Y Ni a Nhw: Rhigymau Plant Nefyn am y Gwahanol Enwadau

Gan: Serah Trenholme, Nefyn

Y Parchg Tom Nefyn Williams
Y Parchg Tom Nefyn Williams.

Yn Nefyn, fel mewn trefi a phentrefi eraill, yr oedd peth tynnu coes rhwng plant (ac weithiau oedolion) y gwahanol gapeli ac enwadau. Gwyddom yn dda am y rhigymau difyr (a deifiol!) hyn ar bwnc y 'ni' a 'nhw'. Amheuthun i mi, fodd bynnag, oedd clywed gan yr un person rigymau am bob un o'r prif enwadau Anghydffurfiol mewn un pentref. Ond dyna a glywais gan y wraig fyrlymus o Nefyn, Serah Trenholme, 'rhigymau gwirion', fel y galwai hi hwy. Dylwn ychwanegu mai herian digon diniwed ydoedd, fel arfer, a bod cyfeillgarwch amlwg yn bodoli cyd-rhwng plant ac aelodau hŷn y gwahanol gapeli. Câi'r rhigymau eu hadrodd a'u llafarganu 'o ran hwyl ... dim ffraeo na dim'.

Dechreuwn, felly, gyda rhigwm sy'n bur gyfarwydd, sef yr un am y Methodistiaid Calfinaidd a fynychai'r Capel Isa yn Stryd y Ffynnon.

Methodistiaid creulon, cas,
Mynd i'r capal heb ddim gras;
Gosod seti i bobol fawr
A gadael tlodion ar y llawr!

I Gapel Soar, yr Annibynwyr, yr âi Mrs Trenholme a'i theulu, a dyma ddywediad amdanyn nhw:

Capal Soar yn sorri,
Merchaid bach yn pori!

Ac am y Wesleaid, Capel Moreia, dyma'r druth:

Capal Wesla wislyd,
Mochyn yn y pwlpud!
Hwch yn pregethu
A mochyn yn brathu!

Weithiau ychwanegid yr enw 'Robin' yn lle 'mochyn' yn y llinell olaf. Saif Capel Moreia ger Neuadd Madryn. Roedd hen gapel yno o'r un enw cyn adeiladu'r neuadd.

I roi pen ar fwdwl yr herian enwadol hwn, trown at y Bedyddwyr yn hen Gapel Y Fron i 'fyny'r allt o dan Y Garn'. Fe'i dymchwelwyd, a defnyddiwyd ei gerrig i adeiladu tŷ o'r enw Edeirnion. Roedd dau rigwm am y capel hwn. Un ohonynt oedd:

Capel Y Fron
Newydd sbon!

A'r llall:

Capal Batus, gwirion gam,
Yn ordro fi i guro mam,
A finna'n hogyn bach mor ffôl
Yn curo mam efo troed y stôl.

Tâp: AWC 3915. Recordiwyd 29.x.1973, gan Robin Gwyndaf.
Llsg.: AWC 2186/15.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.