Coetshys Nefyn

Gan: Serah Trenholme, Nefyn

Brêc y Crown, Pwllheli
Brêc y Crown, Pwllheli, yn llwytho o flaen y Nanharan Arms, Nefyn, tua 1890.
'Hevina', ym Mwlch Llanberis, 1924
'Hevina', ym Mwlch Llanberis, 1924. Y shiarabang gyntaf yn Nefyn gyda gwynt yn yr olwynion.

Roedd cof byw gan Mrs Sarah Trenholme am y Goets Fawr yn dod o Bwllheli:

'... y dreifar efo het silc, lwyd, a côt lwyd amdano, a dyn efo corn mawr, hir, tu nôl. A phen oeddan nhw'n cyrraedd Nefyn i fyny'n ymyl Hobwr [fferm Holborn] mi fydda'r hen gorn yn cael ei chwythu a ninna fel plant yn rhedag i lawr i weld y fisitors, a rheiny'n taflu dimeua a ceinioga i ni. Ninna'n gwirioni'u cael nhw, yntê, yn blant bach. Fydda dima'n werth llawar iawn ersdalwm i ni. Brenin annwl, bydda!'

Cofiai am ddau ŵr oedd yn 'rhedag coetsh' yn Nefyn. Robat Robaitsh oedd un, 'Robat y Goetsh', fel y câi ei alw, 'mab yr hen Wiliam Robaitsh, y Gof'. Byddai 'Coetsh Robat' yn 'cychwyn o Nefyn am wyth o'r gloch ... o Ben-isa'r-dre ... wedyn fydda yn Bwllheli tua naw efo un ceffyl - "car wyth" fyddan ni'n ei alw fo ... a dod nôl tua pump.'

Gan Siôn Elias, Pen Palmant, yr oedd y goets arall. 'Car ddau' oedd hon, yn gadael am Bwllheli am ddau o'r gloch ac yn dychwelyd i Nefyn tua wyth. Roedd Siôn Elias yn flaenor yng Nghapel Soar, yr Annibynwyr, 'yr hen greadur ... a phen fydda fo ar ei linia yn sêt fawr, dyna lle bydda fo'n sbio – edrach fydda 'na rywun diarth yno. A wedi iddo fo godi i fyny, fydda fo'n cyhoeddi: "Cofiwch am ych cyfraniada, rhowch nhw yn yr enlops bach glas." '

Tâp: AWC 1979. Recordiwyd: 23.x.1968, gan Robin Gwyndaf.
AWC 1983. AWC 4880. Recordiwyd: 23.iii.1976.
Llsg.: AWC 2186.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.