Merch Fach a'i Modryb yn Gweld y Goleuni Rhyfedd ar Sgwâr Cas-mael

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.

Gan: John Richard Harries, Cas-mael, a'i deulu

... A on i yn cofio un amser, odd Mam yn gweu(d) (wr)tho i, wedd (h)i do(d) gatre o Wern rhyw nosweth (eil)weth. Mâs o Wern nawr, mâs i’r hewl, a ffarm fach [o’r] enw Dyffryn. Cerdded ar hyd yr hewl, a welodd gar fel bus fawr, llawn goleuni i gyd. Do, mâs o Dyffryn. A ’na ma’n rhedeg miwn i’r tŷ a gweiddi ar ’i thad a mam ddo(d) mâs pyrny – gweu(d) bo(d) rywbeth ar pentre Casmâl – ar sgwâr, medde (h)i, yn oleuni i gyd. A pan dâth ’i thad a mam mâs o Pen-graig, a drychy(d) draw am sgwâr y pentre, collon nhw’r gole. Diflannodd bant, ychwel. A odd eitha gwir. Odd. Wy’n gweu(d). We 'sbryd, ychwel.

Faint odd ych oed chi rŵan, pan glywsoch chi’r hanes – mi awn ni ar ôl yr hanes ’ma am y bus yn llawn goleuni. Tua – ?
O, glwes i ... erbyn nos gatre yn gaea’, chwel. Pyrny on i clywed storïe ’ma. Wel, pyrny, chwel, odd storïe felna yn hala ofon arna i, chwmod. Plentyn [on i], chwel. Siwrne odd e’n dywyll, odd ofon arna i myn(d) mâs nawr, ofon arna i myn(d) mâs i’r sied, ychwel, mofyn glo i Mam.
Pan och chi’n Troed-rhiw?
Ie. ...
’Na chi.
Ond, odd rhai’n galw fe yn Claw’ Helyg. Clawdd Helyg. We’r hen dŷ ’na blynydde nôl. Nhad bildodd y byngalo, chwel. Odd Clawdd Helyg, chwel, blynydde mowr yn ôl, wedd yr hen dŷ fanna, chwel. We saith merch ’na. Saith merch gatre. A farwodd y saith o ferched, yn y bwthyn bach ’ma, gyda rhyw ddolur. Alla i ’im gweu(d), sa i’n cofio’r enwe, enwe’r dynion [odd yn] byw ’na pyrny, ond farwodd saith merch, gyda’r un dolur, amser ’na. [Mynd] yn ôl blynydde mowr nawr, cofiwch. Clywed beth o Nhad a Mam yn gweu(d) dw i nawr, chwel. ...
’Na chi. A’ch mam odd yn deud yr hanes ’ma?
Ie. Mam a Nhad, ’dê, gweu(d) yr hanes ’ma, beth on nhw wedi clwed, ychwel.

Yr hanes ’ma efo’r bus ’na odd yn llawn goleuni. Yn Cas-mael – yn ble’n union?
Wel, enw y bwthyn bach odd Dyffryn, dim ymell o Pen-y-graig. Dim ’mell o catre Mam, chwel. ... A odd (h)i myn(d) mâs i’r hewl fawr. A pan odd (h)i’n dod lan am Dyffryn, dâth y gole ’ma mâs o’r iard yn Dyffryn. Fel byse’n codi lan o blân llyged (h)i. ’Na ffordd wedodd (h)i.
Tua faint odd ’i hoed hi amser hynny?
Wel, dwi meddwl wedodd (h)i croten fach yn rysgol odd (h)i, byti dair ar ddeg, weden i. Dwi meddwl douddeg i dair ar ddeg, rwbeth felna odd (h)i. Yn ysgol odd (h)i’r amser ’na. ... Odd neb arall gyda (h)i. Wrth ’i hunan odd (h)i. Âth (h)i gatre wedyn, ridodd miwn i Pen-y-graig, gwiddi ar ’i thad a mam i ddod allan. Gweu(d) ‘ma rwbeth mâs ar hewl, yn llawn gole i gyd’. Dethan nhw mâs, welon nhw’r gole, a diflannodd y gole, chwel. A diffoddodd e reit o flân ’u llyged nhw.
Hi odd yn disgrifio’r peth fel bus, ie?
Ie, fel bus, ie. Ie. Rhwbeth hir odd e, odd (h)i’n gweu(d). ...

Ond yn y Dyffryn, chwel, ma fynwent ’na. Hen fynwent ’na, meddan nhw. ... A o Mam yn gweu(d) pyrny taw ysbryd yn do(d) mâs [odd e]. A ma’r Dyffryn wedi cal bildo ar ben mynwent. Ma’r tŷ ’ma wedi cal bildo ar ben mynwent, ychwel. Hen, hen fynwent.
O ne rywun arall wedi gweld y gole ma, yn Dyffryn?
O nagodd, dim on(d) Mam, chwel. A’i thad a’i mham, wedyn, chwel. ...

Tapiau: AWC 5466-68. Recordiwyd: 29.vi.1977, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: John Richard Harries ('Dic y Cwm'), Cwm, Cas-mael, Hwlffordd, sir Benfro.
Ganed: 11.vii.1931, yn Nhroed-y-rhiw, Cas-mael. Roedd ei fam, Rowena, yn ferch Richard Harries, Pen-graig, Cas-mael. Yntau'n briod â Serah Harries o ardal Casnewydd-bach. Roedd ei dad, Jim Harries, yn fab Melin Wern (tyddyn a melin ddŵr yn malu blawd), Cas-mael. Roedd ei rieni yntau o gylch Dinas, sir Benfro.

Wedi ymadael o'r ysgol, bu Richard Harries yn was fferm mewn amryw lefydd yn lleol. Yna, am gyfnod o 8 mlynedd, bu'n crwydro llawer fel goruchwyliwr i gwmni yn gosod gwifrau teliffon ar y ffordd fawr. Cyfnod byr wedyn yn gweithio i gwmni adeiladu. Yn 1959 symudodd ef a'i briod, Barbara, o dyddyn o'r enw Lodge, Clunderwen, i dyddyn arall o'r enw Cwm, Cas-mael, ble gwnaed y recordiad. Yn ystod y blynyddoedd hyn bu hefyd yn ymhél â llu mawr o swyddi, megis prynu a gwerthu coed, gyrru lorïau a pheiriannau, gwerthu hufen iâ, gwerthu recordiau sain, a gwerthu sglodion (gyda fan). Ond un o brif ddiddordebau J Richard Harries yw ceffylau. Bu'n cadw ceffylau bron ar hyd ei oes, ac yn eu defnyddio'n gyson i drin y tir.

Y mae'r detholiad o eitemau llafar a ddetholwyd i'w cynnwys yn y cynllun hwn, 'Aur Dan y Rhedyn', yn adlewyrchu'n amlwg iawn gred ddiysgog J Richard Harries, fel cred ei rieni a'i hynafiaid, yn y goruwchnaturiol. Y mae'r cyfan o'r hanesion a adroddir, boed yn brofiadau personol neu'n brofiadau a berthyn i aelodau ei deulu agos, wedi'u hadrodd ganddo fel un sy'n credu'n gydwybodol fod pob hanesyn yn gwbl wir. Meddai wrth adrodd profiad goruwchnaturiol a gafodd ei dad: 'Ma'r hen fobol, ran fwya, chwel, yn credu pethe. On nhw'n gweld nhw, chwel. Waniaeth â ni nawr, chwel. Ni'n trafaelu rhy gloi i weld nhw, chwel. Ma nhw gal heddi. Ma nhw gal heddi, chwel.'