Ysgol Nefyn, Cân yr Wyddor, a Siôn Parri-Ty'n Cae-Hel-Plant-i'r-Ysgol

Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru
Y casgliad tapiau yn Amgueddfa Werin Cymru.

Gan: Serah Treholme, Nefyn

Mr Williams oedd enw'r prifathro yn Ysgol Nefyn, y 'Board School', pan oedd Serah Trenholme yno'n ddisgybl, ac yr oedd Mrs Williams hithau yn athrawes yno. Hoff ddileit Serah yn ferch fach oedd canu, ac roedd hi wrth ei bodd un diwrnod yn dysgu am wahanol liwiau drwy lafarganu. Ond dal ati i lafarganu'n dawel a synfyfyrio'n braf a wnaeth hi pan oedd y plant eraill i gyd wedi rhoi'r gorau iddi ers meitin. A da y dylent, gan i'r 'titshiar' roi gorchymyn pendant 'fold your arms'. Caiff y gantores fach freuddwydiol ddweud beth a ddigwyddodd wedyn:

'Dyma hi efo cynsan ar draws fy mreichia fi. Wel, wyddoch chi, faddeuish i ddim byth iddi tra buo hi byw am fy nghuro fi, heb sôn am fy neffro i.'

Saesneg oedd prif iaith yr ysgol yn Nefyn yn y cyfnod pan oedd Serah Trenholme yn ddisgybl yno, a 'Chân yr Wyddor' yn Saesneg oedd un o'r pethau cyntaf a ddysgodd:

Come little children, listen to me,
And I will teach you the A B C:
A B C D E F G,
H I J K L M N O P,
L M N O P Q R S T,
U V W X Y Z.

Ond chwarae teg i'r athrawes, Miss Ann Irfona Davies, dysgodd hefyd i'r plant ganu 'Cân yr Wyddor' yn Gymraeg:

A sydd am angor a B am y byd,
C am y ci, CH am chwip pan fo bryd.
D am y dyn a DD am y ddoe,
E sydd am esgid ble bynnag y boe.
F am y fegin ac FF am y ffon,
G am y geifr sydd ar ochr y fron.
NG am engyl sydd yn hedfan fry,
H am hosanau ac I am inc du.
L am lamp olau ac LL am y llaw,
M am y mochyn sy'n byw yn y baw.
N am nyth deryn ac O am olwyn gron,
P ydyw pedol i'r merlyn bach llon.
PH am botel phisig ac R am y rhaw,
S am stôl drithroed a T am tu draw.
TH am ei thelyn yn mynd i roi cân,
U sydd am utgorn, W Y am wy brân.

Cofiai Serah Trenholme yn dda hefyd am yr hen Siôn Parri a grwydrai strydoedd Nefyn i chwilio am 'blant drwg' oedd yn chwarae triwant.

' "Siôn Parri-Ty'n Cae-Hel-Plant-i'r-Ysgol" fyddan ni'n ei alw fo. A fydda'n mynd efo'i ffon fel hyn ac yn siarad efo fo'i hun: "Blyndar fawr! Blyndar fawr! Blyndar fawr!" medda'r hen gradur.'

Tâp: AWC 1979. Recordiwyd: 23.x.1968, gan Robin Gwyndaf.
AWC 1981. Recordiwyd: 23.x.1968.
Siaradwraig: Serah Trenholme (1887-1980), Garn View, Stryd y Plas, Nefyn, Sir Gaernarfon.
Ganed: 10.iv.1887 yn Ddôr Ddu, Nefyn.
Gwaith: cyn priodi bu'n gweini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n brif swyddog gyda'r Groes Goch.
Yr oedd gan Serah Trenholme gyfoeth o atgofion. Recordiwyd hi yn helaeth gan staff yr Amgueddfa Werin a gwnaed casét dwbl o'i hatgofion (Cyfres Casetiau Amgueddfa Werin Cymru, rhif 5). Bu'n sgwrsio droeon ar y radio, ac ym 1976 gwnaeth BBC Cymru ffilm ohoni yn sgwrsio gyda Robin Gwyndaf yn y gyfres 'Eira Ddoe'. Y mae ar gael yn yr Amgueddfa Werin hefyd gasgliad helaeth o'i heiddo o hwiangerddi, rhigymau a phenillion a anfonwyd ganddi i gystadleuaeth yn Eisteddfod Powys 1973 (Llsg. AWC 2186/15). Yn 1989 cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, y gyfrol Blas ar Fyw: Atgofion Serah Trenholme, Nefyn, gan Robin Gwyndaf.