Penwaig Nefyn

Gan: Serah Trenholme, Nefyn

Pysgota Penwaig yn Nefyn
Pysgota Penwaig yn Nefyn, tua 1907.

Yn ôl Mrs Serah Trenholme, 'mi fydda 'na hen ddywediad' fod pysgotwyr Nefyn un tro wedi dal cymaint o bennog fel y bu raid eu 'rhoid nhw ar y ceua i wneud tail, eu taenu nhw hyd y ceua - Penrallt (Pen yr Allt on nhw'n galw pen y môr), a cheson nhw byth gymaint o helfa wedyn ar ôl hynny.' Gofynnais pam. A dyma'i hateb. 'Wel, meddwl ydw i eu bod nhw wedi pechu yn erbyn y Bod Mawr oherwydd eu bod nhw wedi'u taflud nhw, yn lle'u rhoid nhw i fyta i bobol ... Toedd y pum torth a'r ddau bysgodyn oedd Iesu Grist yn rannu ersdalwm i'r dorf yn werth eu cael, yndôn?'

Roedd Serah Trenholme wrth ei bodd yn actio ar lwyfan, a chofiai wisgo fel pysgotwr a chanu ar yr alaw 'Caller Herrings' eiriau a gyfieithwyd i'r Gymraeg o hen gân Albanaidd.

Prynwch Benwaig Nefyn,
Ni fu eu bath am dorri newyn,
Prynwch Benwaig Nefyn
Newydd ddod o'r môr.
A chwi bob un yn cysgu'n dawel,
Heb un sôn am fôr nac awel,
Wrthi roeddyn ni heb gysgod
Ar y môr yn hela'r pysgod.
Prynwch ... (ailadrodd y pedair llinell gyntaf)

Ond os actio pysgota a wnâi'r chwaer, pysgota'n go iawn y byddai ei brodyr, neu helpu pysgotwyr eraill. 'Duwc annwyl! fydda'r hogia yn dwad â llond sach o benwaig adra.' Bryd hynny byddai eu mam yn eu

'rhoid nhw mewn picl ... rhesiad o benwaig wedi'u llnau oddi mewn iddyn nhw gynta a torri'u penna nhw, os liciach chi. A wedyn tunelliad [taenelliad] o halan, a pennog ar ben hwnnw wedyn nes bydda nhw wedi llenwi'r casgia efo nhw. Ac felly bydden nhw yn cael pennog hallt at y geua.

A fydda rhai pobol yn neud pennog coch. On nhw'n llosgi rhedyn i fyny'n y simdda ac yn hongian y penwaig. Dwi'n cofio un yn gwneud hynny yn Y Fron pen on i'n hogan bach. Fyddwn i wrth fy modd yn cael mynd yno i fusnesu, fath â fydd plant.'

Nid penwaig oedd yr unig bysgod i'w dal ym Mae Nefyn! A dyma bwt o gân am anturiaethau rhai o bysgotwyr a chymeriadau'r fro i brofi hynny. Cyfeiriad sydd ynddi at ddal 'ci môr', pysgodyn mawr sy'n perthyn i deulu'r siarc. Cenid y gân ar yr alaw adnabyddus a adwaenir fel 'Hob y Deri Dando', 'Hob y Derri Danno', a 'Siân Fwyn'.

Huw Jac Huws a Guto'r Felin,
       Hob y deri dando,
Ddaliodd siarc ar gamlas Nefyn,
       Dyna ganu eto.
'John Snob Jones' oedd yno'n ffrisgi,
       O'r fwyn Siân,
Â'i dop côt a'i botel wisgi.
Siân fwyn, a ddoi di i'r llwyn
I seinio'n fwyngu, Siani bach fwyn?
Siân fwyn, a ddoi di i'r llwyn
I seinio'n fwyngu, Siani bach fwyn?

At Tomos Dafis, 'Twm Nain', nid at 'John Snob Jones', y cyfeiria'r bumed a'r seithfed linell yn y fersiwn ddiddorol a glywodd Gwilym Evans:

Tomos Dafis a'i gasag dena,
       O'r fwyn Siân,
Ddaeth yn fore i'w gasglu adra ...

Soniodd hefyd fel y bu'r siarc (a oedd rhwng deuddeg a phymtheg troedfedd o hyd) yn cael ei arddangos ar draeth Nefyn am rai dyddiau nes yr aeth i ddrewi.

Tâp: AWC 4637. Recordiwyd 23.vi.1975, gan Robin Gwyndaf.
AWC 1983. Recordiwyd: 23.iii.1976.
Llsg.: AWC 2186/15.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.