Cerdd Bach-y-Saint

Gan: William Rowland, Porthmadog

William Rowland
William Rowland.

Fe ddaeth yr hen Gadwalad'
       Ar gefn 'i geffyl glas,
O Griciath i Bwllheli
       I g'logi pedwar gwas.
Daeth ataf yn bur addfwyn
       A'i wep yn wên i gyd,
A ch'logais gan lwyr gredu
       Cawn i fistar clenia'r byd.

Yn fora ar ddydd Gwenar
       Cychwynnais tuag un,
I weini i Eifionnydd,
       Gan adael ardal Llŷn
I lecyn bach godidog
       A'i enw Bach-y-Saint,
Bûm yno am rai dyddiau,
       Does achos enwi faint.

Y gelltydd oedd yn sythion
       A'r cryman yn ddi-fin,
A fynta'r hen Gadwalad'
       Gŵr anodd iawn 'i drin.
Fe godai yn y bore
       A'i lepan gyda'r gwynt,
Gan weiddi, 'Codwch hogia,
       Mae hi'n chwartar wedi pump.'

Ar ôl i'r hogia godi
       A mynd â'r 'ffyla i'r dŵr,
A dyfod yn 'u hola,
       Cânt botas, blawd a dŵr.
Fe ordrai bawb i weithio,
       Gan redeg fel ar ras,
Ond un felly oedd Cadwalad',
       Gŵr calad wrth 'i was.

Mi gês fy magu gartra,
       Ni chês i 'rioed ddim nych,
Ym Bach-y-Saint eleni
       Rwy'n byw ar fara sych;
Hen bennog ar yr efal
       A hwnnw'n ddrwg 'i flas,
Ond mi wyddoch am Gadwalad',
       Gŵr calad wrth 'i was.

Ym Mach-y-Saint annifyr
       Mae gwely trwmbal trol
Lle bûm i'n treio cysgu
       Ar hanner llond fy mol.
A chig yr hen hwch focha
       Yn weidin a di-flas,
Ond fe wyddoch am Gadwalad',
       Gŵr calad wrth 'i was.

Ffarwel i dynnu rwdins,
       Ffarwel i'r gaib a'r rhaw,
Ffarwel i'r gaseg dena',
       Sy'n gorwedd yn y baw,
Ffarwel i'r tarw penwyn,
       Ffarwel i'r ceffyl glas,
Ffarwel i'r hen Gadwalad',
       Gŵr calad wrth 'i was.

Tâp: AWC 4635. Recordiwyd: 7.vi.1967, gan Robin Gwyndaf.
Canwr: William Rowland, MA, Irfon, Y Ddôl, Porthmadog.
Ganed: 1887, Rhiw, Sir Gaernarfon.
Prifathro Ysgol Ramadeg Porthmadog.
Awdur nifer o lyfrau.

Clywodd William Rowland y gân 'Cerdd Bach-y-Saint' gyntaf yn ei gartref, Rhiwlas, Rhiw, Llŷn. 'Fydda gweision, a ffermwyr hefyd, yn dod i nghartra fi gryn lawar, achos oedd fy nhad yn cadw busnes teiliwr ac yn gneud dillad - pan on i'n hogyn - i ffermwyr ac i weision ffermwyr hefyd, ac oherwydd hynny oedd sgwrs i'w chlywad am y petha 'ma, yn naturiol, yn y cartra ... Mi glywes ddarne [o'r gân] droeon yn Llŷn pan on i'n hogyn, yn enwedig 'rhen bennill:

Hen bennog ar yr efal
       A hwnnw'n ddrwg 'i flas ...

Dyna fydda'n cal 'i ganu yn Llŷn, rhyw ddarna ohoni, ac, am wn i, ar ôl dod i Borthmadog y clywis i hi'n llawn ac, fel y gwyddoch chi, mae hi yn Cerddi Eryri [1927], gan Carneddog.'

Nodir gan Carneddog mai Robert Williams, 'Robin Fawr o Fynytho', yw awdur y gerdd ac mai tua 1870 y cyfansoddwyd hi. Yn ôl William Rowland 'hen was ffarm oedd Robin Fawr, mae'n debyg, yn Llŷn ac Eifionnydd, ac un o'r llefydd cyntaf yr aeth o i weini oedd Bach-y-Saint [plwyf Llanystumdwy]. Ond fuo fo'm yno'n hir, mi symudodd i ardal Beddgelert, a fuo'n gweini wedyn yn Cwmcloch, os na fu o yn Oerddwr hefyd, fu o'n Cwmcloch, ac oedd rhywun yn dweud pan oedd o yn Cwmcloch y gnath o'r gerdd yma i Bach-y-Saint.'

Dyma, yn sicr, un o gerddi llafar gwlad mwyaf poblogaidd gweision ffermydd Llŷn ac Eifionnydd yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Cenid y gân yn arbennig i gyfeirio hefyd at rai ffermydd eraill: 'fydda nhw'n canu am ffermydd fath â Neigwl Plas a Neigwl Uchaf - rhai o ffermydd mawr Llŷn, a bydda nhw'n canu: 'Hen bennog ar yr efal' a hefyd:

Yn Neigwl Plas eleni
        Mae gwely trwmbal troll
Lle bûm i'n treio cysgu
        Ar hanner llond fy mol.

Oeddan nhw'n ffitio'r hen bennill i mewn i ffermydd eraill hefyd, yntê, yn y cyfnod hwnnw.'

Cenir y gân ar yr alaw boblogaidd: 'Gwnewch Bopeth yn Gymraeg'.

'yr hen hwch focha': 'hwch oedd yn magu moch ac yn rhoid cig moch i'r ffarm ... hwch fawr fydda mewn ffarm a fydda ganddi weithia hanner dwsin i ddeg o foch bach.'

'gwely trwmbal troll': 'Roedd trwmbal trol yn ymadrodd reit gyffredin yn Llŷn am rwbath anesmwyth. "Fel trwmbal trol ..." Fel rheol, oedd y rhan fwyaf o weision ffermydd yn adeg Robin Fawr yn sicr yn cysgu yn llofft stabal, yn llofft y beudy, neu llofft yr hoywal [hofel]. Ac yn fanno bydda'r gwely, dim ond rhyw ffrâm o wely oedd o, fel trwmbal trol, ac yn hwnnw bydda nhw'n cysgu; dyma oedd arfer yr oes ac arfer ffermydd Llŷn ac Eifionnydd yn y cyfnod hwnnw.'