Gweld Cawr yn Cicio Pêl Anferthol o Fawr ar Hewl Gwaun Cas-mael

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.

Gan: John Richard Harries, Cas-mael, a'i deulu

'Dech chi'n cofio'ch mam, rŵan – odd ych mam yn deud hanesyn wthoch chi am 'i thad hi? Odd gini hi ryw hanes am 'i mam, bod 'i mam hi wedi gweld ryw bethe rhyfedd, felly? Chi 'im yn cofio dim byd felly?

Dwi cofio Mam yn gweu(d), nawr ddod i feddwl i, we Mam-gu [a Tad-cu] yn dod nôl. Wen nhw 'di bod yn capel, cerdded nôl o capel, o Trecŵn, rwle. Ne ardal Sgleddi, ne ardal Abergweun. On(d) cerdded on nhw. A odd (h)i'n nosweth gole lwer, medde (h)i. A nhw yn pentre Casmâl, welon nhw ddyn mowr yn ganol ffor, fel giant. A [dyna] lle [odd] hwnna'n cico ffwtbol fowr, fel pêl fowr 'dag e. Welon nhw shw(d) beth eriôd. Fel byse'n codi ryw dŷ mowr lan ar 'i drâd ... , medde nhwy. Dwi cofio Mam yn gweu(d) 'na. We Mam-gu nawr, Mam-gu fi, mam mam, yn gweu(d) wrthi bo(d) nhw do(d) nôl o Abergweun, cerdded on nhw. A pan on nhw do(d) miwn i pentre, wel, tu fâs pentre Casmâl, nosweth gole lwer odd (h)i, medden nhwy, mâs trwy Weun Casmâl – achos ma hewl myn(d) trwy Weun Fowr Casmâl – Weun Fowr ma nhw weud. A welon nhw rwbeth mowr yn sefyll ar yr hewl, medden wy. Giant o ddyn. A o pêl 'da hwnna, medden wy, gwmint â tŷ ... bod e'n cico lan o blân nhw. Wel, on nhw wedi cal ofon mowr, medden wy. Dwi cofio am Mam yn gweu(d) nawr, bod 'i Mam wedi gweu(d) wrthi (h)i, 'dê, pan odd (h)i'n blentyn am hynny. A we'r pêl odd e'n cico, medde (h)i, gwmint â seis â tŷ. Tŷ mowr. Fel se codi tŷ lan ar blân 'i drâd, a cico i'r awyr.

Tua faint odd ych oed chi rŵan, pan glywsoch chi'r hanes yne?

Wel, allen ni weud, plentyn bach yn rysgol on i, chwel. Ie, ie. Ond o Mam yn gweu(d) o (h)yd, ar ôl imi dyfu lan, y stori fach 'na. Wedd. Ond mae'n anodd credu bo(d) pethach felna gal, chwel. Ond wy'n credu'n (h)unan.

Hynny ydi, odd ych mam-gu, rŵan, wedi dweud yr hanes 'ma sawl gwaith wrth –

O, sawl gwaith. Odd, odd. Blynydde nôl, chwel, o storïe bach i gal. Cewch chi 'im storïe bach heddi.

Na.

Na welwch. Ma pethach hyn i gal heddi, on(d) bo(d) dyn yn myn(d) mor gloi. So ni weld e. Chi trafaelu mewn car. S'nach chi'n gwel(d) y peth, chwel. Chi myn(d) ry gloi. Mae pethach hyn i gal heddi. Bysen ni'n cerdded mwy, a myn(d) mâs i wlad mwy, bysen ni'n gwel(d) yr un peth.

Tapiau: AWC 5466-68. Recordiwyd: 29.vi.1977, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: John Richard Harries ('Dic y Cwm'), Cwm, Cas-mael, Hwlffordd, sir Benfro.
Ganed: 11.vii.1931, yn Nhroed-y-rhiw, Cas-mael. Roedd ei fam, Rowena, yn ferch Richard Harries, Pen-graig, Cas-mael. Yntau'n briod â Serah Harries o ardal Casnewydd-bach. Roedd ei dad, Jim Harries, yn fab Melin Wern (tyddyn a melin ddŵr yn malu blawd), Cas-mael. Roedd ei rieni yntau o gylch Dinas, sir Benfro.

Wedi ymadael o'r ysgol, bu Richard Harries yn was fferm mewn amryw lefydd yn lleol. Yna, am gyfnod o 8 mlynedd, bu'n crwydro llawer fel goruchwyliwr i gwmni yn gosod gwifrau teliffon ar y ffordd fawr. Cyfnod byr wedyn yn gweithio i gwmni adeiladu. Yn 1959 symudodd ef a'i briod, Barbara, o dyddyn o'r enw Lodge, Clunderwen, i dyddyn arall o'r enw Cwm, Cas-mael, ble gwnaed y recordiad. Yn ystod y blynyddoedd hyn bu hefyd yn ymhél â llu mawr o swyddi, megis prynu a gwerthu coed, gyrru lorïau a pheiriannau, gwerthu hufen iâ, gwerthu recordiau sain, a gwerthu sglodion (gyda fan). Ond un o brif ddiddordebau J Richard Harries yw ceffylau. Bu'n cadw ceffylau bron ar hyd ei oes, ac yn eu defnyddio'n gyson i drin y tir.

Y mae'r detholiad o eitemau llafar a ddetholwyd i'w cynnwys yn y cynllun hwn, 'Aur Dan y Rhedyn', yn adlewyrchu'n amlwg iawn gred ddiysgog J Richard Harries, fel cred ei rieni a'i hynafiaid, yn y goruwchnaturiol. Y mae'r cyfan o'r hanesion a adroddir, boed yn brofiadau personol neu'n brofiadau a berthyn i aelodau ei deulu agos, wedi'u hadrodd ganddo fel un sy'n credu'n gydwybodol fod pob hanesyn yn gwbl wir. Meddai wrth adrodd profiad goruwchnaturiol a gafodd ei dad: 'Ma'r hen fobol, ran fwya, chwel, yn credu pethe. On nhw'n gweld nhw, chwel. Waniaeth â ni nawr, chwel. Ni'n trafaelu rhy gloi i weld nhw, chwel. Ma nhw gal heddi. Ma nhw gal heddi, chwel.'