Siopau yn Nefyn Gynt a Chyfoeth Iaith

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.

Gan: Serah Trenholme, Nefyn

Awn am dro yn awr yng nghwmni Mrs Serah Trenholme heibio i rai o'r siopau diddorol a oedd yn Nefyn pan oedd hi yn blentyn. Drwy wneud hynny, cawn hefyd unwaith eto flas ar beth o gyfoeth yr iaith lafar.

Cedwid un siop gan Elin Hughes, ei nain. Cyfeirid ati fel 'Hen Wraig Siop Bach'. Yn ddiweddarach bu'n cadw 'Siop Tan y Groes'. Roedd un siop yn Nefyn ag iddi ddau enw: 'Siop Siân' a 'Siop Lestri'. Siân Jones oedd yr 'hen gryduras' a gadwai'r siop hon, gwraig grefyddol iawn. Ar ddydd ei chynhebrwng fe ddywedodd y pregethwr o'r sêt fawr ei bod hi 'wedi darllan ei Beibl un ar ddeg o weithia'.

Cofiai Serah Trenholme am 'Siop y Maes' ac am hanes ei mam yn mynd yno un diwrnod i

'nôl dipyn o galico pen oedd y plant yn ifanc iawn.
        "Faint ydi hwnnw, 'sgwelwch chi'n dda?" medda hi wrth y siopwr.
        "Pumrot", medda'r hen ddyn.' [Sef 20 ceiniog, 5 x 4 o'r hen arian: pum grôt.]

O Siop y Maes i siop fechan ddiddorol arall yn Y Fron, 'heb ddim cowntar dest, dim ond ryw fymryn bach i ddal y clorian'. Hen wraig o'r enw Mari Robaitsh oedd yno, yn byw 'mewn tŷ bach o dan Goed y Dderwan'. Byddai Serah Trenholme wrth ei bodd yn mynd yno i'w gweld yn gwneud 'torth gierch' a'i chrasu ar radell uwchben y tân. Yna byddai'n ei 'sigo hi fel het' a'i rhoi 'i sefyll o flaen y tân i sychu trwyddi ... neu fe fydda hi run fath â staes fydda gin ledis ersdalwm! ... A wedyn fydda'n rhoi pysl ichi: "Fedri di ddeud be 'di hwn:

Ladi wen lân
Yn eistedd wrth tân,
Heb figwrn nac asgwrn
Na thropyn o wâd!" '

A'r ateb wrth gwrs: torth geirch. Yr enw gan Mari Robaitsh ar y llwyfan i ddal y bara ceirch oedd 'stwnd' [stand].

A'r siop olaf yr awn am dro iddi yw siop fechan ym Mhen Bryn Glas, yn agos i gartref Mrs Trenholme. John Rowlands oedd enw'r siopwr yno, a'i frawd yn gwerthu glo. I'r siop hon yr âi'r hogan fach i nôl

'gwerth dima o finceg [mint cake] ... da-da ... taffis bach, dau am ddima ... Oeddan ni'n mynd i Siop John Rowlands i nôl rwbath fydda gynnon ni isio. A fydda'r hen siop yn gorad tan ddeg yn nos, yn amal iawn. Fydda ddim ots faint, yndê, ersdalwm. Gola bach ar lamp yn hongian wrth ben y cowntar felna ... A mi fydda'n dda, cofiwch. Fyddwn i wrth fy modd yn mynd yno. A mi fydda gynno fo le ar y wal fel hyn ... mashîns bach ... fydda triog yn un a syryp yn y llall, a ddim ond iddo fo roid tro fel hyn yn yr handl a fydda'r triog yn disgyn i bot jam fyddan ni'n mynd yno hefo ni, ne bowlan. A'r un fath efo'r syryp. Welish i ddim un siop erioed ond y fo yn gwerthu petha felly, yn lle bo chi'n eu prynu nhw mewn tuniau ... Os bysach chi isio neud taffi ne rwbath felly, 'mond mynd yno a gofyn am gnegwerth [ceiniogwerth] o driog, neu gwerth dwy geiniog o driog gin John Rowlands.
Y negas [fel arfer] fydda shwgwr a menyn a te a blawd a lard a reis a chig moch a dwy owns o faco i nhad. A fydda'r cwbwl yna i gyd i'w roi ar yn bil. A wedyn: "Dos i nôl gwerth dima o bupur i Siop John Rowlands i mi, wnei di?" Oeddan ninna'n mynd. A fyddan ni wrth ein bodd yn gweld yr hen John Rowlands yn ystyn efo ryw hen lwy bach ryw fymryn ohono fo a'i roid o ar bapur, ac yn plygu'r papur 'ma neishia welsoch chi 'rioed.
"Wyddost ti be?" medda fo, "ma 'na dri pheth i'w gael am ddim."
"Be ydyn nhw, felly, John Rowlands?"
"Pupur a phapur ac eda bacio", medda fonta.'

Tâp: AWC 1981. Recordiwyd: 23.x.1968, gan Robin Gwyndaf.
AWC 4880. Recordiwyd: 23.iii.1976.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.