Galwad y Môr

Gan: Serah Trenholme, Nefyn

Un o longau hwyliau Nefyn
Un o longau hwyliau Nefyn: y 'Linus', 1857.
Codi'n fore fory
I glywed y gloch yn canu,
I hwylio'r llong i frig y don,
A'i henw 'Capten Parry'.

Dyna bennill o 'hen gân fôr' yr arferai llongwyr Nefyn ei chanu, yn ôl Serah Trenholme. Clywodd llawer o'r hogia dinc y gloch hon ac ymateb i'w galwad i godi angor a hwylio'r tonnau. Ond er crwydro ymhell o lannau Llŷn, roedd eu bryd bob amser ar ddod yn ôl.

Ambell dro, fodd bynnag, roedd yr hen fôr mawr yna yn drech na'r morwr mwyaf profiadol, a dyma un hanesyn trist gan Serah Trenholme i'n hatgoffa yn fyw iawn o'r colledion fu ar y môr. Hanes ydyw am un o blant fferm Y Wern, Nefyn, hogyn un ar bymtheg mlwydd oed.

'Mi oedd gynnyn nhw hogyn bach yn Y Wern, John, a mi oedd o'n llanc i gyd isio mynd i'r môr. A mi fydda hogia Nefyn 'ma - tydyn nhw ddim rŵan - i'r môr oeddan nhw'n mynd i gyd. Fydda waeth ichi heb â thrio iddyn nhw fynd i nunlla arall, mond i'r môr. Ac oedd llawar iawn ohonyn nhw wedi troi allan yn gapteiniaid llonga mawr iawn ac i ffwrdd yn Canada a bob man. ... Ond thala dim byd gin John bach 'ma ond mynd i'r môr, medda Mam. Oeddwn i'n rhy ifanc, ond roedd plant hynach na fi [ei brodyr] yn ffrindia mawr efo fo. A dyma fo'n deud: "Wyddoch chi be dwi wedi neud cyn mynd i'r môr, erbyn imi ddod adra? Rydw i wedi claddu potelaid o gwsberis o'r ardd a wedi rhoid nhw yn y dduar, a pidiwch â mynd yno i durio, cofiwch, rac ofn ichi dorri'r botal."

Wedyn oedd yn plant ni'n gwybod yr hanas yn iawn, yndoeddan. Bydda 'na ddim ond coetsh bump o'r gloch a car wyth yn dwad o Bwllheli i Nefyn ersdalwm, cyn y bysus ... a mae'n siŵr mai efo car wyth oeddan nhw'n ei ddisgwl o ar ôl iddo fynd i'r môr tro cynta. Oeddan nhw [h.y. plant Y Wern a'u ffrindiau] wedi dod i Ddôr Ddu er mwyn bod yn nes at John pen fysa fo'n dwad orwth car wyth ... a disgwl a disgwl am John fuon nhw. Ac yn y diwadd mi aeth y plant adra, oedd o mor hir yn dwad. ... Ond bora wedyn pen gododd y plant yn Ddôr Ddu, dyma nhw'n clwad bod John wedi boddi ar y ffor' adra.'

Tâp: AWC 4880. Recordiwyd 23.iii.1976, gan Robin Gwyndaf.
Llsg.: AWC 2186/15.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.