Llosgi un o Anterliwtiau Twm o'r Nant

Gan: Leisa Davies, Tre-boeth, Caer

Thomas Edwards, 'Twm o'r Nant'
Thomas Edwards, 'Twm o'r Nant' (1739–1810).

Dwi'n cofio un tro odd 'ne hen wraig yn byw yn yn hymyl ni ag odd gynni seler. A fydden ni'r plant - odd y seler yn rwbeth deniadol iawn i ni. Rhedeg i lawr i'r seler. A dwi'n cofio i mi ddŵad ar draws llyfr yne, a be' odd o ond - be 'dach chi'n 'u galw nhw?

Anterliwt?

Interlude Twm o'r Nant. A mi ês â fo adre. A medde mam [Elizabeth Williams], 'Lle gest ti nene?' A finne'n deud, 'Yn seler Fanny Jones.' Wyddoch chi bod hi wedi'i roi o ar y tân? 'Dach chi'n gweld, odd o'n bechod darllen interlude. A mi rhoth o ar y tân a mi llosgodd o. A rŵan faswn i wedi rhoi llawer am 'i gal o, 'ntê.

Faint oedd ych oed chi amser hynny?

O, ryw wyth ne naw.

A be ddwedodd ych mam wrthoch chi?

O, ddim byd ond llyfr drwg oedd o, 'dach chi'n gweld.

Ac yng Nghoed-talon oddech chi?

Ia.

Tâp: AWC 4477. Recordiwyd: 30.x.1974, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwraig: Leisa Davies, 3 High Street, Tre-boeth/Handbridge, Caer.
Ganed: 14 Ebrill 1881, ym Mhen-y-boncyn, Coed-talon, ger Treuddyn, sir Y Fflint. Ganed ei mam, Elizabeth (Williams cyn priodi), a'i thad, Peter Roberts, yng Nghoed-llai, ger Yr Wyddgrug, sir Y Fflint. Bu Leisa Davies yn forwyn cyn priodi. Wedi priodi, symudodd i Gaer i fyw.

Yr oedd yn amlwg ym mywyd y capel (eglwys MC Caer) ac enillodd Fedal Gee am ei ffyddlondeb i'r Ysgol Sul. Roedd yn wraig ddiwylliedig ac eang ei diddordebau. Y ddrama oedd un ohonynt. Yr oedd Daniel Owen yn arwr ganddi hi a'i theulu, a bu'n annerch droeon ar ei fywyd a'i waith.