'Lloyd George for Ever': Adeg Lecsiwn yn Nefyn Ers Talwm

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.

Gan: Serah Trenholme, Nefyn

Roedd yr holl firi a rhialtwch ar adeg lecsiwn, neu ar achlysur o ddathlu, megis dyfodiad etifedd Nanhoron i'w oed, yn ddigon i greu argraff annileadwy ar gof plentyn. Prin gofio'i nain, Elin Hughes (mam ei thad) a wnâi Serah Trenholme, ond y mae'n cofio'i marwolaeth (roedd Serah tua saith oed bryd hynny), ac yn arbennig oherwydd yr hyn a ddigwyddodd y noson flaenorol.

'Dest cofio'i marwolaeth hi ydw i. Oeddwn i'n digwydd bod yn y bedrwm noson cyn iddi hi farw. A ma rhaid gin i fod 'na ryw lecshiwn yma - lecshiwn Jones Parry, Madryn, ne rywun felly. A mi oedd 'na bobol yn pashio a finna'n blentynnaidd yn sbio trwy'r ffenast a gweld tân gwyllt: polyn a weiars ar ei dop o, a rhoi cadacha am y weiars 'ma a dipio rheini mewn paraffîn, a matshian iddyn nhw. A wedyn dynion yn eu cario nhw o'u blaen o bobtu'r parêd ... Oedd 'na ddim gola yn y strydoedd bryd hynny ond lampa paraffîn yma ac acw yn benna'r stryd ... A wedyn oedd 'na bobol yn gwerthu paraffîn mewn llefydd, mi oedd rheini'n tywallt paraffîn ar y polyn iddyn nhw'n bresant - lle bynnag oeddan nhw'n mynd yn ben y strydoedd fyddan nhw'n cael tamad o baraffîn gin bawb i gadw'r trên i fynd. Tân gwyllt oeddan nhw'n ei alw fo.

... A mi dduda i chi beth arall oeddan nhw'n ei neud pen fydda Jones Madryn a rheina'n trio mynd i mewn, a pobol Nanhoron - y nhw oedd pia lot o dai, wyddoch chi, i fyny'n ochor Y Fron ffor' acw - fyddan nhw'n gola canhwylla a'u rhoid nhw ar lintal y ffenast, tua hanner dwsin o ganhwylla a gola arnyn nhw, yn bob ffenast yn y tai oedd yn perthyn i'r tirfeddiannwr 'ma.'

Wrth drafod miri etholiad gofynnais i Mrs Trenholme pa hanesion oedd ganddi am hen wraig ffraeth o'r enw 'Sara Tŷ Mawr', un o'r tai hynaf a phwysicaf yn Nefyn a thŷ sydd i'w weld eto heddiw. Roedd gofyn y cwestiwn fel agor fflodiart, ac adroddodd hanes Sara dan chwerthin yn braf.

'O! Bobol annwyl! Amsar lecshiwn dach chi isio rŵan, yndê. Fydda gin fy nhad ddefaid mewn cae yn perthyn i'r hen Sara Robaitsh, a mi fydda'r hen ddyn yn cael palu a plannu tatws mewn darn o'r Allt. A wedyn oedd o'n lwcus iawn i gael gneud, oedd 'na lond tŷ ohonon ni, blant. Ond oedd rywun wedi achwyn wrth yr hen Sara Robaitsh fy mod i yn gweiddi: " Lloyd George for ever". A be wyddwn i be oedd " Lloyd George for ever" amsar hynny, 'mond plentyn bach oeddwn i – hogan bach yn mynd i'r ysgol. A ryw ddiwrnod dyma ffrindia imi'n dod i nghyfarfod i ar y ffor' adra:

"Ma Sara Robaitsh yn chwilio amdanat ti", medda hi felna.

"Be sy arni hi isio?" me fi.

"Mae'n deud: 'Welest ti mo'r hogan 'na, hen Lloyd George mawr?' medda hi. 'Brenin mawr! be dach chi isia hi, Sara Robaitsh? Isia hi i fynd i nôl gwarthaig ichi?' " medda'r hogan 'ma'n ddiniwad. 'Naci, mae'n gweiddi " Lloyd George for ever" yn bob man.'

Wel, pen glywish i, fyddwn i'n osgoi'r hen ddynas am fy mywyd ... O! Bobol annwyl! On i wedi dychryn. A ryw ddiwrnod dyma fy ffrindia'n deud:

"Ma Sara Robaitsh yn chwilio amdanat ti."
"O, be sy?" medda finna
"Mae'n deud: 'Welest ti mo'r hogan
Gawan 'na yn rywla? Ma gin ei thad hi datws yn fy nghae fi, ichi', " medda hi felna. A mi oedd hynny'n golygu isio nhad dynnu'r tatws o'r cae am mod i'n gweiddi 'Lloyd George', mae'n siŵr, dach chi'n gweld. Tori oedd hi, yndê, a finna'n gweiddi " Lloyd George for ever" - Liberals mawr oeddan ni bob amsar ...

Beth bynnag i chi, dyma fi yn rhedag adra.
"O, mae Sarah Robaitsh yn chwilio amdana i", medda fi wrth fy nhad.
"Chwilio amdanat ti?"
"Ia, mae'n deud bod gin ei thad hi datws yn ei chae hi." Wel, dyma nhad yn clywad y stori. Dyma fo yno, ddim i'r tŷ ond at y mab.
"Wnei di ddeud wrth dy fam y tynna i'r tatws o'r cae ac y gna i gau'r bwlch ar fy ôl!"
Wel, dyma'r hen ddynas yn dod acw dan grio a deud:
"Peidiwch â gneud Gawan Huws, peidiwch â gwrando, yr hen hon a hon ddaru ddeud wrtha i am neud."
(Wna i mo'i henwi.) Toedd pobol yn ddiniwed ersdalwm. Am ddim ond gweiddi "Lloyd George for ever".'

Tâp: AWC 1979. Recordiwyd: 23.x.1968, gan Robin Gwyndaf.
AWC 4880. Recordiwyd: 23.iii.1976.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.