byd wrth Barbara [fy ngwraig] am ’ny. A weles i Father dwyrnod ar ’i ôl ’na, wedyn. O Nhad yn galw miwn, a wedes i:
‘Myn(d) mâs, o flân y tŷ ’ma nithwr, wedes i (wr)tho, a ti gwbo(d), beth od’, wedes i, ‘weles i gole bach glas yn myn(d) lawr trw’r hewl. Cal gole bach cannwyll fel se’n hedfan, wedes i, ar ben hewl.’
‘O, by(dd) angla’n paso ffor hyn, heb fo’n hir’, wedodd e.
A odd e’n wir. Paso angla(dd) ’fyd, mewn byti pythownos ar ôl ’na. Do.

’Dach chi’n cofio pwy gafodd ’i gladdu?
Diawch, nawrte, odw i, os dwi siŵr nawr. Huw Luke.
Ond o hyn tua pymtheg mlynedd nôl?
Rhywpeth, wel, falle sa fe myn(d) nôl pymtheg nawr, on(d) ma’n o dipyn. Na, sa fe pymtheg, ’tê.
A min nos odd hi, tua –
Min y nos nawr, ie. O, weden i nawr, byti un ar ddeg, douddeg gloch, ffor na, odd (h)i.
A lle gwelsoch chi’r gole gynta un? Yn y clawdd?
Wel, lawr, yn dŵad trw’r hewl. Mâs o flân y tŷ, chwel. Gole bach myn(d) lawr, hibo lyged i, ar hewl, chwel. Edryches arni, chwel. On i me(ddw)l bo rwbeth ar lyged i. ... Fflam fach las, fflam cannwyll, chwel.
Pasiodd heibio’r Cwm, fel tai?
O, do, paso hibo Cwm, lawr trw’r hewl. A fflam fach las odd (h)i, gole cannwyll. Fflam fach cannwyll odd (h)i. A o ring fach ole, fel gold, rown(d) (h)i, chwel. Fel half moon bach wedyn, chwmo(d), ar ’i phen (h)i.

Tapiau: AWC 5466-68. Recordiwyd: 29.vi.1977, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: John Richard Harries ('Dic y Cwm'), Cwm, Cas-mael, Hwlffordd, sir Benfro.
Ganed: 11.vii.1931, yn Nhroed-y-rhiw, Cas-mael. Roedd ei fam, Rowena, yn ferch Richard Harries, Pen-graig, Cas-mael. Yntau'n briod â Serah Harries o ardal Casnewydd-bach. Roedd ei dad, Jim Harries, yn fab Melin Wern (tyddyn a melin ddŵr yn malu blawd), Cas-mael. Roedd ei rieni yntau o gylch Dinas, sir Benfro.

Wedi ymadael o'r ysgol, bu Richard Harries yn was fferm mewn amryw lefydd yn lleol. Yna, am gyfnod o 8 mlynedd, bu'n crwydro llawer fel goruchwyliwr i gwmni yn gosod gwifrau teliffon ar y ffordd fawr. Cyfnod byr wedyn yn gweithio i gwmni adeiladu. Yn 1959 symudodd ef a'i briod, Barbara, o dyddyn o'r enw Lodge, Clunderwen, i dyddyn arall o'r enw Cwm, Cas-mael, ble gwnaed y recordiad. Yn ystod y blynyddoedd hyn bu hefyd yn ymhél â llu mawr o swyddi, megis prynu a gwerthu coed, gyrru lorïau a pheiriannau, gwerthu hufen iâ, gwerthu recordiau sain, a gwerthu sglodion (gyda fan). Ond un o brif ddiddordebau J Richard Harries yw ceffylau. Bu'n cadw ceffylau bron ar hyd ei oes, ac yn eu defnyddio'n gyson i drin y tir.

Y mae'r detholiad o eitemau llafar a ddetholwyd i'w cynnwys yn y cynllun hwn, 'Aur Dan y Rhedyn', yn adlewyrchu'n amlwg iawn gred ddiysgog J Richard Harries, fel cred ei rieni a'i hynafiaid, yn y goruwchnaturiol. Y mae'r cyfan o'r hanesion a adroddir, boed yn brofiadau personol neu'n brofiadau a berthyn i aelodau ei deulu agos, wedi'u hadrodd ganddo fel un sy'n credu'n gydwybodol fod pob hanesyn yn gwbl wir. Meddai wrth adrodd profiad goruwchnaturiol a gafodd ei dad: 'Ma'r hen fobol, ran fwya, chwel, yn credu pethe. On nhw'n gweld nhw, chwel. Waniaeth â ni nawr, chwel. Ni'n trafaelu rhy gloi i weld nhw, chwel. Ma nhw gal heddi. Ma nhw gal heddi, chwel.'