Rhigymau o Ardal Nefyn

Gan: Serah Trenholme, Nefyn

Serah Trenholme pan oedd yn brif swyddog gyda'r Groes Goch
Serah Trenholme pan oedd yn brif swyddog (commandant) gyda'r Groes Goch yn ystod 1939–45.

Neli oedd enw un o chwiorydd Serah Trenholme, a phe byddai'r chwaer hon wedi 'pechu' yn erbyn y plant eraill, gwaeddent arni i'w herian:

Neli Bili Riddy,
Het a chorun digri.

Ni wyddai Serah Trenholme pwy oedd Bili Riddy, ond dyma fersiwn arall a glywais gan Mrs Kate Roberts, Rhos-lan. Arferai hen rigymwr o'r enw John Jones, Gyfyng, Cwm Pennant, adrodd rhyw rigmarôl fel hyn wrth Beti, chwaer Mrs Roberts:

Beti Bwt y standi,
Het a chorun digri.

Dyma enghreifftiau pellach o'r rhigymau y gallai Mrs Trenholme eu hadrodd ar lafar.

Hen ŵr o Nefyn aeth am dro
Lawr y rhiw i Efail y Go,
Erioed ni welodd beth o'r fath
Dic y Go'n pedoli'r gath!

Dacw dŷ, dacw do,
Dacw Efail Harri'r Go;
Dacw efail, dacw siop,
Dacw Gymru! Stop, stop, stop!

Hanner pwys o sebon grôt,
Hanner pwys o driog;
Dyna fel mae'r byd yn mynd -
O! 'rhen sopen ddiog!

Jonathan, John a Solomon Saul,
Jeremy, Jac a Lasarus Paul,
Shadrach, Mesach, Malachi Nad,
Josua, Simon a Timothy Pad.

Pan fyddai'r lleuad yn olau, dyma'r pennill fyddai'n cael ei adrodd:

Lleuad bach yn ola,
Plant bach yn chwara,
Lladron yn dwad
Tan wau sana.
Amen, medda'r ffon,
Dygud dau swllt o siop John.
John, John, gymeri di gin?
Cymeraf, cymeraf, os ca'i o am ddim!

Mae'r geiriau 'gin' a 'ddim' yn enghraifft deg o odl Wyddelig, sef odli'r llafariaid, ond nid y cytseiniaid - nodwedd gyffredin mewn barddoniaeth lafar.

Coiminero cil y cero coimo,
Hib i jib ji,
Hib i jib jo,
Can you get out of that.

Clywodd 'hogia llongwrs Nefyn' yn canu'r rhigwm neu'r gân hon. Mae'r llinell olaf yn awgrymu hefyd iddi gael ei defnyddio gan blant wrth chwarae. Ceir amryw fersiynau a sawl damcaniaeth ynghylch ei tharddiad. Dywed rhai mai cenhadwr, du ei groen, ddaeth â'r gân draw i Gymru. Dyma un fersiwn a glywodd Mrs Nellie Jones, Uwchmynydd, gan filwr o Wlad Belg adeg Rhyfel 1914-18 (Tapiau AWC 1996-98).

Coi mi nero cil mi cero,
Coi mi nero coimi;
Strim, strim, strama,
Tidl ara bona, ring ting,
Ricina bwni mina coinmi.

Holi ac ateb sydd yn y rhigwm nesaf, a hwnnw'n holi ac ateb arbennig o ddiddorol mewn cymysgedd o Gymraeg a Saesneg. 'Dyn ar y stryd yn y farchnad yn Pwllheli' sy'n cyfarch y 'gydwngan' (good woman), sef y wraig a'r iâr, a honno (hynny yw, y wraig! - a'r iâr hefyd, am a wn i!) yn uniaith Gymraeg. Fe welwch ar unwaith mor glyfar yw'r amwysedd geiriol: hen (iâr); fat (tew) - ffat (cweir).

'How di do, gydwngan,
Hen wraig o sir Gaernarfon?
What pris of hen?'
'Nid hen mohoni,
Cywan a fagis i leni.'
'Oh! it's very fat.'
'Rho di ffat i mi,
Aiff Siôn i'r dre fory
I roi ffat am ffat i titha!'

'Hen wraig o blwyf Llanengan' yw'r fersiwn a roes Serah Trenholme i'm cydweithiwr, D Roy Saer, pan recordiodd hi yn 1964 (Tâp AWC 830). Ni chlywais mo'r rhigwm hwn gan neb arall. Ond dyma un rhigwm a gofiai Mrs Manon Wyn Griffiths, Llansadwrn, Môn. Clywodd ef gan ei mam, Mrs Grace Hughes, a aned ym Mhwllheli.

'How d' ye do, good woman,
Hen wraig o sir Gaernarfon?
How d' ye like my cotton 'n gown?'
'Oh! very well and plenty!'

Ac i gloi dyma bennill sy'n gysylltiedig ag arferion gwerin. Canai ac adroddai Serah Trenholme y llinellau fel un pennill, ond y mae'n dra phosibl fod y ddwy linell gyntaf yn bodoli hefyd gynt fel uned ar wahân.

Gŵyl Fair Forwyn, dechrau'r gwanwyn,
Pricia pwdin Gwragedd Nefyn.
Gwraig y tŷ o deulu da,
Os gwelwch chi'n dda ga'i grempog?
Lwmp o fenyn melyn mawr
Yn mynd i lawr yn llithrig,
Tamaid i'r ci bach, tamaid i'r gath bach,
A chic i Jolly dan y gwely tan nos fory!

Cyfeiriad sydd ar ddechrau'r pennill at hen Ŵyl Fair y Canhwyllau ar 2 Chwefror, gŵyl a gysylltid gynt â phuredigaeth y Forwyn Fair. Roedd hen arferiad i oleuo canhwyllau ar y dyddiad hwn, ac mewn cyfnod diweddarach daeth y canhwyllau yn arwydd o ddyfodiad y gwanwyn. Dyma esboniad Serah Trenholme ar y term 'pricia pwdin': 'Pan yn sôn am bric pwdin byddai'r hen Gymry y ffordd yma yn berwi pwdin mewn crochon, a gan fod gwaelod crochon yn ddi-siâp rhôi'r gogyddes ddau ddarn o bren yn groes ar waelod y crochon o dan y pwdin i'w gadw yn wastad.'

Tâp: AWC 1981. Recordiwyd 23.x.1968, gan Robin Gwyndaf.
AWC 1983. Recordiwyd: 23.x.1968.
AWC 3915. Recordiwyd: 29.vi.1973.
AWC 4881. Recordiwyd: 23.iii.1976.
Llsg.: AWC 2186.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.