Difyrwyr Pen Stryd yn Nefyn: Dyn ac Arth; 'Wil Bwrw Glaw'; a 'Jac Llan' a'i Glepars Esgyrn

Gan: Serah Trenholme, Nefyn

'Jac Llan' (John Jones, Llan Ffestiniog)
'Jac Llan' (John Jones, Llan Ffestiniog).

Bydda'r 'cierddwrs gwlad', fel band-un-dyn Williams Parry ac I D Hooson, yn ymddangos yn annisgwyl o rywle ac yn diflannu yr un mor sydyn. Felly, yr un modd, y cymeriadau hynod hynny a ymwelai â Nefyn i ddifyrru pobl ar y stryd. A difyrwyr heb eu hail oeddynt. Am dri o'r perfformwyr hyn y mae Serah Trenholme yn sôn yn awr.

Dyn o wlad bell oedd un ohonynt - o'r Eidal, neu Rwsia, neu 'rywla'. A dyma ddisgrifiad byw Serah Trenholme ohono, a hithau'n chwerthin yn aml wrth ddweud yr hanes.

'Fydda 'na ryw hen ddyn yn dod rownd efo arth ... A fydda'r hen arth 'ma'n codi ar ei dau droed ôl, a mi oedd gynni hi golar am ei gwddw a tshiaen yn sownd yn y golar gin y dyn, yndê. A fydda fiw i neb fynd yn agos ati, oedd gwinadd mawr gynni hi - fyddan ni ei hofn hi'n ofnadwy iawn. A mi fydda'n sefyll i fyny fel hyn a'r hen ddyn yn canu:

"Dro nain, dro nain, dro na-na-na-nain,
Dro na-na-na-na-na-na-nain,
Dro nain, dro nain, dro na-na-na-nain."

[Saesneg: Draw nigh? ] Ac ar ôl iddo orffan canu: " Lie downa on the grownda like a sgol a bwysa! " medda fo wrth yr arth, ac oedd yr hen arth yn gorwadd ar ei hyd ar lawr a'i thraed i fyny. A'r plant isio mynd ati. " Oh! don't touch!" medda'r hen ddyn, "she will scratch." Ond be fyddan ni'n neud wedyn, mynd adra i nôl sach; clymu dwy glust fel hyn ar y sach a tun samwn yn drwyn, a gwneud arth. A mynd tan ganu, 'run fath â'r hen ddyn. Felly fydda plant yn chwara. On ni'n cael lot o hwyl, fel plant.'

Cymry glân gloyw oedd y ddau berfformiwr arall, ac yn Nhŷ Twm Nain y bydden nhw'n cysgu pan godai'r awydd arnynt i ymweld â Nefyn. Perthynai'r ddau i'r dosbarth pwysig hwnnw gynt o gymeriadau diddorol a grwydrai ffair a marchnad, pentref a thref, i ganu hen gerddi a baledi.

'Wil Bwrw Glaw' oedd un ohonynt, yn ei het fowlar, ac un fraich ganddo, yn chwarae cornet. Cafodd yr enw hwnnw oherwydd ei bod yn bownd o fwrw glaw bob tro y gwelech ef - neu, o leiaf, dyna'r sôn! 'Jac Llan' oedd y cymeriad arall - John Jones, a rhoi ei enw parchus iddo, o Bant Llwyd, Llan Ffestiniog.

'Mi fydda'n canu ac yn chwibanu ac yn chwara clepars wedi'u gneud o ddau asgwrn, ac yn mynd rownd y strydoedd ... Mi ddaetha ar hyd y stryd yma [Stryd y Plas] ac i lawr Stryd Llan ac i fyny Pen-isa'r-dre, ac yn ei ôl i ben fanma. A mi oedd o mor ddiniwad, wydda fo ddim na'r un stryd oedd hi! Fydda'n mynd i lawr yn ei ôl wedyn. "Diar annwyl! mae 'ma le mawr 'ma," medda fo. Gwatar [dynwared] bands fydda fo - bands Stiniog. A fydda'n mynd felly, ond bod y clepars 'ma gynno fo: clec, clec, clec.'

Un o'i hoff ganeuon oedd 'Hen Brocer Bach Gloyw fy Nain'.

'A fydda dipyn bach o ryw 'f' gynno fo:

Dwy flynadd af bymtheg af hugain
Foedd yf hen brocaf yn loyw a glân ...'

Roedd un o'i ganeuon eraill yn cynnwys y llinellau:

A'f ceiliog yn canu cyn brecwast,
Hen geiliog bach digfi oedd hwn.

Yn rhifyn 18 (Gaeaf 1987-8) o'r cylchgrawn Llafar Gwlad rhoes Emrys Evans, Y Manod, Blaenau Ffestiniog, bortread byw iawn o'r hen gymeriad hoffus hwn a âi o le i le i 'gadw consart', chwedl yntau. Asennau tarw neu eidion oedd ei glepars, wedi'u 'glanhau, eu torri a'u caboli'. Roedd ganddo ffliwt hefyd, a defnyddiai honno'n arbennig i ofyn i'w gynulleidfa am ddistawrwydd. Un o'i hoff ganeuon oedd 'The Man who Broke the Bank at Monte Carlo', gyda Jac yn ychwanegu geiriau Cymraeg fel y mynnai, gan na ddeallai ond ychydig o Saesneg. Ni fu gan neb erioed o'r blaen lifrai mwy lliwgar: côt goch a honno'n llawn gram o fedalau a bathodynnau o bob lliw a llun, a het bres loyw, wedi'i gorchuddio â phlu gwyn. Yn yr het hon y rhoddai pobl eu ceiniogau pan fyddai'r hen Jac wedi gorffen ei berfformans.

Tâp: AWC 1981. Recordiwyd: 23.x.1968, gan Robin Gwyndaf.
AWC 4637. Recordiwyd: 12.vi.1975.
AWC 4881. Recordiwyd: 23.iii.1976.
Llsg.: AWC 2186.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.