Hen Stori Werin: 'Gwlad yr Enwau Rhyfedd'

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.

Gan: Serah Trenholme, Nefyn

'Stori Gwlad yr Enwau Rhyfedd', 'Stori Mistar Mistar', neu 'Stori'r Das ar Dân' - dyna'r gwahanol enwau ar un hen stori werin gydwladol. Yn y fersiwn fwyaf adnabyddus y mae gwas yn cael ei gyflogi ar yr amod y gall gofio rhibidirês o enwau rhyfedd a ddysgwyd iddo gan ei feistr newydd. Y noson gyntaf mae colsyn poeth o'r tân yn disgyn ar ben cynffon y gath a honno'n rhedeg i ben 'mowntiago' (y das wair) a'i rhoi ar dân; y gwas yn rhuthro i waelod y grisiau ac yn gweiddi ar ei feistr i godi o'i wely ar unwaith, ond yn gwneud hynny drwy ddefnyddio'r enwau dieithr yn un rhibidirês. Y rhigwm yn unig a glywodd Serah Trenholme gan ei brawd Robert. O blith oddeutu 35 fersiwn a gofnodwyd gennyf o'r stori gydwladol boblogaidd hon yng Nghymru, ei fersiwn hi yw'r unig un sy'n cynnwys tad a mab fel y ddau brif gymeriad. Mae ei fersiwn hi hefyd ar ffurf odl, ac y mae hynny eto yn anarferol. Rhoi'r das ar dân a wneir, fel arfer, ond, yn y fersiwn o Nefyn, rhoi'r tŷ ar dân a wneir.

Fy nhad, fy nhad, tafl dy ffaldidragwd [trowsus] o gwmpas dy din,
A neidia i lawr yr asan grin [grisiau],
Mae lwmp o bopololws [colsyn poeth],
Wedi syrthio ar gefn titamtwmws [y gath],
A 'blaw y refolwshion [yr efail dân],
Mi fasa'r tŷ i gyd yn fflamineshion [wenfflam].

Ceir yr amrywiaeth rhyfeddaf o enwau dieithr yn y gwahanol fersiynau. At 'ddŵr' neu 'ffynnon', fel arfer, nid yr efail dân, y cyfeirir yn y llinell olaf ond un, ac un ffurf bur gyffredin ar yr enw rhyfedd yw nid 'refolwshion' ond 'resolution'. (Am fersiynau eraill o'r stori ddiddorol hon, gweler Robin Gwyndaf, Straeon Gwerin Cymru, Cyfres Llyfrau Llafar Gwlad, rhif 10, tud. 53-4, Gwasg Carreg Gwalch, 1988.)

Tâp: AWC 3915. Recordiwyd: 29.vi.1973, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.