Llongddrylliad y 'Stuart' a'r Daith Fythgofiadwy

Gan: Serah Trenholme, Nefyn

Llongddrylliad y 'Stuart'
Llongddrylliad y 'Stuart' ar greigiau Porth Tŷ Mawr, bore Sul y Pasg, 1901.

Ar fora Sul y Pasg, 1901, llongddrylliwyd y 'Stuart' ar greigiau Porth Tŷ Mawr. Llong yn cario cargo cymysg oedd hon wedi cychwyn y dydd Gwener blaenorol o Lerpwl am Awstralia. Mae hanes y llongddrylliad bellach yn rhan annatod o lên a llafar Llŷn ac Eifionydd. A dyma un atgof gan Mrs Serah Trenholme (er mai at fynd i 'Borth Golmon', ychydig filltiroedd i'r de o Borth Tŷ Mawr, y sonia hi).

'Dwi'n cofio oedd ffrindia imi oedd gin ei brawd hi ryw gar a cheffyl bach – dim ond sêt i ddau i ista ynddo fo.

"Fasat ti'n licio dod efo fi i Borth Golmon, mond swllt sy isio iti dalu," medda hi wrtha i. Ac oedd hi'n drafferth cael swllt gin Mam, cofiwch, ganol yr wsnos felly, achos chydig iawn o gyflog oeddan nhw'n gael yn y chwarelydd.

"Ga'i swllt Mam, i fynd i Porth Golmon, mae pawb arall yn cael mynd ond y fi." A mi gês.

A wedyn roeddan ni'n gorfod ista ar yn cwrcwd yn gweulod y car y tu nôl, yn dwy, i fynd yno. A chi'n mynd am ffordd Aberdaron, a wedyn dach chi'n troi am y môr. Fuoch chi yno erioed? Do? ... Wel, mynd i lawr i lan y môr, yntê, dyma gadw'r ceffyl mewn ryw stabal. A dwi'n cofio fi'n methu cael hyd i'r stabal ac yn dechre crio wrth ddod i fyny ...

"Be sy arnoch chi?" medda ryw ddyn wrtha i.

"O, dwn i ddim lle ma'r bobol, ma gynno fo gert mewn ryw stabal yma", medda fi. A mi welwn nhw'n dwad i fy nghyfarfod i mhen sbel, a finna wedi cael potal fawr a wedi mynd â hi odan fy nghesal felna. Dwn im be oedd ynddi na dim. Fuo yn cwpwr gynnon ni ar hyd fy oes, am wn i - oedd gin Mam ofn ei hagor hi, achos wydda hi ddim be oedd ynddi, yn na wydda.

Ond oeddan nhw'n deud mai spirits oedd o, oedd pobl yn eu hyfed nhw ac yn feddw chwil ar ben yr allt, uwchben y môr. Oeddach chi'n gweld pobl yn gorfadd yno a chwrnu cysgu, wedi bod yn yfed poteli stowt [= wisgi?] oedd yn dod i'r lan o'r llong 'ma. A mi oedd 'na bob math o lestri'n dod. Ma gin lot o bobol yn Nefyn lestri wedi dwad oddi ar yr hen long yn Borth Golmon. Dwi'm yn cofio enw'r llong ychwaith, ond anghofia'i byth ei siâp hi ... ar ôl gweld llun ohoni. Oedd hi run fath yn union â welsach chi bishyn o gacan, felna, wedi'i dorri, yndê, a hwnnw wedi bystio allan fel hyn, a cesys mawr yn sticio allan ohono fo.'

Tâp: AWC 4881. Recordiwyd: 23.iii.1976, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.