Rhoi'r Ysbryd Drwg mewn Bocs Matsus

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.

Gan: Leisa Davies, Tre-boeth, Gaer

Beth ydi'r hanes 'ma sy gynnach chi am y tŷ ffarm 'ma a'r ysbryd?

O, yr oedd 'ne ffarmwr a dyn da iawn oedd o. Ac un diwrnod mi ddôth 'ne sipsi i'r buarth isio rwbeth, a ddaru o 'i wrthod o. Ddim gadel iddo gael beth bynnag oedd o isio. A medde y sipsi wrtho fo, 'Mi anfona i rwbeth i chi heno.' A'r noson honno dyma nhw'n clywed ryw gynyrfiade mawr yn y tŷ. Ac mi gawson fisoedd o flinder. Mi fydde llestri yn disgyn ac yn cal 'u torri. Fedre'r wraig ddim corddi: dodd y menyn ddim yn dod. Ac yr odd 'ne bob math o bethe od yn digwydd. A'r diwedd fu, mi gawson flinder am fisoedd. A dodd 'ne ddim byd yn mynd yn iawn yn y lle. A'u bywyd nhw yn boen iddyn nhw.

A mi aethon at y Person, a mi ddôth y Person ene i roi yr ysbryd i lawr. A dene'r stori, mae'r peth yn anhygoel. Wrth gwrs, stori ydi hi. A mi roedd y peth wedi digwydd. Roedd 'ne rwbeth wedi bod yn trwblio'r lle 'ma. Nain ddudodd y stori wrtha i. Odd hi'n eneth ifanc ar y pryd. A mi ddôth y Person ene a mi weddïodd a mi gafodd yr ysbryd drwg 'ma. A fel ryw bry' mawr oedd o. A mi roth o mewn bocs matsus a mi claddodd o. Dene'r stori. 'Dach chi'n credu peth fel ene? [Leisa Davies yn chwerthin] Rhoi pry' mewn bocs matsus! Ond roedd 'ne ysbryd. Dwi ddim yn cofio enw'r ffarm ond odd o ar lafar gwlad am lawer iawn o flynyddoedd - hanes yr ysbryd 'ma. Poltergeist - be ma nhw'n 'i alw? Mae o yn bod heddiw.

Yn ble, wedyn, ma'r fferm?

Yn ochr Treuddyn.

Ych nain odd yn deud yr hanes yma?

Ia.

Mam ych ...?

Ia, mam fy nhad. ... Odd hi wedi bod yn forwyn ene, 'dach chi'n gweld. Ac wedyn odd hi'n gwybod am y peth. ...

Ond ych chi ddim yn cofio enw'r ffarm?

Nadw, fedra i mo'i chofio hi rŵan.

Tâp: AWC 4477. Recordiwyd: 30.x.1974, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwraig: Leisa Davies, 3 High Street, Tre-boeth/Handbridge, Caer.
Ganed: 14 Ebrill 1881, ym Mhen-y-boncyn, Coed-talon, ger Treuddyn, sir Y Fflint. Ganed ei mam, Elizabeth (Williams cyn priodi), a'i thad, Peter Roberts, yng Nghoed-llai, ger Yr Wyddgrug, sir Y Fflint. Bu Leisa Davies yn forwyn cyn priodi. Wedi priodi, symudodd i Gaer i fyw.

Yr oedd yn amlwg ym mywyd y capel (eglwys MC Caer) ac enillodd Fedal Gee am ei ffyddlondeb i'r Ysgol Sul. Roedd yn wraig ddiwylliedig ac eang ei diddordebau. Y ddrama oedd un ohonynt. Yr oedd Daniel Owen yn arwr ganddi hi a'i theulu, a bu'n annerch droeon ar ei fywyd a'i waith.