Cofio Emrys ap Iwan (Robert Ambrose Jones, 1848-1906)

Leisa Davies, Tre-boeth, Caer

Robert Ambrose Jones, 'Emrys ap Iwan'
Robert Ambrose Jones, 'Emrys ap Iwan' (1848–1906).

O, ia, Emrys ap Iwan. Wel, dwi'n cofio dyn odd wedi mynd o ardal [Coed-talon] i fyw i Ruthun. Cadw siop jeweller yr oedd o. Ac mi ddôth i edrach am 'y nhad a sgwrshio. A sôn am Emrys ap Iwan oedd o. Odd o'n mynd i'w eglwys o. A ddarum i glywed pan oddwn i'n chware yn y tŷ. A fedrwn i ddim yn fy myw i neud o allan. Doddwn i ddim ond bechan iawn. Hwyrach chwech neu saith oed. Ac mi glywes o'n deud, 'Twrc o ddyn ydi Emrys.' A fedrwn i ddim yn fy myw ddeall be odd 'i feddwl o, 'Twrc o ddyn.' Ond, 'dach chi'n gweld, medru bod yn llym odd o, yntê. 'Dach chi'n gwbod fu 'ne helynt yn y sashiwn hefo Dr Lewis Edwards a ryw rai felly. Ond, beth bynnag, mi glywes i hanesyn amdano fo bod o'n un llym iawn. Ac yr odd o mewn sashiwn, ne rwbeth, unweth ac oedden nhw'n aros am un o'r siaradwyr i ddod. Un o'r siaradwyr ddim wedi cyrredd, ac oedden nhw'n disgwyl amdano fo. A dyma nhw'n gofyn i Emrys ap Iwan fynd i air o weddi. A dim symud na dim. Disgwyl wrtho fo. Gofyn iddo fo wedyn. Dyma fo'n codi ar 'i draed ac yn deud, 'Dw i ddim yn gweddïo i ladd amser.'
Ia. Da iawn.
A ddaru o ddim.

Tâp: AWC 4475. Recordiwyd: 30.x.1974, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwraig: Leisa Davies, 3 High Street, Tre-boeth/Handbridge, Caer.
Ganed: 14 Ebrill 1881, ym Mhen-y-boncyn, Coed-talon, ger Treuddyn, sir Y Fflint. Ganed ei mam, Elizabeth (Williams cyn priodi), a'i thad, Peter Roberts, yng Nghoed-llai, ger Yr Wyddgrug, sir Y Fflint. Bu Leisa Davies yn forwyn cyn priodi. Wedi priodi, symudodd i Gaer i fyw.

Yr oedd yn amlwg ym mywyd y capel (eglwys MC Caer) ac enillodd Fedal Gee am ei ffyddlondeb i'r Ysgol Sul. Roedd yn wraig ddiwylliedig ac eang ei diddordebau. Y ddrama oedd un ohonynt. Yr oedd Daniel Owen yn arwr ganddi hi a'i theulu, a bu'n annerch droeon ar ei fywyd a'i waith.