'Dynion yn Cario Coffin': Dyn yn Marchogaeth Ceffyl yn Gweld Gorymdaith Angladdol (Toili) yn Dod i'w Cwfwr

Gan: John Richard Harries, Cas-mael, a'i deulu

John Richard Harries, Cas–mael
John Richard Harries, Cwm, Cas–mael, yn Sioe Abergwaun, c. 1973.

Nawr, faint odd ych oed chi pan fuodd ych tad-cu [tad eich mam] farw?
Byti chwech mlwydd wed on i. Tua chwech mlwydd oed. [Naw oed yn ôl sylw pellach.]
Dech chi ddim yn gofio fo’n deud dim straeon wthoch chi?
Nadw, on(d) dw i cofio Mam [Rowena Harries] yn gweu(d) sawl gwaith (wr)tha i. We Ta(d)-cu’n do(d) gatre – do(d) gatre, medde (h)i – un noson ... o Hwlffordd, a ’di bod yn mart Hwlffordd. Yn y gaea’ odd (h)i, chwel. Cefen ceffyl amser ’na, chwel. Odd ’im car na motobeic bach i gal pyrny, chwel. Ceffyle. Do(d) gatre ar gefn ceffyl. A just byti filltir tu fâs Casmâl – odd (h)i nosweth dywyll – welodd e ddynion yn do(d), lan trw’r hewl. A welodd e rhain yn cario coffin, mlân. Coffin, a dynion yn dilyn. A widdodd fanna, ‘Gangway please’, medde. A pan wedodd o ’na, âth y ceffyl lan ar ben claw’ ’dag e, ar ben claw’. A pan gododd y ceffyl o’r claw’, gollodd y cyfan. Welodd ’im byd. ...

Odd ych tad-cu rŵan, Richard Harries, yn gweld yr angladd ’ma?
Odd. ... Wedi bod lawr yn Hwlffordd, yn mart yn Hwlffordd, chwel. Gaea’ odd (h)i. Do(d) nôl yn hwyr yn y nos, chwel. As [achos] we Ta(d)-cu lico beint bach, chwel. Lico drink bach. O rhaid iddo cal drink bach cyn do(d) gatre, chwel. A falle bod [hi’n] un ar ddeg, deuddeg gloch y nos wedyn, chwel. ...
A, odd ar ’i ben ’i hunan, wedyn?
Ar ben ’i ’unan odd e, ie. Ben ’unan odd e.
A beth yn union welodd o, ’lly?
Wel, odd e myn(d) lawr, wel, dyna enw’r lle welodd e, lawr am ffarm o’r enw Maesyrafon. Na’r enw ffarm. Wel, ar ochor hewl. Odd e myn(d) lawr hibo Maesyrafon. A welodd e ddynion yn cerdde(d) ’da nhw. A wedyn, gang o ddynion yn dilyn yn ôl. A gwiddodd e mâs, ‘Gangway, please’, wedodd. A dringodd y ceffyl ar ben claw’ ’dag e. Âth y ceffyl lan ar ben claw’. A pan dâth y ceffyl lawr, welodd ’im byd.
Maesyrafon wedyn – yn ymyl Cas-mael?
O, Maesyrafon, byti filltir a hanner mâs o Gasmâl. Odi. Ar ffordd i Hwlffordd, chwel.
’Na chi. A’ch mam o’n deud yr hanes?
O, Mam yn gweu(d), ie. Mam yn gweu(d) hanes, ie. As [achos] on i ry ifanc, chwel. Wel, on i ry fach, on(d) marwodd Ta(d)-cu pan on i byti, ’oswch chi nawr, byti un ar ddeg od on i. Naw. Naw on i pan marwodd Ta(d)-cu, ie. A wedyn, un ar ddeg on i pan marwodd Mam-gu [mam ei fam].

Tapiau: AWC 5466-68. Recordiwyd: 29.vi.1977, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: John Richard Harries ('Dic y Cwm'), Cwm, Cas-mael, Hwlffordd, sir Benfro.
Ganed: 11.vii.1931, yn Nhroed-y-rhiw, Cas-mael. Roedd ei fam, Rowena, yn ferch Richard Harries, Pen-graig, Cas-mael. Yntau'n briod â Serah Harries o ardal Casnewydd-bach. Roedd ei dad, Jim Harries, yn fab Melin Wern (tyddyn a melin ddŵr yn malu blawd), Cas-mael. Roedd ei rieni yntau o gylch Dinas, sir Benfro.

Wedi ymadael o'r ysgol, bu Richard Harries yn was fferm mewn amryw lefydd yn lleol. Yna, am gyfnod o 8 mlynedd, bu'n crwydro llawer fel goruchwyliwr i gwmni yn gosod gwifrau teliffon ar y ffordd fawr. Cyfnod byr wedyn yn gweithio i gwmni adeiladu. Yn 1959 symudodd ef a'i briod, Barbara, o dyddyn o'r enw Lodge, Clunderwen, i dyddyn arall o'r enw Cwm, Cas-mael, ble gwnaed y recordiad. Yn ystod y blynyddoedd hyn bu hefyd yn ymhél â llu mawr o swyddi, megis prynu a gwerthu coed, gyrru lorïau a pheiriannau, gwerthu hufen iâ, gwerthu recordiau sain, a gwerthu sglodion (gyda fan). Ond un o brif ddiddordebau J Richard Harries yw ceffylau. Bu'n cadw ceffylau bron ar hyd ei oes, ac yn eu defnyddio'n gyson i drin y tir.

Y mae'r detholiad o eitemau llafar a ddetholwyd i'w cynnwys yn y cynllun hwn, 'Aur Dan y Rhedyn', yn adlewyrchu'n amlwg iawn gred ddiysgog J Richard Harries, fel cred ei rieni a'i hynafiaid, yn y goruwchnaturiol. Y mae'r cyfan o'r hanesion a adroddir, boed yn brofiadau personol neu'n brofiadau a berthyn i aelodau ei deulu agos, wedi'u hadrodd ganddo fel un sy'n credu'n gydwybodol fod pob hanesyn yn gwbl wir. Meddai wrth adrodd profiad goruwchnaturiol a gafodd ei dad: 'Ma'r hen fobol, ran fwya, chwel, yn credu pethe. On nhw'n gweld nhw, chwel. Waniaeth â ni nawr, chwel. Ni'n trafaelu rhy gloi i weld nhw, chwel. Ma nhw gal heddi. Ma nhw gal heddi, chwel.'