Hen Goel: Brathiad Neidr a John Gruffydd, Fron Olau yn Bwrw Croen ei Law

Gan: Serah Trenholme, Nefyn

Nadredd yn bwrw'u crwyn
Nadredd yn bwrw'u crwyn.

Hen, hen goel yw bod modd trosglwyddo afiechyd neu ddrygioni o un corff i gorff neu fater arall. Cofiwn am y bwch dihangol yn y Beibl ac am yr ysbryd aflan yn cael ei drosglwyddo i'r genfaint o foch Gadara. Cofiwn hefyd am yr hen arfer o geisio cael gwared ar ddefaid oddi ar ddwylo drwy eu rhwbio â malwen. Gall fod rhinwedd feddygol yn sudd y falwen, ond y cam nesaf oedd ei gosod ar bigau draenen. Fel y byddai'r falwen druan yn crino yn yr haul ac yn marw, felly, yn ôl y gred, y byddai'r defaid ar y llaw yn sychu a diflannu. Yn yr un modd, ar ôl rhwbio'r defaid â golwyth o gig moch, rhaid oedd claddu'r cig yn y ddaear i bydru.

Rhoes Serah Trenholme enghraifft nodedig iawn o'r hen gred hon o drosglwyddo'r drwg o un corff i gorff arall. Mae'r hanesyn yn gysylltiedig â John Gruffydd, fferm Y Cliff, Nefyn:

'Dwi'n cofio Mam yn deud y bydda fo'n bwrw'i groen - croen ei law - bob amser fydda neidar yn bwrw'i chroen.
"Wel, am be?" medda finna.
"Wel, oedd o wedi cael ei frathu gin neidar rywdro", meddai.
Dyna chi beth rhyfadd. Dwi i ddim yn gwybod paham, mae rhaid bod y gwenwyn yn ei groen o hyd. Mae o wedi'i gladdu ers blynyddoedd. Oedd o gin hynad â nhad, rhen greadur. ...

Pen oedd o newydd gael ei bigo, fyddan yn agor cyw iâr a hwnnw'n fyw. Peth brwnt iawn i'w wneud, mae'n siŵr, ond oedd raid ei gael o'n gynnas, dach chi'n gweld. A fyddan nhw'n agor y cyw 'ma trwy'i frest a'i roid o ar y lle roedd y neidar wedi'i bigo. Wedyn oedd y gwenwyn i ddod o'i fraich a'i law i'r cyw iâr.'

Tâp: AWC 4880. Recordiwyd: 23.iii.1976, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.